Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Syr Bryn Terfel yn cydweithio â CBCDC i gefnogi artistiaid ifanc

Ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror, ychydig cyn i Gymru a Lloegr wynebu ei gilydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, cyhoeddodd Syr Bryn Terfel CBE, un o gantorion gorau’r byd, fenter newydd gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, conservatoire cenedlaethol Cymru, y mae ei gartref ond dafliad carreg o gartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality.

Cronfa Syr Bryn Terfel

Gan eu bod yn rhannu’r penderfyniad i roi mwy o sylw i bwysigrwydd y celfyddydau yn ein cymdeithas a hyrwyddo cenedlaethau o grewyr a pherfformwyr yn y dyfodol, mae CBCDC a’i Is-lywydd Syr Bryn wedi lansio Cronfa Syr Bryn Terfel i greu ffynhonnell newydd sylweddol o gymorth ar gyfer hyfforddiant artistiaid ifanc dawnus yn y Coleg.

Lansiwyd Cronfa Syr Bryn Terfel yn nigwyddiad codi arian Canu’r Dydd, a gynhaliwyd gan Bryn.

Roedd yr amser cinio yn cynnwys cwrs cyntaf eu cyrsiau gradd o bob adran ym maes cerddoriaeth yn perfformio ac yn canu gyda Bryn fel rhan o fodiwl Cerddor Integredig CBCDC, sy’n dathlu’r gerddoriaeth

Trawsnewidiwyd bywyd Bryn drwy ganu a’r cyfleoedd arbennig a gafodd pan oedd yn ifanc. Bydd Cronfa Syr Bryn Terfel yn waddol newydd, wedi’i ddatblygu gyda CBCDC, i ddarparu cyfleoedd tebyg gan ganolbwyntio ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr na fyddent fel arall yn gallu elwa gan yr hyfforddiant uwch a ddarperir yn y Coleg oherwydd rhwystrau ariannol.

Mark Lewis Jones, Bryn Terfel a April Koyejo-Audiger

Bydd hefyd yn ariannu prosiectau sy’n dathlu treftadaeth gerddorol Bryn ac yn adlewyrchu ei angerdd dros y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, gan ddechrau yn 2025 gyda gwobr y gân newydd ryngwladol yn cael ei chynnal bob dwy flynedd. Gan ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog mewn diwylliannau unigol a photensial mynegiant grymus drwy wahanol ieithoedd, bydd gofyn i gystadleuwyr gynnwys o leiaf un gân yn Gymraeg ac un yn eu hiaith eu hunain yn eu rhaglenni.

Holly Saunders a Lauren Morais yn perfformio cerdd a gomisiynwyd yn arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood

Bydd yn agored i gantorion o’r Coleg ond hefyd o gonservatoires eraill y DU a Cholegau rhyngwladol, a bydd yr enillydd yn derbyn gwobr gwerth £5,000.

Rhowch nawr

Aeth rhywbeth o’i le

Storïau eraill