Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Pas cefn llwyfan – Tymor ym mywyd myfyriwr Rheoli Llwyfan

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd gefn llwyfan ar gynhyrchiad theatr?

Rydym wedi ymuno â Georgina Pittman, myfyriwr MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau, sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Reolwr Llwyfan (DSM) ar y sioe gerdd London Road, i ddangos i ni sut beth yw tymor nodweddiadol ym mywyd myfyriwr Rheoli Llwyfan, a allai gynnwys gwisgo i fyny a mynd ar y llwyfan eich hun!

Felly, gadewch i ni ddechrau yn y dechrau…

Mae unrhyw gynhyrchiad yn cychwyn yn y cam ‘Cyn-rihyrsal’. Mae rhestrau propiau dros dro yn cael eu creu, mae’r gwaith canfod propiau a dodrefn rihyrsal yn cael ei wneud, mae’r rihyrsals yn cael eu hamserlennu, ac wrth gwrs, mae’n bryd cael eich sgriptiau.

Allow Instagram content?

Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Fel DSM ar gyfer sioe gerdd, mae’r sgript a’r sgôr yn hollbwysig. Mae angen iddynt gael eu hargraffu fel y gellir ysgrifennu unrhyw giwiau, blocio a nodiadau eraill yn ystod y rihyrsals a’r perfformiad.

Mae angen y lefel hon o fanylder er mwyn mynd o ddechrau i ddiwedd unrhyw gynhyrchiad. Heb hyn, byddech ar goll yn llwyr.’
Georgina Pittman

Propiau i’r ASM

Fodd bynnag, pan oedd Georgina yn gweithio fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (ASM) ar gyfer Philip Pullman’s Grimm Tales, roedd dod o hyd i a rheoli propiau yn brif gyfrifoldeb iddi a daeth yn greadigol iawn gyda sut yr aeth ati i’w canfod.

Allow Instagram content?

Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

'Mae tair prif ffordd o ‘bropio’: prynu, rhentu a gwneud. Roedd Grimm Tales yn gofyn am lawer o waith er mwyn dod o hyd i bropiau rihyrsal, yn enwedig eitemau y gallai’r actorion ymarfer â nhw mewn rihyrsals tra ein bod yn dod o hyd i’r propiau terfynol. Un eitem o’r fath oedd coron bapur!’

Beth am ddechrau ymarfer

Mae’r cyfan yn dechrau gyda darparu rhestrau cast ac amseroedd galwadau, marcio’r ystafell rihyrsal, archebu unrhyw fan rihyrsio ychwanegol ac unrhyw arlwyo sydd ei angen. Diolch byth, mae gan y Coleg y ffreutur ac ardal Undeb y Myfyrwyr!

Allow Instagram content?

Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

DSM – creu gwasanaeth yn y canol

‘Drwy gydol rihyrsals London Road, rydw i wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’m cyd-dîm rheoli llwyfan, y cyfarwyddwr, y cyfarwyddwr cerdd a’r cast, gan nodi’r blociau ar gyfer golygfeydd ac unrhyw giwiau.’

‘Rwy’n credu fod bod yn DSM, yn ymwneud â darparu gwasanaeth sy’n creu’r ddolen berffaith rhwng y cast a’r criw.

Roeddwn i’n arfer dawnsio pan oeddwn i’n iau, felly byddwn i’n dweud fy mod yn dod o gefndir perfformio. Rwy’n teimlo bod rôl Dirprwy Reolwr Llwyfan mor agos at fod ar y llwyfan ag y gall pherson cefn llwyfan fod.’
Georgina Pittman
London Road, CBCDC

'Fodd bynnag, yr hyn efallai nad ydych yn ei wybod yw fy mod i hefyd yn gyfrifol am gymryd cofnodion ar gyfer cyfarfodydd cynhyrchu ac ysgrifennu adroddiadau rihyrsal dyddiol. Rwy’n mwynhau hynny’n dawel bach oherwydd gallaf ddefnyddio fy hoff offer ysgrifennu.’

Gwisg, technoleg, amser sioe!

Mae’r holl waith caled yn dod yn fyw! Fodd bynnag, nid yw’r gwaith ar ben eto ar gyfer y DSM…

‘Yn ystod y rihyrsals gwisgoedd a thechnoleg a’r sioe ei hun, fi yw’r pwynt cyfathrebu allweddol rhwng blaen tŷ a chefn llwyfan.’
Georgina Pittman

Yn ystod ei lleoliad ar Grimm Tales, siaradodd Georgina am fod yn ymarferol gyda phropiau a gwnaeth hyd yn oed ymddangos ar y llwyfan yn ystod y sioe.

‘Gyda Philip Pullman’s Grimm Tales, bu’n rhaid i ni symud propiau yng nghanol yr olygfa a gall honno fod yn dasg wirioneddol bwysig i ASM, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod i ymdoddi i’r olygfa, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gwisgo fel gweinydd a chael mwstas realistig iawn.’

Allow Instagram content?

Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Yn ogystal â galw ciwiau ar gyfer y tîm cynhyrchu, rwy’n cadw golwg ar yr actorion ac yn gwneud yn siŵr nad ydynt yn hwyr i’r llwyfan ac oherwydd amgylchiadau ein lleoliad, rwy’n gwneud hyn i gyd trwy fotymau wedi’u goleuo a heb yngan gair!’

Symud allan wedi’r sioe

Pan fydd unrhyw sioe yn gorffen, mae’n bryd clirio’r safle yn barod ar gyfer y cynhyrchiad nesaf.

Georgina sefyll wrth y poster London Road
‘Mae pawb yn helpu gyda’r gwaith symud allan.

Gorau po gyntaf y gallwn gael yr holl bropiau, y llwyfan a’r goleuadau allan ac wedi’u pacio, y cynharaf y gallwn fynd adref, gorffwys a pharatoi ein hunain yn barod ar gyfer yr un nesaf.’
Georgina Pittman

‘Mae pawb yn y Coleg bob amser yn hapus i helpu ei gilydd ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n ei fwynhau ac yn ei hoffi’n fawr am astudio yma.’

Allow Instagram content?

Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth nesaf?

Pan fydd London Road yn cau bydd Georgina yn symud ymlaen i’w lleoliad allanol ar gyfer tymor yr haf lle mae’n cael dysgu tra’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill y tu allan i amgylchedd y Coleg ac yna’n gobeithio gweithio yn y diwydiant Theatr Gerddorol yn y West End fel gyrfa.

‘Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar London Road. Mae wedi bod yn fraint cael adrodd stori lleisiau a diogelwch menywod drwy’r cynhyrchiad hwn a gweithio ochr yn ochr â grŵp gwych o fenywod yn ein tîm.'
Georgina Pittman

Diolch i Georgina am rannu ei phrofiad drwy gydol y tymor hwn.

Storïau eraill