Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Enwebu’r Cyfansoddwr Jasper Dommett am Wobr E Ivor Novello

Mae’n braf cael newyddion da mewn cyfnod clo, ac rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod y myfyriwr Cyfansoddi Jasper Dommett wedi’i enwebu ar gyfer un o brif wobrau cerddoriaeth y DU, Gwobr Ivor Novello. Mae gwobrau Ivor yn cael eu cydnabod fel pinacl cyflawniad, gan ddathlu crefft eithriadol mewn creu cerddoriaeth ac fe’u beirniadir gan gyd grewyr cerddoriaeth.
Jasper yn arwain ei opera yng nghyntedd y Coleg

Jasper, a enwebwyd am y Gwobr Cyfansoddwyr Ivor yn y categori Cerddorfaol Mawr am gyfansoddiad a ysgrifennodd ar gyfer Cyfansoddi: Cymru Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW), yw un o’r ieuengaf erioed i gael ei enwebu.

‘Mae cerddoriaeth yn gwneud y gwaith pan nad oes geiriau i’w cael ac felly dylai adael lle i bob un ohonom ddychmygu ein byd ein hun pan fyddwn yn gwrando.’
Jasper Dommett

Gwrandewch ar gyfansoddiad Jasper sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Ivor Novello, Night Music.

Darlledir cyflwyniad y gwobrau ar BBC Radio 3 ar 1 Rhagfyr.

Yr Enwebiad

‘Mae’n fraint enfawr i mi gael fy enwebu. Mae Gwobrau Cyfansoddwyr Ivor yn rhan mor bwysig o gerddoriaeth gyfoes ym Mhrydain.'

Jasper yn arwain yr opera gyfoes Spinning Jenny yng ngŵyl cerddoriaeth newydd Awyrgylch y Coleg llynedd. 

Bob blwyddyn enwebir casgliad o gyfansoddwyr i gydnabod eu cyflawniad, gyda chyfeiriad at waith sydd wedi’i berfformio am y tro cyntaf yn ystod y deuddeg mis blaenorol. Rwy’n teimlo’n anghymwys dros ben oherwydd bod artistiaid sydd wedi’u henwebu yn y gorffennol, yn enwedig yn y categori cerddorfaol, wedi bod yn unigolion aruthrol yr oeddwn yn eu parchu’n fawr, sef Harrison Birtwistle, Helen Grime, Ken Hesketh, Raymond Yiu a chymaint mwy

Mae derbyn yr enwebiad hwn am ddarn a ysgrifennais ar gyfer BBC NOW hefyd yn arbennig iawn i mi. Mae’r gerddorfa hon wedi bod yn rhan annatod o’m datblygiad fel cyfansoddwr, nid yn unig o ran fy ngalluogi i gael fy ngherddoriaeth wedi’i gwireddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond hefyd drwy raglennu eang y gerddorfa.

Cael profiad rheolaidd o ystod amrywiol o gerddoriaeth fyw yw’r addysg gorau i gyfansoddwr; dros y bedair blynedd ddiwethaf yn CBCDC rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i brofi’r cyngherddau rhyfeddol hyn.

Jasper mewn rihyrsal ar gyfer Night Music yn Neuadd Hoddinott BBC NOW

‘Caf fy nghyffroi hefyd pan fyddaf yn meddwl am ddyfodol BBC NOW gyda Lisa Tregale a Ryan Bancroft wrth y llyw, a gwn fod ganddynt syniadau cyffrous iawn ar y gweill.’

‘Mae CBCDC wedi bod yn ganolog i’m datblygiad, nid yn unig fel cyfansoddwr ond hefyd fel unigolyn. Mae gen i’r tiwtoriaid mwyaf rhyfeddol yr wyf yn ymddiried yn llwyr ynddynt ac mae eu harweiniad yn amhrisiadwy.

Drwy gael cydbwysedd 50:50 llwyr rhwng acwsteg ac electroneg, rydw i wedi cael cyfle i feithrin y sgiliau o edrych ar gyfansoddi drwy nifer o wahanol lensys ac roedd hyn yn hollbwysig wrth ysgrifennu Night Music.‘
Jasper Dommett

Night Music: Y Cyfansoddiad

‘Doedd gen i ddim bwriad ysgrifennu darn yn benodol ar gyfer Cyfansoddi: Cymru 2020 BBC NOW ac yn wir, bu bron i’r darn beidio â chael ei berfformio. Gan fy mod wedi gweithio gyda BBC NOW yn 2019 doeddwn i ddim am ei gyflwyno ar gyfer yr alwad am sgoriau ond fe wnaeth fy nhiwtor 1:1 Joseph Davies, a’r Pennaeth Cyfansoddi John Hardy, fy argyhoeddi i’w gynnig ar gyfer y gystadleuaeth ac rydw i mor falch iddynt wneud hynny!

'Hyd yn oed pan nad ydych yn credu ynoch eich hun, mae eich tiwtoriaid yn credu ynoch – dyna un o rinweddau gorau CBCDC.'
Jasper Dommett

Mae gan Night Music le arbennig yn fy nghalon. Mae’r darn wedi’i gyflwyno i fy niweddar fam-gu, Mary Dommett. Rwy’n teimlo ei fod nid yn unig yn ddathliad o’i bywyd ond hefyd yn llythyr ffarwel wedi gwaeledd hir. Mae hi’n llythrennol wedi’i gwreiddio yn y darn gyda’r brif alaw, sy’n sail i’r holl waith, sy’n amlinelliad o’r galwad chwiban y byddem yn ei defnyddio i d dod o hyd i’n gilydd pan fyddem yn anturio.

Os rhywbeth, teimlaf fod yr enwebiad hwn yn werthfawrogiad ohoni hi, gan na fyddwn lle rydw i heddiw hebddi.’

Dathlu perfformiad BBC NOW o Night Music yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd 

‘Er bod i’r darn hwn gysylltiad personol dwfn, mae’r natur raglennol yn un sy’n archwilio’r nos gyda fy ymateb emosiynol i iddo. Mae’n creu delweddau o lonyddwch wedi’u cyfosod gydag eiliadau o egni er mwyn rhoi teimlad o greaduriaid y nos yn symud o gwmpas. 

Trwy wahanol lensys gall gwrandäwr ddehongli’r darn hwn mewn nifer o ffyrdd gwahanol ac mae hynny’n iawn gen i. Mae’r dyddiau lle mae darn wedi’i wreiddio’n gadarn yn ei nodiadau rhaglen a dyna’r modd cyffredinol i wrando ar y gwaith wedi hen fynd.’

Pennaeth Cyfansoddi, John Hardy:

‘Mae Jasper yn gyfuniad delfrydol o angerdd, creadigrwydd, gallu technegol gadarn, trefnus iawn a gwych am gysylltu â phobl. Mae’n gerddor sy’n perfformio yn ogystal â chyfansoddwr, felly mae’n llwyr ymwybodol o anghenion cerddorion sy’n perfformio – cantorion ac offerynwyr; mae’n gartrefol yn y stiwdio recordio ac yn gyfforddus gyda phob math o dechnoleg hefyd.

Ond yn anad dim, mae’n adnabod ei hun yn ddigon da i fod â’r hyder i ddal yn ôl, i ddefnyddio dim ond y deunydd sydd ei angen i wneud y pwynt. Bydd llawer o gyfansoddwyr ifanc yn llenwi’r dudalen gyda nodau a sŵn.

‘Mae Jasper yn gwybod beth mae’n ei gyfathrebu drwy ei gerddoriaeth, ac mae’n dewis y swm cywir o ddeunydd i fynegi’r hyn sydd angen ei ddweud yn y modd mwyaf grymus, effeithiol a chofiadwy.’
John HardyPennaeth Cyfansoddi

Gallwch gael gwybod mwy am Jasper ar ei wefan: JasperDommett.com

Darllenwch rhagor am Wobrau Cyfansoddwyr Ivor yma.

Storïau eraill