Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Y Gantores Dionne Bennett: Cadeirydd Grŵp Cynghori ar Amrywiaeth CBCDC

Canwr, cyflwynydd, addysgwr a chadeirydd Panel Cynghori ar Amrywiaeth y Coleg – Dionne Bennett yn rhoi o’i hamser i sôn mwy wrthym am ei hun…

Helo, Dionne Bennett ydw i, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd, a phersonoliaeth radio o dras Prydeinig/India’r Gorllewin. Rwy’n angerddol iawn ynglŷn ag amrywiaeth yn y celfyddydau ac yn y sector addysg cerddoriaeth mwy ffurfiol ac rydw am i bobl ddu deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u cynrychioli yn y meysydd hyn.

Fi yw cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Amrywiaeth yn y Coleg, sy’n helpu i sicrhau bod cerddoriaeth ddu a mwy o artistiaid du ac amrywiol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm ac yn y Coleg.

Ochr yn ochr â hynny rwy’n gweithio gyda myfyrwyr Jazz ar brosiect llais, gan roi’r cyfle iddynt chwarae a pherfformio cerddoriaeth ddu o wahanol genres, yn ogystal â chwalu natur hierarchaidd y gerddoriaeth a glywir o fewn colegau, tra’n gwerthfawrogi gwaith artistiaid du a’u dylanwad ar gerddoriaeth.

Dilynais fy mreuddwydion ar ôl dioddef pwl o asthma aciwt lle cefais fy rhoi mewn coma a cholli’r gallu i siarad a chanu oherwydd traceotomi.

A dyma fi, yn ysgrifennu’r postiad blog ac yn gyffro i gyd nid yn unig oherwydd fy ngyrfa fy hun, ond oherwydd y newidiadau mawr eu hangen a hir-ddisgwyliedig rydym yn eu gweld yn y celfyddydau yn ddiweddar – mwy o gynhwysiant, mwy o gynrychiolaeth, mwy o amrywiaeth, mwy o newid cadarnhaol yn y celfyddydau ac mewn cymdeithas.'
Dionne Bennett

Gweithio gyda’r myfyrwyr – ffrwydro’r repertoire!

Mae’r myfyrwyr a minnau wedi bod yn gweithio ar genres Canu’r Enaid, Canu’r Enaid Newydd a Ffync yn ogystal â Reggae a Lovers Rock.

Yn ddiweddar perfformiais Explode the Repertoire II gyda myfyrwyr jazz Coleg Brenhinol Cymru.

Y syniad y tu ôl i’r perfformiadau hyn oedd taflu goleuni ar gyfoeth cerddoriaeth a chaneuon poblogaidd du, yn amrywio o Jazz a Chanu’r Enaid i Motown a Reggae. Mae gweithio gyda chantorion jazz wedi bod yn brofiad hynod bleserus a gwerth chweil.

'Taflodd y myfyrwyr eu hunain i mewn i’r prosiect: roedden nhw’n gwybod pa mor bwysig oedd rhoi sylw i genres cerddoriaeth a dawn gerddorol ddu ac i mi roedd gallu dod i CBCDC eto i arwain ac annog eu perfformiadau yn bleser, a’r canlyniad oedd noson wych o gydnabod a dathlu cerddoriaeth ddu.'
Dionne Bennett

Gwnaed argraff fawr arnaf gan yr holl fyfyrwyr a sut y gwnaethant berfformio; pob un ohonynt yn canu’n hyfryd. Roedd gwylio sut roedd y myfyrwyr wedi amsugno’r gerddoriaeth ac yn ymdrin â’r caneuon gyda dealltwriaeth a theimlad yn bleser pur.

Hefyd, roedd cael yr holl gantorion ar lwyfan yn canu gyda mi ar y diwedd yn gymaint o hwyl. Roedd hi’n noson a oedd yn rhoi sylw i gynifer o genres cerddoriaeth ddu wedi’u harwain gan y llais, ac ar ôl siarad â’r gynulleidfa, yr unig beth a allai fod wedi gwneud y noson yn well fyth, yw pe byddent wedi gallu codi a dawnsio erbyn diwedd y sioe… Y tro nesaf!

Doedd dewis y darnau i’w perfformio ddim yn hawdd gan fod cymaint o ganeuon gwych, ond yn gyntaf ac yn bennaf roeddwn i eisiau tynnu’r cantorion allan o sefyllfa lle roeddent yn teimlo’n gyfforddus ynddi drwy ddefnyddio eu llais a’u dawn mewn ffyrdd nad oeddent wedi’i wneud o’r blaen neu mewn modd nad oedd yn arddull canu diofyn iddynt.

'Roeddwn eisiau i’r gerddoriaeth ehangu eu dull technegol a gwella eu gallu a’u hyblygrwydd yn y ffordd maent yn canu. Roedd cadw hyn mewn cof wedi fy helpu i lunio rhestr o draciau sy’n crynhoi’r genres roeddwn am iddynt eu harchwilio, a thraciau oedd yn rhoi lle i’r offerynwyr fynegi eu hunain. Dydw i chwaith ddim yn un ar gyfer yr amlwg!'
Dionne Bennett

Y cam nesaf yw teithio gyda’r sioe! Rydym wedi datblygu noson o gerddoriaeth ac wedi’i galw’n Blue Summer a byddwn yn mynd â’r gwaith rydw i wedi bod yn ei ddatblygu gyda’r myfyrwyr jazz o amgylch Cymru i leoliadau ac ysgolion lle nad yw cerddoriaeth ddu yn cael ei chlywed yn draddodiadol.

Mae hon yn genhadaeth bersonol i mi ac rydw i mor gyffrous am yr elfen hon o’r prosiect.

'Mae cael cerddoriaeth ddu mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chonservatoires yn rhywbeth sydd angen ei normaleiddio. Mae’n chwalu natur hierarchaidd o feddwl am gerddoriaeth ac yn rhoi parch a chydnabyddiaeth i ddawn gerddorol ddu yn ei amrywiol ffurfiau.

Mae prosiect fel hwn yn agor llwybrau a phosibiliadau ar gyfer creu ac astudio cerddoriaeth mewn ffyrdd na fyddai person ifanc byth yn meddwl sy’n bosibl'
Dionne Bennett

Pwysigrwydd cynrychiolaeth

Fi hefyd yw cadeirydd y rhwydwaith cerddoriaeth llawr gwlad Ladies of Rage. Grŵp o fenywod a phobl anneuaidd ydym ni sy’n gweithio (a hefyd rhai sydd eisiau gweithio) ym myd cerddoriaeth MOBO (Cerddoriaeth o Darddiad Du) yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Sefydlwyd y rhwydwaith i gefnogi menywod mewn genres MOBO a cherddoriaeth electronig yng Nghymru ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn amlygu anghydbwysedd y diwydiant o ran menywod a phobl anneuaidd mewn cerddoriaeth.

Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth ac yn eiriol dros raglenni 50/50 a chynnwys menywod wrth raglennu ar gyfer gigs a digwyddiadau ac wrth gyfrannu at greu mannau diogel i fenywod ac artistiaid anneuaidd berfformio.

Daeth y LOR a’r Coleg ynghyd yn ddiweddar i weithio ar brosiect Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i archwilio mynediad i’r celfyddydau i’r rheini nad ydynt efallai’n teimlo ei fod ar eu cyfer hwy.

Diolch, Dionne!

Cynhyrchwyd albwm unigol cyntaf Dionne Sugar Hip Ya Ya gan Enillydd International Blues Challenge, enwebai Gwobr Blues Music UDA, enwebai ddwywaith ar gyfer Gwobr Blues Blast Music, Little G Weevil.


Storïau eraill