Neidio i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Chaledi Myfyrwyr

Helpwch ni i ehangu mynediad i'n hyfforddiant, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ein sector, a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol a diwylliannol.

Y rhodd o gyfle

Mae gwneud rhodd er mwyn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i fyfyrwyr – drwy ysgoloriaethau, bwrsariaethau a’n Cronfa Caledi Myfyrwyr – yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol a gwerth chweil i chi ein helpu i ehangu ein hyfforddiant, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein sector a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol a diwylliannol.

Gallwch ein helpu i roi cymorth yn y ffyrdd canlynol:

Ysgoloriaethau

Mae cyfoeth ac egni’r celfyddydau perfformio yn ddibynnol ar sicrhau bod pobl ifanc eithriadol ddawnus o gefndiroedd amrywiol yn cael y cyfle i ddatblygu, mynegi a chyfrannu eu lleisiau creadigol. Mae ysgoloriaethau yn ein galluogi i gynnig lleoedd i’r bobl ifanc mwyaf addawol y byddwn yn dod ar eu traws ac yn chwilio amdanynt, yn seiliedig ar deilyngdod waeth beth fo unrhyw anfanteision y byddant o bosibl yn eu hwynebu.

Gall rhoddwyr ysgoloriaethau ddewis rhoi i fyfyrwyr gradd neu ôl-radd a phenderfynu a ydynt am gefnogi ymgeisydd o Gymru, y DU neu un rhyngwladol. Gellir hefyd gwneud cysylltiadau i feysydd astudio penodol.

Gall rhoi ysgoloriaeth – yn flynyddol neu drwy rodd gwaddol – fod yn ffordd hynod werth chweil i gefnogi a dilyn cynnydd artist ifanc a gellir enwi gwobrau ar gyfer rhoddwyr byw neu 'er cof'.

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio sicrhau ysgoloriaethau newydd sy’n helpu:

  • Myfyrwyr sydd â nodweddion gwarchodedig gyda phwyslais penodol ar hil, rhyw ac anabledd
  • Y rheini sy’n astudio’r basŵn, corn Ffrengig, fiola, bas dwbl, ac obo
  • Myfyrwyr sydd ag anghenion ariannol
  • Fel rhan o’n hymgyrch Addewid uchelgeisiol, rydym wedi addo dyblu nifer yr ysgoloriaethau a godwn gan unigolion, busnesau ac ymddiriedolaethau.

Os hoffech drafod ariannu ysgoloriaeth ymhellach, cysylltwch â: marie.wood@rwcmd.ac.uk neu tabitha.moore@rwcmd.ac.uk.


Cronfa Ysgoloriaeth Syr Geraint Evans

I nodi canmlwyddiant geni’r diweddar ganwr opera o Gymru, Syr Geraint Evans, bydd ysgoloriaeth newydd yn ei enw yn helpu myfyrwyr opera sydd mewn angen ariannol gyda chostau eu hyfforddiant. Roedd Syr Geraint yn un o gantorion mwyaf poblogaidd a llwyddiannus ei genhedlaeth a pherfformiodd rolau blaenllaw ym mhrif dai opera’r byd. Bu’r Coleg yn ffodus i gael Syr Geraint yn Llywydd arno, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth ym 1992, ac mae’n anrhydedd i ni gael Cronfa yn ei enw a fydd yn cefnogi baritoniaid a myfyrwyr o Gymru, gan helpu i feithrin cantorion mawr y dyfodol.

Rhowch nawr

Aeth rhywbeth o’i le

Bwrsariaethau

Fel rhan o’n penderfyniad i alluogi’r mynediad ehangaf posibl at ein hyfforddiant, rydym wedi gwneud addewid i ddarparu bwrsariaeth flynyddol gwerth hyd at £1,200 i bob myfyriwr gradd newydd y mae incwm eu haelwyd yn llai na £30K y flwyddyn, o flwyddyn academaidd 2021/22. Rydym yn rhagweld y bydd dros 25% o’n myfyrwyr newydd bob blwyddyn yn gymwys ac felly rydym yn gweithio’n galed i godi’r £500,000 fydd ei angen arnom er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i ni roi cefnogaeth i bob myfyriwr sydd ei hangen dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd rhoddion o unrhyw faint – gan fusnesau, ymddiriedolaethau ac unigolion – yn ogystal â rhoddion gwaddol mawr, yn hollbwysig i’n galluogi i gyflawni ein haddewid.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfrannu at ein Cronfa Bwrsariaeth, cysylltwch â: development@rwcmd.ac.uk.

Rhowch nawr

Aeth rhywbeth o’i le

Caledi myfyrwyr

Mae’r Gronfa Caledi Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr sy’n cael anawsterau ariannol. Efallai eu bod wedi archwilio pob llwybr cyllido arall, bod ganddynt gostau ychwanegol uchel penodol neu wedi dioddef argyfwng annisgwyl. Gyda chostau byw cynyddol, yn ogystal â natur anrhagweladwy’r byd ariannol yn ei gwneud yn fwyfwy anodd i fyfyrwyr, rydym yn rhagweld galw llawer uwch am y Gronfa Caledi Myfyrwyr eleni.

Mae’r grant hwn nad sy’n rhaid ei ad-dalu yn gyllid hollbwysig i fyfyrwyr a allai fel arall gael eu gorfodi i adael y Coleg a’r diwydiant creadigol am byth.

A fyddech cystal â chyfrannu i sicrhau bod cymorth brys ar gael i’r holl fyfyrwyr presennol a rhai’r dyfodol pan fydd ei angen fwyaf arnynt.

Rhowch nawr

Aeth rhywbeth o’i le


Archwilio’r adran