Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gwneud gwahaniaeth trwy berfformip: creu actorion fel artistiaid

Mae ein cyrsiau drama yn canolbwyntio ar hyfforddi actorion sy’n artistiaid cadarn, moesegol, gyda lleisiau unigol cryf.

Perfformiadau cyntaf gwobrwyedig a heriol ar y llwyfan

Gan adlewyrchu’r hyfforddiant drama sy’n grymuso myfyrwyr i adael y Coleg yn barod ar gyfer diwydiant ac i gofleidio drama heriol ac anodd, gwnaeth Kasper Hilton-Hille ei ymddangosiad cyntaf yn syth ar ôl graddio eleni.

Roedd yn serennu gyferbyn â Niamh Cusack yn nrama ddinistriol, dywyll a doniol drasig Polly Stenham ‘That Face’ am salwch meddwl a dibyniaeth.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Galwyd ei berfformiad yn ‘syfrdanol a llawn ing’ gan y Guardian ac mae wedi ennill enwebiad Offie iddo fel y newydd-ddyfodiad gorau. Cyhoeddir yr enillydd ym mis Chwefror 2024.

Perfformiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Yn ennill gwobr Stage Debut am ei ‘pherfformiad hudolus a dewr’ yn ‘I, Joan’, mae Isobel Thom, a raddiodd yn 2022 ac sy’n chwarae rhan Joan, yn rhoi llais i stori cwiar a gwrthryfel yn y stori arloesol a heriol hon.

Gan ddod â stori actio CBCDC yn gylch cyfan, cyflwynwyd ei gwobr iddi gan un arall o raddedigion actio’r Coleg, Callum Scott Howells, a wnaeth ei ymddangosiad teledu cyntaf a gwobrwyedig yn nrama ddadleuol a phryfoclyd Channel 4 am Aids ‘It’s a Sin’, a ffilmiodd tra ei fod dal yn y Coleg.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Ysgogwyd Rakie Ayola, sydd hefyd yn raddedig o’r Coleg, i rannu ei safbwyntiau ar instagram pan welodd Izzy fel Joan: ‘Mae rhwyddineb corfforol ac ieithyddol, cyfaredd siriol, bwrlwm dengar a dewrder emosiynol Izzy yn gwneud i mi dalu sylw a meddwl, dyna berfformiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rhaid bod hwn yn berfformiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.’

Dathlu oes o berfformio a gwneud gwahaniaeth

Yn y cyfamser, mae Rakie wedi bod yn brysur yn dathlu ei gyrfa drawiadol ei hun fel un o actorion gorau Cymru ac eiriolwyr angerddol a hirsefydlog dros ehangu amrywiaeth a chynrychiolaeth talent ar y sgrin ac oddi ar y sgrin dros y tri degawd diwethaf.

Wrth ddyfarnu iddi un o anrhydeddau uchaf BAFTA Cymru, Gwobr Siân Phillips, i gydnabod ei chyfraniad sylweddol i fyd ffilm a theledu, disgrifiodd BAFTA Rakie fel ‘talent anhygoel sy’n ysbrydoli, ysgogi, a chyfoethogi’r diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt.’

Mae hi hefyd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am yr actores orau.

We are Lady Parts...

Gyda’i hoffter o ddod o hyd i ffyrdd newydd o adrodd straeon, mae’r actor a’r gantores-gyfansoddwraig Anjana Vasan wedi creu argraff fawr ar lwyfan a sgrin ers iddi raddio yn 2012. Gwnaeth ei rôl yng nghomedi ddu amharchus ac anarchaidd Channel 4 ‘We are Lady Parts’, am fand pync o fenywod Moslimaidd yn unig sy’n gwrthod cydymffurfio, ennill gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol iddi am y Perfformiad Comedi Gorau, yn ogystal ag enwebiad BAFTA. 

Mae’n disgrifio’r gyfres fel un sy’n ‘cofleidio eich hynodrwydd i greu celfyddyd ar eich telerau eich hun’. 

Yn 2019 enwebwyd Anjana am Wobr Theatr Evening Standard am yr Actores Orau am ei pherfformiad fel Niru (Nora yn y gwreiddiol) yng ngwneuthuriad newydd a beiddgar y Lyric Hammersmith o ‘A Doll’s House’. 

Wedi’i addasu gan Tanika Gupta i leoliad Indiaidd, agorodd y cynhyrchiad newydd hwn y drws i archwilio deinameg ychwanegol hil yn ogystal â phŵer a phatriarchaeth. 

Mae Anjana bellach ar glawr rhifyn Bloomsbury 2023 o’r ddrama. 

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Gan ddod â ni i’r presennol, yn ogystal â gwobr Olivier am yr Actores Orau mewn Rôl Gefnogol – yr unigolyn cyntaf o Singapôr i ennill y wobr - mae Anjana newydd ennill Gwobr Evening Standard ar y cyd am ei rôl fel Stella yn ‘A Streetcar named Desire’ ochr yn ochr â Paul Mescal a Patsy Ferran, y mae hi’n rhannu’r wobr â hwy.

Gwneud eu marc ar y sgrin...

Ac wrth gwrs, nid dim ond ar y llwyfan y gallwch chi weld ein graddedigion. O Netflix i’r sgrin fawr, maent yn amlwg iawn...

Mae graddedigion diweddar sydd i’w gweld ar y sgrin yn cynnwys ymddangosiad teledu cyntaf Ayo Adegun fel un o’r prif actorion yn y dilyniant John Wick, ‘The Continental’, a’i ymddangosiad cyntaf yn y ffilm gyda’i gyd-raddedig Jerome Lance yn ‘The Hunger Games: The Ballad of Songbirds and Snakes’.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Roedd Tom Victor, a raddiodd yn 2022, yn un o’r prif actorion yn y ffilm indie boblogaidd ‘Consent’ ac ymddangosodd hefyd yn y gyfres deledu fer ‘Mary and George’ gyda Julianne Moore. Mae ei gyd gyn-fyfyrwyr 2022, Tegan Farrelly, wedi bod yn ‘The Diplomat’ ar Netflix,

Mae Lauren Morais, a raddiodd yn 2023, newydd orffen saethu ‘The Red Night’ ar gyfer ITV a chadwch lygad am Campbell Wallace fel Ringo Starr yn ‘The Midas Man’ sy’n sôn am Brian Epstein, a ffilmiodd tra ei fod dal yn y Coleg.

Storïau eraill