Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Cerddorfa WNO: Elizabeth Llewellyn & Jiří Habart

Tocynnau: £10 - £26

Gwybodaeth

Ymunwch â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref eleni am gyngerdd gogoneddus yn cyfuno cerddoriaeth a chân rhyfeddol. Bydd y soprano glodwiw, Elizabeth Llewellyn, yn ymuno â Cherddorfa WNO i ganu cylch caneuon rhamantus Wagner, Wesendonck Lieder, a ysbrydolwyd gan bum cerdd sy’n adlewyrchu cariad gwaharddedig a hiraeth.

Ar y podiwm, bydd yr arweinydd ifanc Tsiecaidd, Jiří Habart, yn arwain rhaglen sy’n cynnwys Die Ruinen von Athen, cyfres o gerddoriaeth achlysurol ddramatig gan Beethoven sy’n cynnwys Yr Orymdaith Dwrcaidd enwog, danbaid. Yn dilyn hyn fydd preliwd cerddorfaol beiddgar a dramatig Haydn, yr agorawd o Die Schöpfung, sy’n cyfleu'r anrhefn a’r llanast sy’n rhagarwyddo mawredd Y Creu.

Daw’r cyngerdd i ben gyda Symffoni Rhif 8 orfoleddus Dvořák, sy’n fwrlwm o lawenydd a chynhesrwydd geiriol - yn ddathliad brwd o natur ac ysbryd Bohemaidd, yn cyfuno melodïau cyfoethog â themâu gwerinol, offeryniaeth soniarus a bywiogrwydd rhythmig.


Beethoven

Die Ruinen von Athen (Adfeilion Athen)

Haydn

Agorawd o Die Schöpfung (Y Creu)

Wagner

Wesendonck Lieder

egwyl

Dvořák

Symffoni Rhif 8

Digwyddiadau eraill cyn bo hir