Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Croeso’n ôl i Balance – Yr Arddangosfa Newydd a Gwell

Rydyn ni mor falch o weld ein Harddangosfa Balance flynyddol yn dychwelyd, gan lenwi Oriel Linbury a Theatr Bute gyda gwaith anhygoel ein myfyrwyr Dylunio blwyddyn olaf.

Mae Sean Crowley, Cyfarwyddwr Drama a Phennaeth Cynllunio ar gyfer Perfformiad yma yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, wedi rhoi o’i amser i siarad â ni ynghylch beth yw Balance, a sut mae’n cael ei ddatblygu er gwell ar ôl y pandemig:

Mae Arddangosfa Balance Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig ac, mewn rhai ffyrdd, mae’n dychwelyd fel arddangosfa wahanol iawn.

'Mae wastad wedi bod yn uchafbwynt blynyddol i’r adran Ddylunio, dathliad o waith y myfyrwyr ar draws pob maes dylunio, ar draws holl gynyrchiadau’r Coleg.'
Sean Crowley

Yn rhyfedd iawn, mae’r ddwy flynedd heb yr arddangosfa wedi rhoi cyfle cadarnhaol i ni werthuso sut y gallwn symud ymlaen i greu arddangosfa gynaliadwy a hygyrch, sy’n addas at ddibenion y dyfodol.

Balance 2022 yn Oriel Linbury

Beth sydd wedi newid?

Yn hanesyddol, yr arddangosfa Balance oedd yn cloi asesiad academaidd y myfyrwyr. Roedd y straen yn ystod y pythefnos diwethaf cyn agor yr arddangosfa yn amlwg, gyda myfyrwyr blinedig a phryderus yn gwneud camgymeriadau amlwg: dolenni gwefan yn cyfeirio at unman a phortffolios heb eu gorffen.

Fodd bynnag, ers 2020, cawsom ein gorfodi i ddod o hyd i ddulliau asesu eraill drwy wefannau ac orielau digidol sydd wedi darparu ffordd resymegol a mwy caredig ymlaen.

Bellach, y wefan yw’r elfen sy’n cael ei hasesu, ac mae lefelau straen y myfyrwyr yn cael eu rheoli drwy diwtorialau strwythuredig.

'Mae eu dysgu’n canolbwyntio ar greu presenoldeb ar y we i’r dyfodol ac nid ar y pryderon ynghylch paratoi ar gyfer noson agoriadol. Felly, mae’r arddangosfa bellach yn ddathliad go iawn o’r myfyrwyr yn camu i faes diwydiant. Ydy, mae’r myfyrwyr eisiau dangos eu gwaith gorau posib, ond nawr gallant ofyn am gyngor gan staff mewn ffordd agored.'
Sean Crowley

Mae’r ffordd rydyn ni’n creu’r arddangosfa hefyd wedi newid.

Balance 2022 yn Oriel Linbury

Y ffordd fwyaf effeithiol yn y gorffennol oedd defnyddio byrddau MDF a oedd yn cysylltu â’i gilydd.

Roedd pob arddangosfa’n defnyddio tua 200 o baneli bob blwyddyn. Roedd y paneli hyn, lle’r oedd hynny’n bosibl, yn cael eu hailgylchu a’u defnyddio yng nghynyrchiadau’r Coleg yn y dyfodol, ond yn aml roedd dros 50% yn cael eu rhoi mewn sgipiau.

Mae MDF yn ddeunydd eithriadol o anodd ei ailgylchu gan ei fod yn ddefnydd cyfansawdd o ffibr pren a glud, sy’n gallu bod yn anodd ei wahanu. Er inni ddarganfod rhai ffyrdd o ailddefnyddio rhai o’r byrddau, yn y pen draw, mae’n debyg bod pob un ohonynt wedi mynd i safleoedd tirlenwi.

'Un o’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen oedd dod o hyd i ffordd o greu’r arddangosfa gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy y gellir eu hailgylchu.'
Sean Crowley

Mae hyn wedi arwain at greu paneli gyda fframiau dur sydd wedi’u cynllunio i sefyll mewn cynhwysydd safonol yn ein gweithdy yn Llanisien.

Dyfodol Balance: Yn Gynaliadwy ac yn Hygyrch

Bydd y fframiau rydym wedi’u creu yn cael eu hailddefnyddio bob blwyddyn, gan leihau’r angen i gynhyrchu paneli newydd ar gyfer pob arddangosfa. Mae ganddynt banel o ddeunydd cynaliadwy y gellir ei ailgylchu wedi’i wneud o wenith cywasgedig a fydd, gobeithio, yn para am o leiaf bum mlynedd, os nad yn fwy!

Gellir eu datgysylltu a’u storio ar wahân, sy’n golygu y bydd gennym arbedion ariannol sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Gellir addasu onglau’r paneli, ac maent yn cynnwys tyllau fel bod modd gosod unrhyw oleuadau neu geblau.

Rydyn ni hefyd wedi dewis defnyddio paneli o wahanol feintiau a safleoedd i wella effeithlonrwydd gwneuthuriad a hygyrchedd, ac mae pob panel yn cael ei beintio â phaent sialc sy’n cynnwys dim sylweddau gwenwynig. Mae’r fframiau dur hyd yn oed wedi cael eu hadeiladu i gynnwys traed y gellir eu haddasu ar gyfer Bargehouse, gofod arddangos Balance yn Llundain sydd â lloriau anwastad.

'Yn gyffredinol, mae dyluniad ein fframiau newydd yn caniatáu system arddangos hynod o hyblyg a all fod yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddibenion gwahanol.'
Sean Crowley

Annog dull mwy cynaliadwy

Mae’r holl fyfyrwyr wedi cael eu hannog i archwilio’r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu wrth fasgio modelau a gosod lluniau. Rydym wedi gorffen defnyddio ein dalennau olaf o fwrdd ewyn, nid oes yr un bwrdd arddangos wedi’i chwistrellu, ac nid ydym wedi defnyddio clipiau teis.

Mae pobeth sy’n cael ei arddangos a phob gofod wedi cael eu creu i geisio gwneud y gwaith mor hygyrch â phosibl. Mae dau lawr uchaf Bargehouse yn dal i achosi problemau, ond rydyn ni wedi cyflwyno codau QR sydd wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod hygyrch er mwyn i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd allu cael mynediad at wefannau’r myfyrwyr.

Mae’r arddangosfa olaf yn ymgorfforiad o’r hyn rydym yn anelu ato yn y Coleg. Mae’n cynrychioli’r amrywiaeth o dalent sy’n bodoli ar draws Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan ddathlu llwyddiannau ein myfyrwyr a’n huchelgais ar gyfer y Coleg – sef bod yn gymuned sy’n meithrin ac yn edrych tua’r dyfodol.

Amrywiaeth o waith myfyrwyr yn cael ei arddangos yn Oriel Linbury

Mae lleihau ein hôl troed carbon yn daith, ac mae gennym fwy i’w wneud o hyd. Ond mae’r arddangosfa derfynol eleni’n cymryd cam mawr ymlaen yn ein dyhead a bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol am flynyddoedd a blynyddoedd i ddod.

Gobeithio y gwnewch chi ei mwynhau.

Diolch, Sean, am ysgrifennu’r blog hwn – rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn cael yr arddangosfa yn ôl yn yr adeilad.

Storïau eraill