Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Ail-ddychmygu Hen Lyfrgell Caerdydd: Mae CBCDC yn gwahodd pawb i mewn wrth iddo ddechrau blwyddyn ei ben-blwydd yn 75 oed

Bydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed drwy gydol y flwyddyn hon, gyda ffocws clir ar gynyddu hygyrchedd i gynulleidfaoedd ac i’r celfyddydau, ac ar ei weledigaeth i sicrhau ei fod yn ‘conservatoire pobl’ gyda chysylltiadau dwfn.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 08/02/2024

Bydd rhaglen blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau yn amlygu taith drawsnewidiol y Coleg ers ei sefydlu yng Nghastell Caerdydd ym 1949 gan dynnu sylw at y gwaith y mae’n ei wneud i arloesi, hyrwyddo cydweithio, gweithio gyda chymunedau a grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau.

Gan ddechrau’r dathliadau ‘pen-blwydd mawr’, mewn Diwrnod Agored i’r cyhoedd ar Chwefror 7fed, cyflwynodd CBCDC ei ail-ddychmygiad o’r ychwanegiad diweddaraf i’w gampws, Hen Lyfrgell hanesyddol Caerdydd, sef Ysgol y Celfyddydau a Llyfrgell Am Ddim Caerdydd yn wreiddiol.

‘Bydd cais buddugol y Coleg am y brydles 99 mlynedd ar yr Hen Lyfrgell gan Gyngor Caerdydd y llynedd yn sefydlu preswyliad parhaol a fydd yn effeithio ar bob un o’n 75 mlynedd nesaf.

Mae’n cynnig cyfle rhyfeddol - os nad unigryw - i ni, fel y conservatoire cenedlaethol, i gael ein hadnabod fel ‘conservatoire pobl’, gyda’n myfyrwyr talentog yn gweithio ochr yn ochr â phobl a chymunedau amrywiol i gyd-greu perfformiadau a gweithgareddau arloesol, pleserus a llawn ysbrydoliaeth’.
Helena GauntPrifathro

Gan weithio gyda Flanagan Lawrence, y penseiri oedd yn gyfrifol am drawsnewidiad llwyddiannus CBCDC ym Mharc Bute yn 2011, mae’r Coleg bellach wrthi’n codi’r £13 miliwn fydd ei angen i adfer yr Hen Lyfrgell yn llwyr. Bydd hyn yn creu ail ganolfan eithriadol lle bydd y Coleg yn parhau i feithrin talent y dyfodol a datblygu ymhellach ei ymgysylltiad arloesol â’r cyhoedd.

Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn adfer ac yn ail-ddychmygu’r safle treftadaeth hardd, ymarferol a sero net hwn, gan greu mannau perfformio a gweithdai hyblyg o fewn canolfan ddiwylliannol, artistig ac addysgol hygyrch iawn yng nghanol prifddinas Cymru.

‘Llongyfarchiadau i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar eich cyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru dros y 75 mlynedd diwethaf ac rwy’n dymuno’r gorau i chi ar gyfer y dyfodol cyffrous sydd o’ch blaen.

Bydd y cynlluniau ar gyfer yr Hen Lyfrgell yn gyfle gwerthfawr i gymunedau gael mynediad at y celfyddydau a chael eu hysbrydoli gan y prosiectau unigryw a fydd ar gael i bawb eu mwynhau.’
Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg
‘Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol a diwylliannol, a dros y 75 mlynedd ddiwethaf, mae’r Coleg Cerdd a Drama wedi cyflwyno talent sylweddol i’r sector greadigol yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mi fydd y cynlluniau uchelgeisiol yma ar gyfer Yr Hen Lyfrgell yn adeiladu ar gynnig presennol y Coleg i’w fyfyrwyr, ond bydd hefyd yn galluogi i waith y Coleg gael ei gyflwyno i’r cyhoedd a gwneud cerddoriaeth a pherfformiad yn rhan annatod o ganol y ddinas.

Mae’r cynlluniau yn cynnig hwb anferth i addysg gerddorol, y celfyddydau perfformio ac i’n gwaith o warchod, cynyddu a datblygu sector cerddorol y ddinas, a cawn gyfle i weld un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Caerdydd yn canu i’r ddinas, o ganol y ddinas am flynyddoedd i ddod’.
Huw ThomasArweinydd Cyngor Caerdydd

Hen Lyfrgell, gweledigaeth newydd - cefnogi ecoleg ddiwylliannol y ddinas

Mae preswyliad CBCDC yn yr Hen Lyfrgell yn amlygu ymrwymiad y Coleg i alluogi ei fyfyrwyr, trwy eu hyfforddiant, i ddatblygu’r sgiliau i ddod yn gysylltiedig â chymunedau ac ymwreiddio ynddynt, i fod yn artistiaid sy’n wneuthurwyr mewn cymdeithas, ac i ddod â’r celfyddydau perfformio i wead diwylliannol cymunedau.

Fe fydd adeiladu ar bartneriaethau a chydweithio gyda Dinas Caerdydd a’r cyngor, ei thrigolion, y seilwaith diwylliannol presennol a’r un sy’n datblygu, a gyda mentrau lleol yn allweddol i’w lwyddiant. Wrth groesawu’r cyhoedd i’r Hen Lyfrgell daw yn lle unigryw sy’n cefnogi ecoleg ddiwylliannol y ddinas ac sy’n helpu’r Coleg i barhau i drawsnewid ei arfer ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan greu man ar gyfer posibiliadau ac ysgogi rhywun i feddwl am sut i greu gwaith yn wahanol.

Ymunwch â'r parti a’r Apêl Pen-blwydd Mawr

Wrth i’r Coleg gychwyn ar ei flwyddyn pen-blwydd yn 75 oed, bydd ei leoliadau’n orlawn o straeon sy’n dangos amrywiaeth greadigol a safon o’r radd flaenaf y gwaith y mae ei ganolfan gelfyddydau wedi’i gyflwyno ers agor yn 2011. Bydd hefyd yn hyrwyddo ei Apêl Pen-blwydd Mawr, gyda chyfleoedd i bawb gyfrannu at y prosiectau allweddol sy’n brif flaenoriaeth o ran dymuniadau pen-blwydd y Coleg. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladu ei gronfa ar gyfer bwrsariaethau ac ysgoloriaethau, datblygu mwy o breswyliadau a phartneriaethau gyda chymunedau a diwydiant, creu perfformiadau, cyngherddau ac arddangosfeydd eithriadol, a datblygu ymhellach CBCDC mwy gwyrdd a hygyrch.

Ymunwch â CBCDC eleni wrth iddo edrych yn ôl ar yr hyn mae wedi’i gyflawni ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod


Nodiadau i Olygyddion

Ym mis Mehefin 2023, rhoddodd Cyngor Caerdydd brydles 99 mlynedd i CBCDC ar adeilad rhestredig Gradd II Hen Lyfrgell Caerdydd. Sefydlwyd yr Hen Lyfrgell ym 1882 fel Llyfrgell Am Ddim Caerdydd, Amgueddfa ac Ysgol y Celfyddydau Caerdydd, a bu’n ganolog i fyd addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol Caerdydd am ganrif, cyn cael ei ddisodli gan lyfrgell fodern ym 1988. Mae’r Coleg yn adfer mynediad cyhoeddus i’r adeilad, ac yn agor y drysau a gwahodd pawb i gymryd perchnogaeth o'r safle unwaith eto.

Negeseuon newyddion eraill