Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Adeiladu Golygfeydd: Creu graddedigion sy’n barod ar gyfer diwydiant

Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cynyrchiadau ffilm a theledu dros y ddegawd ddiwethaf, gyda chwmnïau byd-eang megis Bad Wolf a Severn Screen yn gwneud Cymru yn gartref iddynt, a Netflix, Lucasfilm a rhagor o gwmnïau yn ffilmio yma.

Mae ei lleoliadau amrywiol a gweithlu medrus Cymru yn denu dramâu sydd wedi’u canmol gan y beirniaid yn ogystal ag epigau hynod lwyddiannus. #gwnaedyngnghymru llawer iawn o’r hyn a welwn ar ein sgriniau.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Mae’r diwydiant yn ffynnu’n fawr ar hyn o bryd, ac mae gan Gymru gyfuniad rhyfeddol o asedau. Mae gennym gyfleusterau llwyfan rhagorol, tirweddau godidog, a doniau gwych yng Nghymru, ac wrth gwrs roeddwn wrth fy modd – a minnau’n Gymraes – i weld hyn.'
Lynwen BrennanCymrawd CBCDC, Is-lywydd Gweithredol a Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm Ltd.

Mae adeiladu golygfeydd yn un sgil cynhyrchu y mae galw digynsail amdani.

Gyda sioeau fel His Dark Materials, Willow, Sex Education, Y Golau/Light in the Hall i gyd wedi’u gwneud yng Nghymru, mae gwaith adeiladu setiau yn ffynnu ac mae angen cynyddol am dechnegwyr hyfforddedig sy’n frwd dros y diwydiannau llwyfan a sgrin. Mae crefftwyr medrus wedi gadael y gweithdai mwy traddodiadol, sydd wedi creu prinder gwirioneddol mewn diwydiant.

‘Mae’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru angen pobl sydd â sgiliau cynllunio ac adeiladu golygfeydd a phrofiad ymarferol, technegol cadarn i weithio yn ein hadrannau celf, a hynny ar frys. Mae cwrs Adeiladu Golygfeydd CBCDC yn un ffordd yr ydym yn llenwi’r bwlch hwn, ac rydym wedi gweld bod graddedigion o’r Coleg yn dod yn aelodau hirsefydledig o’r Wolf Pack, gan symud o un cynhyrchiad i’r llall.

Y peth gwych am raddedigion CBCDC yw bod ganddynt etheg gwaith mor wych, a sylfaen o sgiliau hollgynhwysfawr cadarn. Mae hyn yn golygu y gallant blymio’n syth i’r gwaith unwaith y byddant yn ymuno â ni.’
Hannah RaybouldRheolwr Gweithrediadau, Bad Wolf

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd CBCDC yw’r unig un o’i bath yn y wlad, sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r prinder sgiliau hwn ar draws y sector creadigol a pharatoi crefftwyr sy’n barod ar gyfer y diwydiant.

Mae’r cwrs dwy flynedd wedi’i leoli yn ein gweithdai llawn offer, lle mae myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau crefft craidd megis gwaith coed, gwaith metel a weldio, sy’n hanfodol ar gyfer adeiladu setiau ffilm a theatr.

‘Nid oes cwrs sy’n arbenigo yn y maes hwn wedi bodoli’n o’r blaen, roedd pobl yn aml yn baglu i mewn iddo, fel y gwnes i’, eglura Mike Robinson, arweinydd cwrs Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd CBCDC.

'Yn ogystal â dysgu sgiliau craidd y proffesiwn, mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gyfnodau o leoliadau yn y diwydiant, ac mae myfyrwyr yn gweithio gyda’r Coleg a gyda’n partneriaid proffesiynol yn y diwydiannau theatr, teledu a ffilm.'
Mike RobinsonArweinydd cwrs Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd CBCDC.
Lyra a Will, dau brif gymeriad ifanc His Dark Materials

Rydym yn gweithio gyda rhai o’r cwmnïau adeiladu golygfeydd mwyaf a mwyaf clodfawr yn y DU. Mae ein partneriaid presennol yn cynnwys Wild Creations, a redir gan Matt Wild, un o raddedigion CBCDC; 4Wood, un o’r cwmnïau adeiladu a sefydlwyd diolch i’r gyfres ddychwelyd a wnaed gan Bad Wolf, sy’n un o’r cwmnïau sy’n adeiladu setiau ar gyfer Doctor Who ymhlith llawer o brosiectau eraill; Gwasanaethau Theatrig Caerdydd sy’n adeiladu setiau ar gyfer holl sioeau Opera Cenedlaethol Cymru, ac ar gyfer cwmnïau eraill mor bell i ffwrdd ag UDA ac Awstralia; a Bay Productions, sy’n gweithio gyda chwmnïau celfyddydol mawr gan gynnwys y National Theatre a Disney ac yn gwneud setiau ar gyfer sioeau’r West End.

Yn rhyfeddol, mae pob un ohonynt wedi’u lleoli o fewn milltir sgwâr i Gaerdydd, sy’n dweud rhywbeth am safle pwysig y brifddinas yn niwydiant ffyniannus y DU.

Mae’r cwrs yn agored i fyfyrwyr ag ystod o brofiadau a chefndiroedd. Nid oes angen profiad adeiladu blaenorol arnoch i gael lle:

‘Rydym yn chwilio am fyfyrwyr llawn angerdd, dyfeisgar, creadigol sy’n barod i gael eu herio a rhoi cynnig ar bethau newydd. Rydym yma i ddysgu’r sgiliau iddyn nhw, y cyfan sydd ei angen arnynt yw’r angerdd am y gwaith.'
Mike RobinsonArweinydd cwrs Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd CBCDC.

Allow TikTok content?

Lorem ipsum doler sit amet TikTok seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

'Roedd un o’n myfyrwyr wedi astudio gwaith coed safle adeiladu ond yn methu gweld ei hun yn gweithio ar y safle, daeth sawl un arall yn syth wedi cwblhau eu harholiadau Safon uwch, ond oedd ddim am weithio mewn swyddfa na threulio’r diwrnod cyfan mewn darlithoedd – dyma’r union beth yr oeddent yn chwilio amdano.

Roedd un arall yn gweithio ym maes adeiladu, gan wneud popeth o osod ceginau i deilsio. Doedd e erioed wedi meddwl mynd i’r brifysgol cyn iddo ddod ar draws y cwrs.’

‘Mae yna lawer iawn o opsiynau yn y diwydiant ffilm beth bynnag yw eich set sgiliau. Beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, mae’n siŵr bod lle i chi yn y diwydiant ffilm.
Daliwch i gnocio ar y drws, oherwydd mae ar gael i chi ac mae ar gael i chi yma yng Nghymru.’
Lynwen BrennanCymrawd CBCDC, Is-lywydd Gweithredol a Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm Ltd.

Gyda diolch i Bad Wolf/Cymru Greadigol/Lucasfilm/Disney+

Storïau eraill