Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Cynllunio ar gyfer Perfformio

  • Dyfarniad:

    MA Cynllunio ar gyfer Perfformio

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r  Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    712F – UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cyfle i wella eich arbenigedd cynllunio gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer 10 maes astudio gwahanol.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Trosolwg o’r cwrs

Yn y cwrs hwn sy’n canolbwyntio ar hyfforddiant ymarferol, gallwch ddefnyddio eich sgiliau cynllunio presennol mewn maes astudio (neu ‘lwybr’) arbenigol newydd, uwch ar lefel broffesiynol:

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael eich arwain gan diwtoriaid sy’n ymarferwyr cynllunio proffesiynol, sy’n gweithio yn y diwydiant ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Maent i gyd yn cynnig addysg o’r radd flaenaf i chi, yn ogystal â mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio hefyd.
  • Yn ogystal â hyfforddiant arbenigol, drwy gydol eich cwrs byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith ymarferol – fel gwaith cynllunio mewn hyd at ddau gynhyrchiad yn y Coleg, yn amrywio o ddrama i theatr gerdd ac opera.
  • Mae’r cynyrchiadau hyn yn cael eu goruchwylio gan gynllunwyr proffesiynol ac ymarferwyr cynllunio o’r diwydiant, a byddwch hefyd yn cael profiad o weithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr theatr proffesiynol. Mae’n cynnig cyfuniad o ddod i gysylltiad ag ymarfer proffesiynol a ffordd o ddechrau meithrin eich rhwydwaith o gysylltiadau.
  • Mae gennym gysylltiadau cryf â’r BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, y National Theatre ac amrywiaeth o gwmnïau ffilm a theledu o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’n golygu bod ein haddysgu’n adlewyrchu arferion gorau’r diwydiant – ond, yn hollbwysig, gall ein partneriaethau hefyd gynnig lleoliadau gwaith proffesiynol a chyfleoedd gwaith uniongyrchol i chi ar ôl graddio.
  • Yn ein cyfres o ddosbarthiadau meistr, byddwch yn cael arweiniad a gwybodaeth gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw o bob cwr o’r byd sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn. Mae’r dosbarthiadau hyn wedi’u cynllunio i ategu eich astudiaeth arbenigol unigol, ac maent yn annog ymarfer amlddisgyblaethol a chydweithio ar berfformiadau – ac yn cynnig cipolwg heb ei ail ar y diwydiant.
  • Bydd eich gwaith yn cael ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yng Nghaerdydd ac am bedwar diwrnod ar South Bank Llundain, gan gynnwys nosweithiau diwydiant ar gyfer cynulleidfa wadd o ddarpar gyflogwyr.
  • Mae cydweithio’n elfen allweddol o holl lwybrau ein cyrsiau – gallech fod yn gweithio ym maes cynhyrchu ochr yn ochr â’n myfyrwyr opera neu’r rheini sy’n astudio ar ein cyrsiau cerddoriaeth. Nid yn unig y bydd y profiadau cyffredin hyn yn eich helpu i ddatblygu empathi ar draws disgyblaethau celf, bydd hefyd yn eich galluogi i greu partneriaethau creadigol sy’n gallu para ymhell ar ôl i chi raddio.
  • Mae’r ffaith fod y garfan yn fach a bod staff unigol yn cynnig llawer o gefnogaeth yn eich helpu i wirioneddol archwilio eich creadigrwydd mewn amgylchedd gwaith diogel sy’n eich meithrin.

Gwybodaeth arall am y cwrs

'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'
Hannah RaybouldRheolwr gweithrediadau Bad Wolf

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf