Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gweithio ar ŵyl Pedair Blynedd Prague 2023: dathlu cynllunio ar gyfer perfformio

Derbyniodd myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio a Rheoli Llwyfan wahoddiad i ymweld â Prague i weithio ar ŵyl Pedair Blynedd Prague, yr ŵyl cynllunio a pherfformio fwyaf yn y byd. Yma cawn yr hanes gan Johanna Bunyan:

Y dathliad mwyaf yn y byd o gelf golygfeydd

Fel myfyriwr Rheoli Llwyfan roedd gennyf ddiddordeb gwirioneddol pan glywais am ŵyl Pedair Blynedd Prague am y tro cyntaf, oherwydd ei fod yn ddigwyddiad enfawr. Dyma’r dathliad mwyaf o gelf golygfeydd (golygfeydd, goleuo, sain a chynllunio gwisgoedd) gyda 50 a mwy o wledydd yn cwrdd bod pedair blynedd yng nghanol Prague i arddangos eu gwaith a dathlu celf golygfeydd.

Mae gan y Coleg gysylltiadau cryfion gyda gŵyl Pedair Blynedd Prague drwy ein Cyfarwyddwr Drama, Sean Cowley, a’r Pennaeth Rheoli Llwyfan, Ian Evans, sydd â chysylltiadau agos â’r ŵyl ers nifer o flynyddoedd.


Ymgais Japan, a gynlluniwyd gan Hiroko Matsuo, rhan o fenter yn hybu cynhwysiant cymdeithasol ym myd y theatr

Ynghyd â thri myfyriwr ôl-raddedig Cynllunio ar gyfer Perfformio, cefais y cyfle gwych i fynd i Prague i weithio yn yr ŵyl eleni.

Thema gŵyl Pedair Blynedd Prague 2023 oedd Prin – dathliad o gysyniadau dwys a rhyfeddol.

Rhannu ac ennill arbenigedd rheoli llwyfan

Roeddwn yn gweithio fel rhan o'r tîm rheoli i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth. Fy mhrif gyfrifoldeb oedd cydlynu’r myfyrwyr sy’n gwirfoddoli neu ‘ymarferwyr’ yn yr ŵyl. Cefais gyfle i amrywio fy sgiliau rheoli llwyfan i ddigwyddiadau byw, ac oherwydd fy hyfforddiant blaenorol yn y Coleg, gallwn ymdopi â’r newid hwn yn rhwydd.

Un o’r arddangosfeydd yn yr ŵyl
'Drwy’r profiad ymarferol gwych hwn, gallwn roi’r hyn yr oeddwn wedi’i ddysgu yn y ddwy flynedd ddiwethaf fel myfyriwr rheoli llwyfan ar waith.

Drwy weithio fel rhan o dîm gyda gweithwyr proffesiynol anhygoel yn y diwydiant, roeddwn yn awyddus hefyd i drosglwyddo eu holl ddoethineb yn ôl i Gaerdydd gyda mi. Mae rhwydweithio wedi bod yn rhan bwysig o’r diwydiant erioed ac rwy’n sicr wedi sicrhau rhai cysylltiadau gwerthfawr drwy’r lleoliad hwn.'
Johanna Bunyan

Byd o brofiadau newydd

Trwy gydol fy amser yn Prague, bues hefyd yn gweithio ar Sgyrsiau'r ŵyl Pedair Blynedd. Trafodaeth banel oedd hyn lle gallai’r gynulleidfa drafod pynciau amrywiol gyda gweithwyr yn y diwydiant ac addysgwyr ar y theatr a chelf golygfeydd.

'Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn, a chyfarfyddais â chymaint o bobl anhygoel wrth iddynt drafod amrywiol bynciau diddorol. Cefais gyfle i ffilmio’r sgyrsiau hefyd, sydd wedi ehangu fy mhrofiad fideograffi. '
Johanna Bunyan
Fel rhan o’i rôl yn yr ŵyl, cafodd Johanna gyfle i ehangu ei sgiliau drwy ffilmio sgyrsiau’r ŵyl Pedair Blynedd.

Cefais gyfle hefyd i weithio fel cyswllt ag artistiaid, yn croesawu siaradwyr a sicrhau eu bod yn gyfforddus a hapus cyn mynd ar y panel. Mae’r amrywiaeth eang o brofiadau a gefais drwy weithio ar y Sgyrsiau wedi ychwanegu’n aruthrol at y profiad gwahanol a gefais fel cydlynydd.

Cynllunio ar gyfer Perfformio

Bu Krysia Milejski, myfyriwr BA Cynllunio ar gyfer Perfformio yn gynorthwyydd yng ngweithdai stiwdio’r ŵyl Pedair Blynedd, yn cynorthwyo ymarferwyr rhyngwladol.

‘Dysgais ffyrdd newydd o drin a thrafod y model, sut i ail-fframio hierarchaeth mewn timau cynhyrchu, technegau a meddalwedd newydd ar gyfer cynllunio Gwisgodd yn ddigidol, a’r agwedd eco-gelf golygfeydd at gynllunio gofodol.

'Cefais brofiad gwerthfawr iawn yn cwrdd ag artistiaid o bob cwr o’r byd, yn gweld ac yn ymgysylltu â’u harddangosfeydd a’u gosodiadau. Fy hoff ran o’r ŵyl oedd y bobl wych y cefais gyfle i weithio gyda hwy.

Roedd y staff yn yr ŵyl Pedair Blynedd yn groesawgar a gwahoddgar a dysgais lawer ganddynt. Rwy’n ddiolchgar iawn i holl arweinwyr y gweithdy a wnaeth ganiatáu i mi gynorthwyo a dysgu ganddynt drwy gydol yr ŵyl.

Dyma fy ail waith yn mynychu’r ŵyl Pedair Blynedd ac ni allaf aros at gael mynd eto!’
Krysia MilejskiBA Cynllunio ar gyfer Perfformio
Johanna a’r myfyriwr cynllunio, Krysia, yn archwilio’r arddangosfeydd

Gŵyl ysbrydoledig

Roedd yr ŵyl ei hun yn ymgorfforiad o ysbrydoliaeth. Roedd yr amgylchedd o bobl greadigol yn ymgynnull i ddathlu eu cariad at gelf golygfeydd yn wahanol i unrhyw beth yr wyf wedi'i brofi o'r blaen.

Yn ogystal â gweld gwaith celf hyfryd a chysyniadau cynllunio gwallgof, rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes.

'Roedd yn brofiad gwych o ran dysgu a datblygu fy ngyrfa ar gyfer y dyfodol, a sylweddoli y byddwn wrth fy modd yn gweithio ar ddigwyddiadau byw yn y dyfodol, rhywbeth nad oeddwn wedi’i ystyried cyn fy nhaith.

Mae cyfleoedd fel hyn yn rhai gwerthfawr iawn oherwydd rydym yn cael ein haddysgu i arbenigo wrth i ni ddatblygu ein hyfforddiant. Gall rhoi cynnig ar agweddau newydd o theatr neu ddigwyddiadau gyflwyno llwybr gyrfa newydd i chi, llwybr na fyddech wedi dychmygu y byddech yn ei garu.'
Johanna Bunyan

Gŵyl Pedair Blynedd Prague

Mae gŵyl Pedair Blynedd Prague yn cael ei chynnal bob pedair blynedd ac mae’n dod â phobl broffesiynol o feysydd perfformio a’r theatr, myfyrwyr ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd at ei gilydd dros ddeng niwrnod. 

Hwn yw’r digwyddiad celf golygfeydd mwyaf yn y byd, sy’n dathlu cynllunio ar gyfer perfformio gan gynnwys goleuo, llwyfan, gwisgoedd, cynllunio sain a phensaernïaeth y theatr ar draws holl ffurfiau celf, gan gynnwys perfformiadau opera, dawns, aml-gyfrwng a safleoedd penodol.

Cefnogwyd gweithgarwch myfyrwyr a staff gan raglen cyfnewid dysgu unigryw Cymru, Taith. Mae cymuned CBCDC, drwy PDC, yn elwa o Taith yn cyfrannu cyllid at ystod o brosiectau, gan gynnwys symudedd myfyrwyr dramor, ymweliadau addysgu staff, lleoliadau gwaith a phrosiectau dwys, i gyd gyda phartneriaid rhyngwladol.

Storïau eraill