Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dathlu’r Pennaeth Jazz, Paula Gardiner

Yng ngŵyl AmserJazzTime eleni byddwn yn seinio’n trympedau jazz mewn ffanffer o ddiolch i’n pennaeth jazz gwych Paula Gardiner, sy’n ein gadael ar ôl bron i 23 mlynedd yn y Coleg.
'Fel cerddorion jazz yng Nghymru mae ein dyled a’n diolch fel cymuned i Paula am ei chynnyrch creadigol ac am fod yn Bennaeth Jazz yn CBCDC am yr ugain mlynedd diwethaf yn aruthrol.

Diolch Paula!'
Tomos Williamsyfansoddwr ac aml-offerynnwr a raddiodd ar y cwrs jazz

Rhwng 1 a 4 Mehefin bydd rhaglen llawn sêr yn ymuno yn AmserJazzTime i ddathlu etifeddiaeth Paula, gyda rhai o artistiaid mwyaf cyffrous y DU, a graddedigion cwrs jazz CBCDC Paula, yn dychwelyd i’r Coleg. Yn eu plith fydd Rebecca Nash, Chris Hyson a Tomos Williams.

Dathlu Paula

'Cafodd Paula Gardiner a’r cwrs Jazz yn CBCDC effaith enfawr ar fy mywyd. Byddai’n cynnal y cwrs yn amyneddgar, yn gadarnhaol a rhoddodd le i ni’r myfyrwyr ddarganfod pa fath o gerddorion yr oeddem am fod.

Mae gen i gymaint o atgofion gwych o fy amser yno. Diolch Paula, bydd colled ar dy ôl!' Chris Hyson, cyfansoddwr ac aml-offerynnwr a raddiodd ar y cwrs jazz.
Chris Hysonyfansoddwr ac aml-offerynnwr a raddiodd ar y cwrs jazz

'Dywed y pianydd, y cyfansoddwr a’r graddedig, Rebecca Nash, ‘Wrth edrych yn ôl ar fy amser fel myfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Paula yw’r un sy’n dod i’m meddwl fel yr uchafbwynt, fel canolbwynt y cwrs jazz, a’r ysbrydoliaeth fwyaf – nid dim ond i mi, ond i bawb.

Y pianydd Rebecca Nash yn dychwelyd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i berfformio fel rhan o’r ŵyl

'Wna i byth anghofio ei hymrwymiad i wasanaethu’r bydd cerddorol. Yr angerdd a’r gallu i feithrin llais cerddorol pob myfyriwr yn unigol yw un o brif gryfderau cwrs Jazz y Coleg, ac mae’r agweddau hyn wedi chwarae rhan enfawr yn llwyddiant y cwrs. 

Rwy’n teimlo’n hynod falch o fod yn rhan o’r gymuned jazz mae hi wedi’i chreu.

'Yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae cyfraniad Paula i sîn Jazz y Deyrnas Unedig wedi bod yn eithriadol – mae hi’n gampus!

Pob dymuniad da i chi yn y dyfodol.’
Rebecca NashPianydd, y cyfansoddwr a’r graddedig

Yn ei geiriau ei hun

Cawsom gyfle i gael sgwrs gyda Paula i geisio deall yr hyn y mae’n ei olygu iddi hi i rannu ei chariad at jazz gyda chymaint o fyfyrwyr dawnus dros y ddau ddegawd diwethaf:

'Rydw i wedi treulio 22 a hanner o flynyddoedd bendigedig yn CBCDC, gyda’r teitl swydd gorau yn y wlad – Pennaeth Jazz!' meddai.
'A dweud y gwir, ymhell yn ôl yn 2001 pan ddechreuais ‘fy swydd gyntaf’, roeddwn i’n gydlynydd jazz ac un o fy nhasgau cynnar oedd creu cwricwlwm jazz ar gyfer y rhaglen gradd.

Mae’n anodd dychmygu’r dyddiau hynny nawr. Nid oedd adran, dim ond llond llaw o fyfyrwyr a oedd yn awyddus i chwarae’r gerddoriaeth hon.

Nawr, mae graddedigion jazz CBCDC i’w gweld ledled y byd, mewn lleoedd mor bell â Cholombia, Sydney, Shanghai, Llundain a Chaerdydd!


Amser Jazz, Yr haf 2022
'Blynyddoedd lawer yn ddiweddarach rwy’n cofio beth wnaeth fy ysbrydoli i gymryd y swydd - y myfyrwyr wrth gwrs.

Y fraint fwyaf ysbrydoledig yw cadw cwmni i grewyr ifanc, gan ailddyfeisio’n gyson y gerddoriaeth hon rydym yn ei galw’n ‘jazz’.
Rwy’n hynod falch o Jazz yn CBCDC o’r gorffennol pell hyd heddiw. Mae’n rhyfeddol meddwl bod myfyrwyr wnaeth gyfarfod yma mor bell â phymtheg neu ugain mlynedd yn ôl yn dal i chwarae gyda’i gilydd.

Gadewch i ni barhau i ddathlu cerddoriaeth ein myfyrwyr presennol.'
Paula Gardiner

Rhannodd Tomos Williams rai o’i atgofion o hyfforddi yn CBCDC gyda ni:

'Fel cerddor jazz o Aberystwyth, Paula Gardiner oedd yr un enw roeddwn i’n ei gysylltu â ‘jazz Cymru’ ar y pryd ac roeddwn i wedi bod yn gwrando ar ei halbwm gwych Tales of Inclination ers rhai blynyddoedd. Roeddwn wrth fy modd pan welais fod Paula yn dysgu dosbarth jazz i oedolion ar fore Sul yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter – gallwn gael cyfle i gyfarfod a dysgu gan y meistr.

Roedd fy nghyfnod yn y Coleg yn sylfaen wych yn yr hanfodion. Roedd Paula bob amser yn gynhwysol iawn, yn llawn ysbrydoliaeth a wastad yn galonogol - yn gadael i chi ddod o hyd i’ch ffordd eich hun yn hytrach na’ch cyfeirio at lwybr penodol fel y ‘llwybr jazz cywir’.

Tomos Williams

'Ers hynny rydw i wedi cael y pleser o wahodd Paula i chwarae mewn gwahanol gigs ac roeddwn i bob amser wrth fy modd pan fyddai’n cytuno. Roedd cael Paula ar y bas yn sicrhau y byddai gan y gerddoriaeth urddas a difrifoldeb a fyddai’n mynnu parch, ceid amser gwych, a swing.

Fel cerddorion jazz yng Nghymru mae ein dyled a’n diolch fel cymuned i Paula am ei chynnyrch creadigol ac am fod yn Bennaeth Jazz yn CBCDC am yr ugain mlynedd diwethaf yn aruthrol. Diolch Paula!'

AmserJazz gyda Xhosa Cole

Gwyl AmserJazz, the AmserJazz Time Festival

Pedwar diwrnod llawn cerddoriaeth. Yn ogystal â’n graddedigion gwych, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu hasesiadau diwedd blwyddyn; er mai ‘arholiadau’ swyddogol yw’r rhain, yr hyn y byddwch yn ei glywed yw ystod ryfeddol o rai o’r rhaglenni a gwaith unigol jazz gorau yn y DU.

'A pheidiwch ag anghofio digwyddiad olaf y rhaglen, Band Mawr CBCDC dan gyfarwyddyd Ceri Rees.

Dyma fwy o brawf o beth yw teulu CBCDC – dechreuodd Ceri a minnau astudio gyda’n gilydd pan oedd yn ‘CCDC’ nôl ym 1979.

Diolch CBCDC am fod yn deulu estynedig i mi!'
Paula Gardiner

Cynhelir yr AmserJazzTime olaf ar 30 Mehefin yng Nghyntedd Carne y Coleg, a dyma fydd ein cyfle i ddweud diolch yn fawr wrth Paula. Ymunwch â ni (mae ein sesiynau nos Wener bob amser am ddim!)

Storïau eraill