Neidio i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a swyddi

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau. Os hoffech chi ymuno ag un o weithleoedd mwyaf creadigol Cymru - gyda hyblygrwydd a buddion rhagorol, tarwch olwg ar ein cyfleoedd gyrfa presennol.

Dadansoddwr Busnes Cyllid - Y dyddiad cau yw 16/09/25

Technegydd Lleoliad - Y dyddiad cau yw 30/09/25

Cyfleoedd ar gyfer Swyddi Academaidd: Cerddoriaeth (Academaidd)

Rydyn ni’n awyddus i ehangu ein cronfa o ymarferwyr academaidd mewn meysydd allweddol yn yr adran Gerddoriaeth.  

Drwy gyflogi gweithwyr proffesiynol gwadd, mae’n sicrhau bod ein cyrsiau’n seiliedig ar arferion diweddaraf y diwydiant a bod ein myfyrwyr yn cael profiad o weithio gydag amrywiaeth o wahanol ymarferwyr.

Ymhlith ein cyfres o gyrsiau Cerddoriaeth mae hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig ar draws yr holl adrannau offerynnol a lleisiol, jazz a chyfansoddi, ac mae’n croesawu ethos cydweithredol ar draws yr holl ddisgyblaethau cerddorol a’r adran Ddrama.

Rydyn ni’n chwilio am ymarferwyr ar gyfer gweithgareddau yn y meysydd canlynol:

• Cyfansoddi (yn cynnwys cerddoriaeth electronig)

• Mentora ar-lein (yn unigol ac mewn grwpiau) o ddarlithwyr 1:1 piano, llais, ffidil, drymiau a gitâr sy'n gweithio gyda phlant 3-12 oed.

Sylwch, nid yw hyn yn cynnwys tiwtoriaid offerynnol a lleisiol

Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y cynigir contract i chi fel Darlithydd a Delir Fesul Awr.  Ni fydd y Coleg yn gallu gwarantu isafswm nac uchafswm oriau i chi, ac ni fydd rheidrwydd ar y Coleg i gynnig gwaith i chi.  Yn yr un modd, os cynigir gwaith i chi gan y Coleg, ni fydd rheidrwydd arnoch chi i dderbyn y gwaith hwn.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn nodi’r maes rydych chi’n arbenigo/ymddiddori ynddo at lorna.hooper@rwcmd.ac.uk


Adran archwilio

Newyddion diweddaraf