Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cwmni Theatr Flying Bedroom: Ymddiriedaeth a Gwaith Tîm

Wrth ddal i fyny wedi Haf prysur, cawsom gyfle i sgwrsio â phedwar aelod o Gwmni Theatr Flying Bedroom ynglŷn â theithio, ymddiriedaeth, cydweithredu a’r dyfodol.

Mae’r cwmni’n cynnwys myfyrwyr Cerddoriaeth a Chynllunio ar gyfer Perfformio ac mae ei gynhyrchiad cyntaf wedi bod yn broses hir ers y syniad gwreiddiol. Ffurfiwyd y cwmni yn ystod y cyfnod clo cyntaf – gallwch ddarllen am hyn yn y postiad y mae dolen iddo isod – ac o’r diwedd cawsant gyfle i berfformio eu sioe plant i’r gynulleidfa y bwriadwyd hi ar ei chyfer fis Gorffennaf diwethaf yng Ngŵyl Gelfyddydau i’r Teulu Theatr Clwyd, ac yna teithio o amgylch ysgolion Gogledd Cymru ym mis Medi.

‘Grŵp rhyfeddol o artistiaid ifanc sy’n llawn brwdfrydedd ac angerdd am y prosiect hwn, a bywyd yn gyffredinol, yw ‘The Flying Bedroomers’.

Mae creu sioe fel hon ar unrhyw adeg yn gryn gyflawniad, ond mae llwyddo i wneud hynny yn ystod y deuddeg mis diwethaf yn gwbl ryfeddol. Roedd eu proffesiynoldeb yn ystod ein cyfarfodydd a hefyd eu tri pherfformiad yn ein Gŵyl Gelfyddydau i’r Teulu yn ddi-fai a’u dyhead i ddysgu yn ysbrydoledig.’
Aled MarshmanCyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Theatr Clwyd

Ymddiriedaeth a chydweithredu

Roedd adeiladu’r cwmni dros y cyfnod clo yn gofyn am ymddiriedaeth, ymroddiad ac angerdd a rennir am y prosiect.

Disgrifiodd Ruby Brown, a raddiodd yn ddiweddar ar y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio, un o’r heriau a wynebwyd gan y cwmni pan oedd yn teithio: Gorfod addasu’r perfformiad ar gyfer ‘eglwys fach iawn’. ‘

Mae’n gofyn am lawer o ymddiriedaeth’ eglurodd Mary Johnson, offerynnwr taro yn ei blwyddyn olaf. ‘Gwnaethom gyrraedd yno ac edrych ar y gwagle a meddwl beth ar y ddaear ydyn ni am wneud! Doedd dim i’w wneud ond parhau. Rhaid i chi ymddiried ym mhawbi gefnogi ei gilydd, ac mae honno’n nodwedd gref yn y cwmni.’

Cred Ruby fod tarddiad y cwmni wedi helpu gyda hyn, gan iddynt ddod yn griw agos dros Zoom cyn iddynt gamu i’r ystafell rishyrsio. ‘Roedd cael y cyfnod dwys hwnnw o amser ar y dechrau pan nad oeddem yn gwneud unrhyw beth arall wedi helpu i gryfhau’r berthynas.’

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Wrth i’r broses ddatblygu ddechrau mynd rhagddi yng nghanol cymaint o gyfyngiadau, eglurodd Ruby y rhyddid oedd i’w deimlo wrth allu ail-ddarganfod y sioe gyda blocio (symudiadau perfformwyr ar draws y llwyfan) newydd.

‘Roeddem mor gyfarwydd â’r sioe ond yn gorfod gweithio o fewn rheolau mor llym, dwy fetr o bellter oddi wrth ein gilydd, ac yna roedd cael gwared â’r rheolau hynny yn brofiad mor gyffrous.’

Cefnogaeth gan y Coleg

Roedd cael cefnogaeth gan y Coleg yn golygu eu bod yn gallu archwilio gwahanol syniadau a dulliau, a gwneud camgymeriadau.

‘Ni fyddai wedi digwydd heb yr angerdd oedd gan bob un o’r saith ohonom ac ni fyddai chwaith wedi digwydd heb ofodau yn y Coleg.
Rydym yn ddiolchgar dros ben am yr holl gyfleoedd a’r nawdd yr ydym wedi’u cael, er mwyn ein cefnogi yn arbennig ar y dechrau pan wnaethom ganfod y peth rhyfeddol hwn ond angen amser i’w archwilio a phenderfynu beth oeddem am ei wneud ag ef.’
Mary JohnsonCerddoriaeth, Offerynnau Taro

Mae Ruby’n cytuno, ‘Mae’r Coleg yn wych am annog Cynllunwyr i archwilio eu meysydd a gwneud pethau gwahanol. Cawn gyfleoedd i fod yn gynllunwyr a gwneuthurwyr pypedau ond hefyd i fod yn berfformwyr os ydym am wneud hynny. Bu ddiddordeb gen i erioed i greu fy theatr fy hun ac archwilio sut rydych yn gwneud hynny o safbwynt Cynllunio.’

Roedd Ruby a’i chyd Gynllunydd graddedig Bea Viña-Miller yn gallu cyflwyno eu gwaith gyda’r cwmni fel rhan o’u modiwl astudiaethau arbenigol.

O safbwynt y myfyriwr cyfansoddi Natalie Roe, roedd hwn yn ‘gyfle gwych’ iddi. ‘Roedd yn golygu y gallwn brofi’r profiadau y bydd perfformwyr yn eu cael ac mae hyn wedi dylanwadu ar fy ysgrifennu creadigol.’

Myfyriwr Cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth greadigol CBCDC Natalie Roe

Gweithio gydag ysgolion

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Oherwydd cyfyngiadau’r flwyddyn ddiwethaf, i rai plant hwn oedd eu tro cyntaf yn ôl yn yr ysgol yn profi perfformiad gyda’i gilydd.

‘Mae’n bosib na fyddai rhai o’r plant ieuengaf wedi gweld unrhyw waith theatr cyn hyn. Roedd yn brofiad pleserus i ddarparu hynny ar eu cyfer,’ meddai Ruby.

Gan mai dim ond i oedolion y perfformiwyd y sioe cyn hyn, disgrifiodd Natalie hoff ran ei phrofiad:

‘Rydw i wrth fy modd yn gweld ymateb y plant a chlywed am yr effaith gadarnhaol a gafodd y sioe ar y plant.

Clywsom gan athrawon a rhieni fod y plant nawr wedi dechrau dysgu chwarae gwahanol offerynnau, neu dysgu sut i actio, neu eu bod yn holi am yr elfen gynllunio. Mae clywed eu bod wedi cael eu hysbrydoli yn brofiad braf iawn.’
Natalie RoeMyfyriwr Cyfansoddi

Gwnaethant hwythau hefyd ddysgu gwersi, gan ganfod drostynt eu hunain sut i egluro popeth i’r plant mewn 40 munud. Hefyd, gwneud yn siŵr nad oeddent yn colli diddordeb y plant drwy ddefnyddio termau a fyddai o bosibl yn anghyfarwydd iddynt.

Eglurodd Mary pam iddynt benderfynu cynnal gweithdy o dan arweiniad y cwmni wedi’r sioe yn hytrach na chyn y perfformiad: ‘Mae’n bwysig iawn i gael ymddiriedaeth y plant i ddechrau. Rydym eisiau eu croesawu i’r byd, ac rydych am iddynt deimlo wedi eu hysbrydoli.’

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Y Dyfodol ar gyfer y Flying Bedroomers

Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi cael ‘effaith raeadrol’ ar gyfleodd meddai’r Feiolinydd Chloë Dickens. ‘Nawr ein bod yn camu i’r byd proffesiynol, yn rhwydweithio ac yn cyfarfod â modelau rôl yn y diwydiant, mae’r sioe hon wedi rhoi pwnc gwych i siarad amdano, i allu dweud ein bod yn rhan o’r cwmni theatr newydd hwn sydd eisoes wedi bod yn llwyddiannus dros ben.’

Ei cham cyffrous nesaf yw dychwelyd i Theatr Clwyd i gysgodi actorion-cerddorion yn ystod y tymor y Panto. Bydd aelod arall o’r cwmni, Michael Needle, yn ymuno â hi yno, yn cysgodi cynhyrchwyr.

‘Rydym yn cadw gyda’n gilydd ac yn ceisio creu mwy o waith a chyflwyno mwy o sioeau mewn gwahanol leoliadau,’
Mary JohnsonCerddoriaeth, Offerynnau Taro

Er bod y cwmni yn sôn am sioe arall, pwysleisiodd Mary mai dim ond yn y ‘camau cynnar’ y mae hynny.

Mae pawb ohonom yn edrych ymlaen ar weld beth fydd y cwmni yn ei wneud nesaf.

Diolch i Gwmni Flying Bedroom ac i Ruby, Natalie, Mary a Chloë am sgwrsio â ni.

  • Bea Viña-Miller – Graddedig, Cynllunio ar gyfer Perfformio
  • Ruby Brown – Graddedig, Cynllunio ar gyfer Perfformio
  • Natalie Roe – Cerddoriaeth, Cyfansoddi
  • Mary Johnson – Cerddoriaeth, Offerynnau Taro
  • Michael Needle – Cerddoriaeth, Llinynnau
  • Mischa Jardine – Cerddoriaeth, Llinynnau
  • Chloë Dickens – Cerddoriaeth, Llinynnau

Storïau eraill