Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ail-ddelweddu Hen Lyfrgell Caerdydd

Ym mis Chwefror lansiwyd pen-blwydd y Coleg yn 75 oed mewn digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd arbennig a gynhaliwyd yn yr Hen Lyfrgell gyda phrosiect sydd hefyd yn edrych ymlaen, gan greu preswyliad yn yr adeilad treftadaeth hwn a fydd, gobeithio, yn gwneud cyfraniad sylweddol i Gaerdydd ac i Gymru.

Mannau trawsnewidiol hen a newydd

Mae’r Hen Lyfrgell hefyd yn mynegi ein hymrwymiad i esblygu arferion y celfyddydau perfformio trwy ddulliau perfformio mwy anffurfiol a ffurfiau bywiog a mwy cynhwysol o gyfranogi.

Ar ôl gwneud cais llwyddiannus am brydles 99 o flynyddoedd ar yr adeilad gwych hwn, ein gobaith yw y bydd ein cynlluniau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Gaerdydd mewn cyfnod heriol iawn, gan wneud Caerdydd yn Ddinas Cerddoriaeth a dinas sydd wedi ymrwymo i ddiwylliant.

Trawsnewidiodd y mannau newydd a adeiladwyd ar ein campws ar Ffordd y Gogledd yn 2011 y graddau y gallwn gysylltu â’r cyhoedd – fel cynulleidfaoedd ar gyfer ein rhaglen greadigol. Ar un adeg, dim ond ychydig filoedd oedd yn dod i weld ein gwaith bob blwyddyn, ond rydym bellach yn cofnodi bod dros 55,000 yn eu mynychu bob blwyddyn. 

Gwyddom y gall y profiadau hyn roi budd aruthrol i les a chreadigrwydd, yn ogystal ag i’n myfyrwyr, y mae cael eu trwytho mewn canolfan gelfyddydau yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus o ddysgu iddynt.

Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru, Hydref 2022

Pam yr Hen Lyfrgell?

Mae’r byd yn newid yn gyflym iawn ac, o fewn hyn, mae’r celfyddydau perfformio, os rhywbeth, ond yn dod yn bwysicach ar gyfer lles, i adrodd straeon ac i bob llais gael ei glywed - i wneud synnwyr o’n bywydau. Ar yr un pryd mae angen i’n disgyblaethau hefyd addasu ac esblygu o ran sut y maent yn cysylltu â phobl, gan ddod yn fwy hyblyg ac ystwyth wrth ymateb i anghenion. Mae’r Hen Lyfrgell yn gofyn i ni, ac yn ein grymuso, i fynd i’r afael â’r ddau beth hyn gyda’i gilydd.

Mae’n ein cysylltu i ganol y ddinas, i genhadaeth ddinesig a balchder dinesig, ac i’r ymdeimlad hwnnw y gall ac y dylai’r celfyddydau fod yn rhan o fywyd pob dydd. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau ac yn cynnig casgliad o bosibiliadau ynghylch sut mae’r celfyddydau perfformio bellach yn cyrraedd ac yn cysylltu â phobl, yn meddiannu ac yn rhoi bywyd i fannau cyhoeddus, ac yn rhoi egni i greu lleoedd diwylliannol.

Hen Lyfrgell, gweledigaeth newydd - cefnogi ecoleg ddiwylliannol y ddinas

Felly bydd ein preswyliad yn yr Hen Lyfrgell yn wahanol i’n gwaith yn Ffordd y Gogledd. Yn gyntaf rhaid ceisio adeiladu ar beth o hanes adeilad yr Hen Lyfrgell, ei weledigaeth wreiddiol a ddeilliodd o lwyddiant masnachol rhyfeddol y diwydiant glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheisio rhoi rhywbeth hanfodol yn ôl i’r bobl trwy le ar gyfer y celfyddydau a dysgu lle gallai pawb – hen ac ifanc – ddod o hyd i ysbrydoliaeth a chyfle creadigol.

Yn ail, rhaid i ni arwain gyda’r angen dwfn, yr ydym wedi bod yn ymateb iddo wrth ailgynllunio ein cyrsiau gradd, i ailgysylltu’r elfennau cymdeithasol ac esthetig o arfer artistig, gan gysylltu ein myfyrwyr yn fwy dwys i gyd-destun a chymunedau, yn hytrach na chreu celfyddyd mewn swigen.

Mae’r Hen Lyfrgell yn caniatáu i ni wireddu hyn yn wych, gan roi mannau mwy hyblyg i ni ar gyfer perfformiadau anffurfiol, gweithdai a mathau eraill o ymgysylltu nag sydd gennym ar Ffordd y Gogledd, a’r cyfle i gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys y rheini sydd yn yr adeilad ar hyn o bryd, i arloesi ac ysgogi gwaith ffres.

Yn drydydd, rhaid i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i gryfhau ein hymrwymiad i wreiddiau diwylliannol dwfn Cymru, ei hiaith a’i thraddodiadau artistig, gan gofio’n benodol am y wythïen gyfoethog o dalent hynod sydd wedi dod o Gymru ac sy’n parhau i wneud hynny, wedi’i meithrin gan wreiddiau cymunedol rhyfeddol, gan gynnwys y traddodiad eisteddfodol, corau cymunedol, bandiau pres a grwpiau theatr ieuenctid.

Adeiladu ar breswyliadau cymunedol

Wrth i ni wneud hyn, bydd yr Hen Lyfrgell yn dod yn ganolfan i lywio a chefnogi rhwydwaith esblygol o breswyliadau yr ydym yn eu creu ar gyfer ein myfyrwyr a graddedigion diweddar. Ym mhob un o’r rhain bydd grŵp bach ohonynt yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliad celfyddydau cymunedol, ysgol, lleoliad gofal iechyd neu fusnes am o leiaf blwyddyn - gan gyd-greu gweithgareddau perfformio ac ymgysylltu priodol. Mae enghreifftiau sydd eisoes ar y gweill yn cynnwys yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, Pedal Power ym Mharc Bute a Phafiliwn Penarth. Ein nod yw ehangu’r rhwydwaith hwn ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf

Lle llawn croeso i bawb

Yn ogystal â bod yn fan ar gyfer ein myfyrwyr a’u hyfforddiant, byddwn yn bywiogi trothwy’r adeilad treftadaeth ac yn creu lle ar gyfer cyfarfyddiadau a phosibiliadau. Byddwn wedyn yn gweithio i ddenu pobl i mewn i’r adeilad ar gyfer gweithgareddau a pherfformiadau y maent yn gyfranogwyr ynddynt. Rydym am i’r Hen Lyfrgell fod yn fan cynnes a chroesawgar, a gobeithiwn hefyd y bydd yr hyn sy’n digwydd yma yn disgleirio’n llachar ar y ddinas ac yn cyfathrebu â hi, y wlad a’r byd ehangach – lle unigryw sy’n cefnogi ecoleg ddiwylliannol y ddinas ac yn ein cynorthwyo yn y Coleg barhau i drawsnewid y celfyddydau perfformio ar gyfer y dyfodol.

Storïau eraill