Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Bywyd newydd i hen dechnoleg CBCDC

Er mwyn rhoi bywyd newydd i’n hen git, mae’r Coleg wedi rhoi peth o’i offer technegol i’r cwmni theatr lleol Tin Shed Theatre Co.

Er mwyn rhoi bywyd newydd i’n hen git, mae’r Coleg wedi rhoi peth o’i offer technegol i’r cwmni theatr lleol Tin Shed Theatre Co.

Roedd Cara Hood, a raddiodd mewn Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol o’r Coleg, yn chwilio am offer er mwyn helpu i sefydlu lleoliad perfformio yn The Place, safle celfyddydau a chymunedol Tin Shed yng Nghasnewydd, a gofynnodd i’r Coleg rhag ofn bod gennym unrhyw beth y gallem ei roi iddynt.

Roedd rheolwr gweithrediadau technegol CBCDC, Leigh Kirk-Harris, yn fwy na pharod i drosglwyddo offer nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach, gan gynnwys system sain a desg oleuo:

‘Daeth Cara atom ar yr adeg gywir gan ein bod newydd fuddsoddi mewn technoleg newydd, felly roeddem yn ystyried cael gwared ar yr hen offer.
Mae ymgysylltu â’r gymuned a gwaith allgymorth yn rhan greiddiol o weledigaeth y Coleg, felly mae uchelgeisiau Tin Shed ar gyfer ‘The Place’ yn gweddu’n berffaith i hynny.
Hefyd, mae gallu rhoi bywyd newydd i offer hŷn yn cyd-fynd â’n hymrwymiadau o ran cynaliadwyedd a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.’
Leigh Kirk-HarrisRheolwr gweithrediadau technegol CBCDC

Datblygodd Cara, a raddiodd yn 2019, ei hoffter o theatr pan ddechreuodd fynychu grŵp drama lleol Tin Shed Theatre Co. pan oedd tua 10 oed. Mae bywyd bellach wedi dod yn ei gylch cyfan wrth iddi ddychwelyd fel cynllunydd goleuo (Rocket Launch Blaenafon) a rheolwr technegol yn ei hawl ei hun, gan helpu’r grŵp i greu ei safle theatr newydd.

‘Mae Tin Shed yn gwmni theatr lleol sy’n ymgysylltu â’r gymuned a phobl ifanc ac yn gwneud i’r amhosibl ddigwydd! Mae’r rhodd hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ni. Mae’n cyflymu’r broses o agor y lleoliad perfformio yn The Place ac mae cael cit proffesiynol o’r fath yn rhoi’r hygrededd a’r proffesiynoldeb i ni ddenu mwy o bobl i ddefnyddio ein mannau perfformio.
Mae hefyd yn ateb cynaliadwy i’n problem felly’n garedig i’r blaned.’
Cara Hood

Dod yn ‘wneuthurwr theatr’

‘Pan fyddwch yn astudio rheoli llwyfan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rydych yn dechrau drwy wneud ychydig o bopeth. Efallai eich bod yn y gweithdy, yna’n gweithio fel ASM (Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol) ac yna, yn fy achos i, ym maes goleuo.

‘Yr hyn roeddwn i’n ei fwynhau’n fawr am y cwrs oedd nad oedd yn rhaid i chi ddewis eich arbenigedd cyn cyrraedd yma. Gallech dreulio amser yn dysgu am bob maes, darganfod ble mae eich gwir ddiddordeb, ac yna canolbwyntio ar hynny yn yr ail a’r drydedd flwyddyn.'
Cara Hood

Darganfyddais fy mod wrth fy modd yn gosod goleuadau mewn setiau a chreu propiau trydanol felly fe ganolbwyntiais ar oleuo o’r ail flwyddyn ymlaen ac yna gweithio fel cynllunydd goleuo yn y drydedd flwyddyn. Fy mhortffolio cynllunio a wnes ar gyfer Arddangosfa Balance a’m helpodd i gael fy nhroed yn y drws yn National Theatre Wales fel eu Rheolwr Technegol ar gyfer eu taith o Peggy’s Song yn 2019. Byddaf yn dal i gyfeirio weithiau at ddelweddau cynhyrchu o fy nghyfnod yn CBCDC.

Rhoddodd y cwrs set sgiliau i mi a oedd yn golygu y gallwn fynd i weithio fel cynllunydd goleuo ym myd y theatr, ond hefyd fel trydanwr / gweithredwr consol goleuo ym maes ffilm a theledu.

Rocket launch, Blaenavon

Pan nad oeddwn i’n gweithio yn y theatr yn ystod Covid roedd gen i’r hyder, oherwydd fy hyfforddiant, i fynd i weithio ar raglenni teledu fel War of the Worlds, Casualty, Doctor Who, Alex Rider i enwi dim ond rhai. Rhoddodd profiad fy ngradd a’m gwaith proffesiynol y sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol i mi. Ers hynny rydw i wedi gwneud hyfforddiant pellach yn ennill ardystiadau trydanol; sy’n teimlo nawr ymhell o fy narlithoedd diogelwch trydanol yn fy mlwyddyn gyntaf.

Rwy’n teimlo y byddai llawer o bobl sy’n gweithio ym maes y theatr a digwyddiadau yn addas iawn ar gyfer y byd teledu, megis rheolwyr llwyfan cynorthwyol yn gweithio yn yr adrannau propiau neu olygfeydd, a byddai rheolwyr llwyfan yn rheolwyr lleoliadau, rhedwyr a chyfarwyddwyr cynorthwyol gwych.

Dod o hyd i’ch lle

‘Awgrymodd fy athro drama yn yr ysgol uwchradd faes rheoli llwyfan i mi, a doeddwn i erioed wedi meddwl am hynny fel opsiwn ar gyfer gyrfa,’ meddai Cara. ‘Pan gyrhaeddais i’r Coleg ar gyfer fy nghyfweliad, ffoniais fy mam a dweud, ‘Dwi’n mynd yma.’

Machinal, RWCMD

‘Teimlais ar unwaith – dyma fy lle. Rwy’n dod yma. Yn fy nghyfweliad roedd ganddynt gymaint o ddiddordeb mewn pwy oeddwn i’n bersonol ac yn fy nghynlluniau set o fy mhortffolio celf Safon Uwch. Er fy mod yn gwneud cais am y cwrs Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol, ac felly nid oeddent yn uniongyrchol berthnasol, gallent weld bod gennyf angerdd am theatr.

'Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n cael fy nghymharu ag eraill, roedd y cyfweliad yn ymwneud mwy am bwy ydych chi a beth rydych chi’n ei fwynhau, a’ch potensial i dyfu a datblygu ym myd y theatr a digwyddiadau byw'
Cara Hood

Storïau eraill