Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Chwythbrennau CBCDC: Blwyddyn gyffrous o gyngherddau ac artistiaid gwadd

Mae Clwb Clarinét misol newydd wedi dod â llu o gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr adran Chwythbrennau CBCDC, gan roi cyfle iddynt weithio gyda cherddorion ysbrydoledig o bob rhan o Ewrop fel y dywed y fyfyrwraig clarinét, Hannah Findlater:

Sefydlodd ein Pennaeth Chwythbrennau, Robert Plane, y Clwb Clarinét ddechrau llynedd, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y chwaraewyr chwythbrennau anhygoel sy’n teithio drwy Gaerdydd, naill ai’n ymweld â Neuadd Dewi Sant neu’n chwarae fel gwesteion gyda BBC NOW neu Gerddorfa’r WNO.

Yn ogystal â dosbarth meistr gyda Julian Bliss, rydym wedi cael y cyfle i weithio gyda llawer o glarinetwyr proffesiynol, gan gynnwys Ben Mellefont a Maura Marinucci:

‘Mae manteisio i’r eithaf ar yr artistiaid gwych sy’n dod i weithio yng Nghaerdydd wedi bod yn ganolog i’m cynlluniau ar gyfer yr adran chwythbrennau eleni,’ meddai Robert.

‘Mae myfyrwyr yn dysgu cymaint drwy glywed persbectif gwahanol ar y materion a wynebir ganddynt, a gallu trafod y rhain yn fanwl mewn sefyllfa grŵp yn ein ‘clybiau’ chwythbrennau.

Mae gweithio gyda chewri’r byd chwythbrennau yn rhywbeth na fyddwch byth yn ei anghofio fel myfyriwr, ac rydyn ni gyd wedi bod yn gwrando’n astud ar bob gair maen nhw’n ei ddweud’.
Robert Plane

Noson o opera Eidalaidd

Dechreuodd y Clwb Clarinét ym mis Tachwedd gyda gweithdy’n ymdrin â chwarae cerddorfaol gyda Maura Marinucci, Prif Glarinetydd Cerddorfa Ffilharmonig Brwsel.

Ymunodd y clarinetydd Catrin Davies â dosbarth meistr Maura;

‘Nid yn aml cawn ddysgu am rywbeth mor benodol ag opera Eidalaidd mewn cymaint o fanylder a hynny gan rywun sy’n gymaint o arbenigwr yn y maes! Rhoddodd awgrymiadau defnyddiol iawn i ni ar gyfer delio â nerfau perfformio wrth baratoi ar gyfer clyweliadau cerddorfaol.’
Catrin Davies

Gwers mewn perfformiad unawdol

Ym mis Chwefror daeth Han Kim, unawdydd o fri, cerddor siambr a phrif glarinetydd presennol Cerddorfa Symffoni Radio’r Ffindir atom. Ar hyn o bryd mae ar gyfnod prawf gyda BBC NOW ac mae wedi ymddangos mewn cyfres o gyngherddau yn y Gwanwyn.

Perfformiodd Eleanor Kershaw Fantasi Sonata John Ireland yn nosbarth meistr Han:

‘Ar ôl gwylio Han Kim yn perfformio Symffoni Rhif 1 Brahms (?) gyda BBC NOW, roedd yn anhygoel cael y cyfle i ddysgu ganddo. Daeth â syniadau newydd i ddarn rydw i wedi bod yn gweithio arno ers tro, ac mae ei ddull o frawddegu ac archwilio gwahanol liwiau wedi helpu i wella fy nealltwriaeth o’r darn yn fawr.’
Eleanor Kershaw

Dysgu gan un o’r goreuon

Un o uchafbwyntiau arbennig y tymor diwethaf oedd ymweliad Julian Bliss, un o glarinetwyr clasurol a jazz gorau’r byd, a ddangosodd ei ddawn a’i rinweddau mewn cyngerdd hwyrol llawn ysbrydoliaeth yn Neuadd Dora Stoutzker.

Arweiniodd Julian ddosbarth meistr gyda’r myfyrwyr clarinét y diwrnod canlynol, ac roedd hwn yn brofiad a fydd yn aros yn y cof am amser hir. Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed am ei daith i’r byd proffesiynol, yn enwedig ei brofiadau’n astudio, perfformio, a recordio gyda’r clarinetydd Sabine Meyer yn ninas Berlin.

Mynychodd y clarinetydd blwyddyn olaf Meg Davies y cyngerdd ac yna perfformiodd mewn dosbarth meistr gyda Julian y diwrnod canlynol:

‘Roedd gweithio gyda Julian yn agoriad llygad ac yn brofiad dwys iawn. Roedd yn anhygoel gweld y gwelliant cyflym a wnaeth i fy chwarae mewn cyfnod mor fyr.’

Cafodd Emma Keskeys gyfle hefyd i gymryd rhan yn nosbarth meistr Julian;

‘Roedd perfformio i un o fy arwyr yn deimlad anhygoel. Rhoddodd adborth defnyddiol iawn i mi ac rydw i wedi bod yn gweithio i gynnwys hynny yn fy chwarae.’
Emma Keskeys

Roedd ein Clwb Clarinét ym mis Mawrth, a arweiniwyd gan Tom Verity o’r WNO, yn ymwneud â cherddoriaeth Klezmer ac rydym yn edrych ymlaen at ymweliad Kath Lacey o’r RPO ym mis Ebrill.

Mae’r offerynnau eraill hefyd wedi bod yn mwynhau eu ‘clybiau’. Yn ddiweddar, cafodd y Clwb Sacsoffon ddosbarth meistr gyda John Cooper yn ymdrin â rôl y sacsoffon yn y gerddorfa, a chafodd y baswnau gyfle i weithio gyda’r Baswnydd Dwbl CBSO Margaret Cookhorn.

Dilynnwch #ChwythbrennauCBCDC ar Instagram i gael gwybodaeth am ein gweithgareddau diweddaraf.

Storïau eraill