Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cyfoethogi a gwella bywydau: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio preswyliadau myfyrwyr Woolcott

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio preswyliadau myfyrwyr Woolcott, rhaglen hyfforddiant arloesol a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr CBCDC sy’n gweithio yn y gymuned, ac i roi ymdeimlad o berchnogaeth o’r celfyddydau i bobl leol.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC, Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi

Published on 06/12/2023

Mae Rhaglen Preswyliadau Woolcott yn rhan o strategaeth ehangach i gynyddu mynediad a chynhwysiant yn y Coleg, gan gynnwys rhaglenni ysgoloriaethau a bwrsariaethau newydd, ail-ddilysu ei gwrs gradd cerddoriaeth i ganolbwyntio ar yr artist yn y gymdeithas, a chynlluniau tocynnau a rhaglenni allgymorth newydd i sicrhau y gall mwy o bobl fwynhau cymryd rhan yn y celfyddydau.

Adeiladu rhwydwaith o breswyliadau yng Nghymru

Mae rhwydwaith cynyddol o breswyliadau yng Nghymru yn cyfuno celfyddyd gerddorol, datblygu talent a phrosiectau creadigol er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc a chefnogi lles cymunedau, gan gynnig buddion i fyfyrwyr CBCDC, ysgolion a chymunedau lleol, lleoliadau partner a’r cyhoedd.


Mae prosiectau hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar Gaerdydd, ac maent yn cynnwys Pumawd Chwyth Bute yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, ensemble gitâr CBCDC yn Pedal Power ym Mharc Bute, a Band Mawr CBCDC, cyfansoddwyr CBCDC a Phedwarawd Draig yn gweithio gyda gwahanol grwpiau ym Mhafiliwn Pier Penarth. Wrth i’r rhaglen ehangu, bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru drwy gysylltiadau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, gan adeiladu ar safle CBCDC fel conservatoire cenedlaethol Cymru.

Gan adeiladu ar ein gwaith gyda’r cynllun peilot yng Nghaerdydd, bydd hyn yn helpu i ddatblygu ein rôl genedlaethol a pharhau â’n huchelgais i gadw’r celfyddydau wrth galon cymunedau yng Nghymru, ochr yn ochr â chyfrannu at Strategaeth Cerddoriaeth Dinas Caerdydd.

Creu cerddorion mewn cymdeithas

Mae pob preswyliad Woolcott yn rhoi’r offer, y gefnogaeth a’r mentora sydd eu hangen ar fyfyrwyr i sefydlu eu hunain fel busnesau creadigol sy’n gweithio mewn modd cydweithredol ac entrepreneuraidd. 

Anogir pob ensemble i guradu a meithrin eu perthynas eu hunain â lleoliad, gan gyflwyno gweithdai addysgol, cyngherddau a sesiynau cyfranogol rheolaidd am o leiaf blwyddyn

‘Rydw i mor falch bod grant Ymddiriedolaeth Anthony G. Woolcott yn golygu y gallwn ymrwymo i’r rhaglen bwysig hon am y tair blynedd nesaf.

Gan adeiladu ar ein gwaith gyda’r cynllun peilot yng Nghaerdydd, bydd hyn yn helpu i ddatblygu ein rôl genedlaethol a pharhau â’n huchelgais i gadw’r celfyddydau wrth galon cymunedau yng Nghymru, ochr yn ochr â chyfrannu at Strategaeth Cerddoriaeth Dinas Caerdydd.

Mae corff cynyddol o ymchwil sy’n dangos budd corfforol a meddyliol gwirioneddol cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, ac rydym yn credu’n gryf yng ngrym cerddoriaeth i gyfoethogi a gwella bywydau.

Mae’n wych gallu cefnogi ein myfyrwyr i fynd allan o’r adeilad ac i gymunedau ledled Cymru er mwyn cyfnewid profiad dwyffordd a dysgu, fel rhan hanfodol o’u hyfforddiant.’
Helena GauntMeddai Prifathro CBCDC

Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot De Cymru, disgwylir i’r preswyliadau a’r cydweithrediadau ddyblu dros y blynyddoedd nesaf, gan greu newid hirdymor i’r byd celfyddydol yn lleol a chenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae CBCDC yn sefydlu preswyliadau newydd gyda sefydliadau sy’n cynnwys Theatr Clwyd, Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw a Chastell y Gelli.

'Rydym yn awyddus iawn i ddatgan ein cefnogaeth i’r celfyddydau perfformio yng Nghymru a’r rhaglen hon gan CBCDC ac yn edrych ymlaen at weld y preswyliadau yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.'
David MacFarlaneYmddiriedolwr Ymddiriedolaeth Woolcott

Nodiadau i olygyddion

Mae’r rhaglen hon wedi bod yn bosibl diolch i grant trawsnewidiol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Anthony G. Woolcott. Wedi’i henwi ar ôl yr entrepreneur ac ymgyrchydd hawliau LGBTQ+, Anthony Woolcott, a fu farw ym 1986, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi ystod eang o brosiectau ledled y DU a thramor dros y 36 mlynedd diwethaf. 

Mae’r ymddiriedolwyr wedi penderfynu cau’r Ymddiriedolaeth, gan wario’r cyfalaf sy’n weddill gydag un buddsoddiad mawr yn y Coleg i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael effaith barhaol.

Astudiaethau achos preswyliadau Woolcott

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd wedi cynnal preswyliad Pumawd Chwyth Bute am ddau dymor eisoes. Mae’r myfyrwyr wedi defnyddio’r Eglwys fel canolfan ar gyfer ymarferion a chyngherddau, tra bod staff yr Eglwys wedi eu cefnogi i ddatblygu sgiliau drwy sgyrsiau ar gynllunio busnes, treth, ffotograffau a dilyniant gyrfa.

Dywedodd Gareth Roberts, rheolwr cyffredinol Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd,

'Mae’r berthynas rhyngom ni, CBCDC a’r ‘Butes’ wedi teimlo’n gadarnhaol, yn ystyrlon, ac yn gwbl ysbrydoledig. Yn sicr mae wedi ennyn diddordeb cwsmeriaid y Ganolfan Gelfyddydau. Mae ymgysylltu â chynulleidfaoedd a staff wedi bod yn sylweddol ac mae’n cynyddu, ac mae’n teimlo bod momentwm yn y berthynas, yr ydw i’n edrych ymlaen at ei archwilio.’

Ychwanegodd Gabriella Alberti o Bumawd Chwyth Bute, ‘Mae ein preswyliad Woolcott yn yr Eglwys Norwyaidd wedi bod yn brofiad hynod gyffrous a buddiol i aelodau’r pumawd. Breuddwyd unrhyw offerynnwr yw cael y cyfle i ymarfer yn y man hardd hwn gyda’i acwsteg ragorol. Mae’r amgylchedd cyfeillgar a chleientiaid byrlymus y caffi yn darparu cynulleidfa ffyddlon i aelodau’r pumawd ryngweithio ac ymgysylltu â hi, yn gerddorol ac yn gymdeithasol. Mae’r preswyliad yn annog y rhyddid artistig i archwilio rhaglenni cerddorol cyffrous i’r gymuned eu mwynhau.’

Pedal Power

Mae ensemble gitâr CBCDC yn cynnal sesiynau wythnosol yng nghaffi ac elusen beicio anabl Parc Bute, Pedal Power. Meddai Helen Sanderson, Pennaeth Gitâr yn CBCDC,

‘Mae Pedal Power wedi bod yn gyfle eithriadol i’n myfyrwyr rannu eu cerddoriaeth yn y gymuned leol mewn lleoliad cynnes, cyfeillgar a chroesawgar. Mae’r gallu i ddatblygu crefft llwyfan mewn lleoliad mwy anffurfiol, meddwl yn ofalus am gynulleidfa, ac ystyried yr hyn y gallent fwynhau ei glywed, a pha gerddoriaeth y gellid ei chyflwyno iddi, wedi bod yn amhrisiadwy i’n myfyrwyr.

Mae cerddoriaeth i bawb, ac mae’r llawenydd y gall ei roi mewn mannau annisgwyl yn galongynhesol. Yn sicr dyma’r argraff a’r profiadau y mae ein holl gitaryddion wedi’u cael eleni. Rydym yn diolch o waelod calon i Pedal Power a’u cwsmeriaid am eu cefnogaeth ryfeddol.’ 

Negeseuon newyddion eraill