Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Teledu ar Leoliad: #GwnaedYngNghymru

Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, nid yw’n anarferol gweld ambiwlans o Ysbyty Holby City wedi’i barcio ar stryd gyfagos, Cyberman yn cerdded i lawr y stryd fawr, neu faes parcio llawn trelars gwisgoedd a faniau arlwyo.

Ac nid Caerdydd yn unig wrth gwrs, mae Cymru wastad wedi bod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer sioeau teledu a ffilmiau ac wrth i fwy a mwy o gwmnïau cynhyrchu leoli eu pencadlysoedd yma yng Nghymru, mae mwy o gyfleoedd nag erioed i gynllunwyr a chriwiau adeiladu setiau dawnus.

Mae dros 8,000 o gwmnïau diwydiannau creadigol yn gweithredu yng Nghymru. Mae 80% o weithgareddau’r diwydiannau creadigol wedi’u crynhoi yn Ne Cymru gyda Chaerdydd yn greiddiol i hynny.
Adroddiad Diwydiannau Creadigol Clwstwr, 2020

Dal ati i ffrydio

Mae pawb ohonom wedi bod yn manteisio i’r eithaf ar ein tanysgrifiadau Netflix dros y flwyddyn ddiwethaf, a dyma rai o’r sioeau diweddar y byddech o bosibl yn gyfarwydd â nhw, a wnaed ar leoliad yng Nghymru.

Roedd Sex Education yn cynnwys llawer o leoliadau hyfryd o Frynbuga i Gaerllion a gyda llawer o’r golygfeydd wedi’u ffilmio yn ardal harddwych Dyffryn Gwy, a welir uchod, sy’n ymestyn o Gas-gwent i Dyndyrn a thu hwnt.

Yn nhrydedd cyfres The Crown, aeth y gwylwyr o Gastell Caernarfon, isod, ar gyfer Arwisgiad Tywysog Charles, i Gwmaman yng Nghwm Rhondda, lle ffilmiwyd golygfeydd trychineb Aberfan. Roedd dehongliad Netflix o chwedl y Brenin Arthur, Cursed, ymhlith y sioeau a wyliwyd fwyaf yn 2020 a does ryfedd, gyda thirweddau trawiadol fel Parc Cenedlaethol Eryri.

Ffilmiwyd The End of the F *** ing World yn Bay Studios yn Abertawe, ond roedd y gomedi ddu hefyd yn llawn o harddwch Cwm Afan.

Os oes gennych danysgrifiad Amazon Prime yna efallai eich bod hefyd wedi gwylio Watchmen HBO llynedd, gyda golygfeydd wedi’u saethu yng Nghastell Penrhyn yng Ngogledd Cymru.

Gan newid sianel i’r BBC, mae Doctor Who yn cael ei wneud yma yng Nghymru gyda golygfeydd eiconig o’r sioe, a’r gyfres Torchwood a ddeilliodd o’r cynhyrchiad, wedi’u ffilmio yn ardal Plas Roald Dahl, uchod. Ac mae’n edrych fel ei fod yma i aros gyda’r gwaith cynhyrchu yn symud i’r cwmni cynhyrchu o Gymru Bad Wolf o 2023 ymlaen.

Ac nid dyna’r unig ddrama arallfydol all alw Cymru yn gartref iddi, cafodd Stryd Pontcanna yng Nghaerdydd ei throi’n Rhydychen a’r porth i fyd arall yn His Dark Materials, a wnaed hefyd gan Bad Wolf.

Cynllunydd set/cynhyrchiad dwy gyfres gyntaf o The Discovery of Witches ar Sky oedd neb llai na James North – a raddiodd o’r Coleg ac sy’n Gymrawd CBCDC. Adeiladwyd y setiau anhygoel gan 4Wood, sy’n gysylltiedig â Bad Wolf, y mae ei waith i’w weld yn llawer o’r sioeau a grybwyllir yma.

Gall myfyrwyr ar ein cyrsiau Adeiladu Golygfeydd a Chynllunio ar gyfer Perfformio fynd ar leoliad gyda’r cwmni, gan ei fod yn un o bartneriaid diwydiant CBCDC.

Ffilmiwyd golygfeydd mewnol ar gyfer I Hate Suzie Sky gyda Billie Piper yn bennaf yn Stiwdios Bad Wolf yng Nghaerdydd a hefyd Industry, oedd wedi’i osod ynLlundain, gyda’r criwiau i’w gweld allan o gwmpas Nghaerdydd a Chasnewydd yn ffilmio. Cadwch lygad am ail gyfres o hon, gyda golygfeydd wedi’u ffilmio yn y Coleg dros yr Haf.

Pwy a Ble?

CBCDC

Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Ac Yn Gymraeg

Sir Gaerfyrddin oedd y lleoliad ar gyfer Un Bore Mercher/Keeping Faith, gyda Eve Myles a raddiodd o’r Coleg yn serennu, a datgelodd Y Gwyll/Hinterland dirweddau tywyll, llawn naws Ceredigion. Dyma hefyd leoliad drama newydd S4C a Channel 4, Y Golau/The Light In The Hall, gan barhau â’r duedd o ddramâu yn cael eu ffilmio ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg.

Roedd The Pembrokeshire Murders a welwyd yn ddiweddar ar ITV yn adrodd hanes y llofrudd cyfresol o Gymru, John Cooper, gyda rhan y ditectif Steve Wilkins yn cael ei chwarae gan Gymrawd CBCDC Luke Evans, ochr yn ochr ag Alexandria Riley a raddiodd o’r Coleg, ymhlith eraill.

Mae’r rhestr o ddramâu teledu mawr a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel petai’n ddiddiwedd, ac mae’n cynnwys CasualtySherlockMerlinThe AccidentBeing HumanBritanniaGangs of LondonA Brave New WorldA Very English ScandalRequiemDa Vinci’s DemonsOrdinary LiesTraitorWolf HallDecline & FallThe WidowThe Pact a mwy, llawer ohonynt yn cynnwys graddedigion CBCDC. Faint ydych chi wedi’u gweld?

Yn olaf, ni allwn siarad am sioeau teledu yng Nghymru heb grybwyll cyfresi eiconig Gavin & Stacey sydd wedi gwneud Ynys y Barri yn enwog. Cofiwch ymweld â Chaffi Marcos am sglodion.

Mae llawer o’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio ar gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru, a gyda’r diwydiant yn tyfu yma, mae’n ymddangos y bydd hyn yn parhau.

Storïau eraill