Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ar Daith gydag Adran pres CBCDC

Aeth adran Pres CBCDC ar daith am y tro cyntaf yn ystod y tymor diwethaf gyda gweithdy Ar Daith er mwyn helpu pobl ifanc o bob cefndir ledled De Cymru i gael mynediad at y celfyddydau perfformio.
'Mae gweithdai Ar Daith yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â’r celfyddydau, i ddatblygu hyder personol drwy gymryd rhan mewn cerddoriaeth fyw, ac i helpu i feithrin teimlad o gymuned a hunaniaeth.

Maent hefyd yn rhoi cefnogaeth ac adnoddau y mae mawr eu hangen ar athrawon er mwyn cyflwyno’r cwricwlwm cerddoriaeth.'
Roger Argente

Wedi’i ariannu gan Hern & Crabtree ac Arts & Business Cymru, bu dros 22 o berfformiadau hyd yn hyn mewn deunaw ysgol wahanol lle mae ein myfyrwyr wedi chwarae i dros 3,250 o blant, gyda llawer mwy o ymweliadau i ddod dros y flwyddyn academaidd nesaf.

Pumawd pres Flora Brass fu’n arwain y prosiect y tymor hwn.

'Mae Ar Daith yn bwysig iawn i ni fel pumawd oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i ni fynd allan a pherfformio i bobl.

Mae gweld y plant yn mwynhau yn gwneud popeth yn werth yr ymdrech.

Mae’r perfformiadau hefyd wedi rhoi hwb mawr i’n hyder wrth siarad yn gyhoeddus fel ensemble. Rydym wedi dysgu sut i ymgysylltu â’r plant mewn modd hwyliog a llawn gwybodaeth.'
Bethany Peck
'Ein gobaith yw ehangu Caiff ar Daith drwy weddill Cymru, ac i’r prosiect ddod yn rhan annatod o weithgareddau’r Coleg dros y blynyddoedd i ddod.'
Roger Argente

I weld y newyddion diweddaraf, dilynwch #RWCMDOnTheMove.

Cefnogir Ar Daith gan Hern & Crabtree a Chelfyddydau & Busnes Cymru.

Storïau eraill