Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cynllunio Theatr: Dau enillydd Gwobr Linbury i CBCDC

Mae’r adran Cynllunio ar gyfer Perfformio yn dathlu dwy fuddugoliaeth gyda TK Hay a Rose Revitt yn ennill dau o’r pedwar comisiwn yng Ngwobr Linbury o fri eleni.

Rhannu neges

Categorïau

Cynllunio

Dyddiad cyhoeddi

Published on 04/12/2019


Mae’r adran Cynllunio ar gyfer Perfformio yn dathlu dwy fuddugoliaeth gyda TK Hay a Rose Revitt yn ennill dau o’r pedwar comisiwn yng Ngwobr Linbury o fri eleni.

Cynrychiolwyd y Coleg gan hanner y rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni, gyda chwech o’r deuddeg o raddedigion yn gweithio gyda phedwar cwmni cynhyrchu. 

Bydd TK nawr yn cynllunio An Adventure ar gyfer Theatr Octagon, Bolton, ar ôl cystadlu yn erbyn un o’i gyd-raddedigion CBCDC Aline Jeffery. Bydd Rose yn cynllunio Dr Korczak’s Example ar gyfer Leeds Playhouse, lle bu’n fuddugol yn erbyn cyd-raddedigion CBCDC Debbie Duru ac Elin Steele.

Roedd Harry Pizzey yn ail orau gyda Birmingham Royal Ballet.

'Gwobr Linbury yw’r digwyddiad pwysicaf ar gyfer ein graddedigion.

Bob dwy flynedd mae’n rhoi cyfle euraidd i’n myfyrwyr brofi eu gallu yn erbyn y myfyrwyr Cynllunio gorau o bob rhan o’r DU.

Mae cael chwech yn y rownd derfynol unwaith eto, gyda dau o’r enillwyr yn eu plith, yn hwb enfawr i staff a myfyrwyr yr adran Cynllunio.'
Sean CrowleyCyfarwyddwr Drama

Mae’r wobr ddwyflynyddol ar gyfer Cynllunwyr Theatr, y pwysicaf o’i math yn y DU, yn rhoi cyfle i gynllunwyr addawol weithio gyda chwmnïau theatr, dawns ac opera proffesiynol.
Caiff eu gwaith ei arddangos yn y National Theatre rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill.

Mae enillwyr, a rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol, y wobr ddwyflynyddol yn y gorffennol yn cynnwys Fin Redshaw, Jean Chan, Rhys Jarman, Tom Scutt, Madeleine Girling, Camilla Clarke, Max Jones ac Adam Wiltshire.

Negeseuon newyddion eraill