Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Byw ym Myd Barbie…Y myfyriwr dylunio Emily Bates ar greu Byd Barbie

Mae’r myfyriwr graddedig Cynllunio ar gyfer Perfformio, Emily Bates, newydd gwblhau swydd ei breuddwydion – yn creu modelau bychain ar gyfer set y ffilm Barbie lwyddiannus iawn! Yma mae’n disgrifio’r profiad o gael ei hamgylchynu â phinc am y flwyddyn ddiwethaf.

Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobr Linbury

Ar ôl graddio o MA Cynllunio ar gyfer Perfformio yn 2017 fel myfyriwr a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol gwobr Linbury, treuliodd Emily rai blynyddoedd yn gweithio fel gwneuthurwr modelau a chynorthwyydd dylunio yn y theatr cyn dilyn ei gyrfa ddylunio ei hun. Yna bu'n gweithio ym myd opera, yn dylunio tri chynhyrchiad ar gyfer Opera Cenedlaethol Denmarc cyn symud ymlaen i weithio ym myd ffilmiau yn 2019. Un o'i swyddi cyntaf oedd prosiect animeiddio 'stop-motion' o'r enw The House i Netflix.

Cynhyrchiad Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd (TWCMD) o Street Scene, a gynlluniwyd gan Emily Bates. Gwisgoedd, Brighde Penn, diolch i Robert Workman

‘Dyma fy mhrofiad cyntaf o fraslunio ar gyfer modelau bychain a oedd yn cael eu creu i’w ffilmio arnynt,’ meddai Emily, wrth adrodd ei hanes.

Roedd llawer o aelodau’r tîm Adran Gelf wedi gweithio ar Fantastic Mr Fox ac Isle of Dogs gan Wes Anderson, yn ogystal â’r ffilmiau Harry Potter lle defnyddiwyd llawer o fodelau bychain ar gyfer y gwaith ffilmio, felly roeddent yn wybodus iawn ynglŷn â setiau graddedig.

Creu modelau a dylunio setiau yn RWCMD

Cefais fy nenu i ddylunio setiau yn wreiddiol oherwydd fy hoffter o wneud modelau fel rhan o'r broses ddylunio, yn ogystal â bod yn arf cyflwyno cryf mewn sgyrsiau â chyfarwyddwyr. Roeddwn yn hoff iawn o’r agwedd creu modelau ar y cwrs yn RWCMD, a phan wnes i raddio gyntaf, roeddwn yn gweithio i ddylunwyr theatr (graddedigion RWCMD) gan gynnwys Colin Richmond, Soutra Gilmour a Nicky Shaw sy’n creu’r modelau graddfa 1:25 lliw crefftus iawn.

Mae’n amlwg iawn y ffyrdd gwahanol y mae pobl yn ymateb pan fydd rhywun yn rhoi model o’u blaenau, o gymharu â chelf cysyniad neu CGI, ac rwy’n credu bod cyffyrddadwyedd yn rhan allweddol o pam fod Cynllunydd Cynhyrchu Barbie Sarah Greenwood, sydd â chefndir ym myd y theatr hefyd, yn benderfynol iawn y byddai modelau bychain yn cael eu defnyddio fel ffordd o greu byd Barbie – ffilm am deganau!

Dod yn rhan o fyd Barbie…

Roeddwn yn gweithio ar brosiect arall yn Stiwdios Warner Bros pan oedd y gwaith rhag-gynhyrchu Barbie yn dechrau, ac roedd eu swyddfeydd gyferbyn â’r maes parcio. Roedd yn fis Ionawr oer a llwm ac roedd gwawr binc bryfoclyd yn pelydru o’r ffenestri a oedd yn edrych mor ddeniadol a hwyliog.

Is-Gynllunydd Set Barbie (Emily)

Roeddwn yn hoff iawn hefyd o waith Greta Gerwig fel cyfarwyddwr ac actor.

Cefais gyfweliad i ddechrau ar gyfer swydd dyluniwr Addurno Setiau - yn darlunio propiau i’w hadeiladu ar y setiau maint llawn, ond roedd angen rhywun arnynt yn gynharach a meddyliais fy mod wedi colli fy nghyfle.

Yn ffodus, gofynnwyd i Alex Walker, y Cynllunydd Cynhyrchiad yr oeddwn wedi gweithio gyda hi ar The House fod yn Gyfarwyddwr Celf ar gyfer y modelau bychain oherwydd ei phrofiad eang blaenorol ac roedd angen dyluniwr arni i’w helpu, felly gorffennais yn fy swydd flaenorol a dechrau ar y dydd Lun canlynol.

Defnyddio modelau bychain wrth greu ffilmiau

Mae modelau bychain ar gyfer ffilmiau yn gymharol brin erbyn hyn oherwydd y defnyddio o CGI a sgriniau glas.  Dim ond y ddwy ohonom oedd yn Adran Gelf Modelau Bychain yn cynhyrchu darluniau ar gyfer gweithdy o 15 o fodelwyr a pheintwyr modelau bychain – pob un ohonynt yn aruthrol o dalentog ac yn aruthrol o gyflym ar ôl i chi fynd â darlun iddynt.

Fe wnaethom greu darluniau ar gyfer pum graddfa 1:18 ar wahân (18 x yn llai na bywyd go iawn) o fodelau bychain lliw, a oedd yn cael eu sganio a’u defnyddio yn y lluniau cyfansawdd terfynol o’r byd, ochr yn ochr â fframiau gwifren VFX.

Crefft a gofal y gwneuthurwyr modelau bychain a’r cynllunwyr setiau

Bob tro y mae Barbie yn edrych ar draws Byd Barbie o’i thŷ breuddwyd, blaendir y lluniau hyn yw ein modelau bychain o’r trogylchoedd swbwrbaidd gyda’r set maint llawn yn y blaen a’r VFX yn y cefndir.

Os byddwch yn gwylio fideos tu ôl i’r llenni o’r Crynhoad Pensaernïol, fe welwch fod y tirluniau o’r mynyddoedd wedi’u paentio â llaw. Roedden nhw’n anhygoel o’u gweld go iawn ac roedd ganddynt yr un ymdeimlad â chefndiroedd theatrig wedi’u peintio â llaw.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Fe wnaethom hefyd greu modelau bychain ar gyfer y llun o dŷ Weird Barbie pan mae Margot Robbie yn dringo’r grisiau’n wastad-droed, a model bychan o’r tirlun anialwch yn ogystal â char corvette pinc graddfa 1:18!

Mae’r adeiladau ar hyd y traeth yn y lluniau llydan o’r traeth yn fodelau bychain hefyd, yn ogystal â’r adeiladau yn y cefndir pan mae Barbie yn codi ei llaw wrth yrru i’r traeth yn yr olygfa agoriadol.

Os edrychwch yn ofalus, fe welwch sinema Barbie yn dangos y ffilm o 1939, Wizard of Oz!

Roedd defnyddio modelau bychain i fapio daearyddiaeth Byd Barbie yn galluogi Sarah y Cynllunydd Cynhyrchu i gael rheolaeth lwyr dros ddyluniad, gwead a lliw'r adeiladau swbwrbaidd a’r bensaernïaeth stryd, mewn ffordd a fyddai wedi bod yn llawer mwy anos pe byddent wedi’u darlunio’n ddigidol drwy VFX ar y cam ôl-gynhyrchu.

Byddai’n ymweld â’r gweithdy modelau bychain yn aml, fel y gwnaeth Greta, ac rwyf yn credu bod hyn wedi’u helpu i sefydlu’r byd ehangach yr oeddent yn ei ffilmio yn y setiau maint llawn.

Sut wnaethom ni hyn…

Roeddwn yn treulio fy nyddiau yn astudio celf a chyfeiriadau’r cysyniad cychwynnol, yn treulio amser ar y setiau maint llawn ac yna’n darlunio’r fersiynau bychain swbwrbaidd gwahanol o’r dyluniadau pennawd sefydledig ar yr un thema er mwyn poblogi’r rhan breswyl o Fyd Barbie, adeiladau blaen siopau a’r promenâd glan y môr.

Eiddo tiriog Byd Barbie. Pob un gyda phwll nofio a llithren wrth gwrs

Fe wnaethom dreulio llawer o amser yn casglu gwybodaeth gan y cyfarwyddwyr celf amrywiol a oedd yn gweithio ar y ffilm er mwyn i ni allu creu modelau bychain o’u darluniau. Er enghraifft, adeiladwyd tŷ Weird Barbie mewn maint llawn hefyd ar gyfer ffilmio gyda’r actorion, felly fe wnaethom adeiladu union gopi graddfa 1:9 o’r tŷ hwnnw gyda’r tirlun amgylchynol ar gyfer yr olygfa sefydlu.

Cawsom lawer o sgyrsiau gyda’r adrannau Graffeg a’r Addurnwyr Setiau er mwyn cael dimensiynau’r propiau maint llawn a’u darlunio er mwyn gallu eu hargraffu mewn 3d a’u peintio’n fanwl gywir fel modelau bychain - fe wnaethom hyd yn oed greu’r blychau llythyrau adar a’r gwelyau haul ar raddfa 1:18!

Roedd yr adran Addurnwyr Setiau yn adran hwyliog iawn oherwydd roedd ganddynt lawer o dai breuddwyd o archif Mattel yno er mwyn gallu cyfeirio atynt, yn ogystal â samplau anhygoel o’r llenni gliter a rhubanau ar gyfer yr olygfa ddawns â choreograffi a ffabrigau dodrefnu hyfryd.

Roedd yn un o fy hoff swyddi rwyf wedi’u cael hyd yma, ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn fy mod wedi gweithio ar rywbeth sydd wedi dod â llawer o bobl ynghyd a gwneud iddynt chwerthin. Roedden ni i gyd yn gwybod ei fod yn mynd i fod yn boblogaidd pan oedden ni’n gweithio arno – roeddem yn rholio chwerthin wrth weld rhai o’r lluniau cychwynnol – ond mae llwyddiant y ffilm yn wallgof.

'Rwy’n darlunio ac yn creu modelau am yn ail ar gyfer ffilm yn awr, ac rwyf wrth fy modd yn gwneud hynny. Mewn cyfnod pan mae llawer o gynyrchiadau o’r maint hwn wedi gorfod cau oherwydd y streic barhaus ynglŷn â’r pryder ynghylch y defnydd cynyddol o AI mewn ffilmiau, mae’n teimlo’n ingol fod Barbie wedi llwyddo cymaint yn y swyddfa docynnau. Rwy’n credu bod ymateb pobl i’r artistwaith a’r grefft yn rhannol gyfrifol am hyn - y gweledol a’r sgript - a fu’n rhan o greu’r ffilm.
Mae rhywbeth yn y defnydd o setiau adeiledig ac mewn technegau camera sy'n rhoi'r fath galon i'r ffilm, rhywbeth nad yw bob amser yn cael ei gyflawni trwy wau picselau gyda'i gilydd!'
Emily Bates

Storïau eraill