Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Blwyddyn Anarferol CBCDC yn siweddu gydag ymweliad brenhinol

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi dod â’i flwyddyn academaidd i’w therfyn gydag ymweliad gan ei Lywydd, EUB Tywysog Cymru ac EHB Duges Cernyw.

Rhannu neges

Categorïau

Datblygiad

Dyddiad cyhoeddi

Published on 07/07/2022

CBCDC a Duges Cernyw


Treuliodd Eu Huchelderau Brenhinol y bore yn cwrdd â staff, myfyrwyr a graddedigion, ac yn clywed mwy am sut mae’r Coleg wedi ymdopi drwy’r pandemig a’i fod nawr yn buddsoddi ac yn codi arian i gefnogi lansiad rhaglenni newydd cyffrous sy’n cynnwys gradd Cerddoriaeth israddedig wedi’i hailgynllunio, BA mewn Theatr Gerddorol a chwrs Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd.

I ddathlu deng mlynedd ers i’r Coleg agor ei ganolfan gelfyddydau cawsant gyfle i fwynhau perfformiadau cerddoriaeth a drama a oedd yn arddangos doniau artistiaid ifanc rhyfeddol y Coleg yng Nghyntedd Carne, Neuadd Dora Stoutzker a Theatr Richard Burton.

Fel rhan o’r dathliadau dychwelodd y Delynores Frenhinol, a graddedig CBCDC, Alis Huws i’r Coleg i berfformio Intermezzo o Cavalleria Rusticana ac i dalu teyrnged i ben-blwydd Opera Cenedlaethol Cymru yn 75 oed, a’i gyflwyniad o’r opera honno yn ei dymor agoriadol ym 1946.

Opera Cenedlaethol Cymru yw un o brif bartneriaid diwydiant CBCDC ac yn ddiweddarach yn yr ymweliad fe wnaeth yr Uchelderau Brenhinol gwrdd â Marianna Metsälampi a Rosie Kat sy’n cwblhau graddau MA mewn Cyfarwyddo Opera – yr unig gwrs o’i fath yn y DU – a fu’n dangos eu cynyrchiadau presennol iddynt. Bydd y ddau gyfarwyddwr ifanc yn cael y cyfle i weithio ar leoliad gyda’r WNO yn y dyfodol.

'Mae’n anrhydedd i ni groesawu Eu Huchelderau Brenhinol i Goleg Brenhinol Cymru yn ystod eu hwythnos yng Nghymru ac mae’n teimlo’n arbennig iawn bod ein Llywydd gyda ni fel rhan o’n hwythnos olaf o’r tymor.

Wrth gwrs bu’n flwyddyn heriol i gymuned ein Coleg ond rydym wedi gallu parhau â’n hyfforddiant drwy gydol y cyfnod a pharhau i greu a rhaglennu ystod eang o berfformiadau rhagorol yn y mannau rhyfeddol hyn sydd wedi’n gwasanaethu ni a’n cynulleidfaoedd mor dda dros y deng mlynedd ddiwethaf.

Rydym nawr yn edrych ymlaen ag uchelgais, ac mae’n hyfryd ein bod wedi cael cyfle i friffio Ei Uchelder Brenhinol am ein strategaethau ar gyfer y dyfodol a fydd yn sicrhau ein bod yn gryfach o ganlyniad i brofiad y 18 mis diwethaf wrth i ni godi arian a buddsoddi er mwyn ehangu mynediad at hyfforddiant, datblygu cysylltiadau â’r diwydiannau a chryfhau ein heffaith.'
Athraw Helena GauntPrifathro CBCDC

Gwnaeth Eu Huchelderau Brenhinol hefyd gwrdd â’r Ysgolorion Tywysog Cymru presennol, yr actor Ayo Adegun, y myfyriwr MA Opera William Pearson a’r pianydd Ieuan Davies. Adnewyddwyd Ysgoloriaethau Tywysog Cymru ar yr ymweliad Brenhinol diwethaf i ddathlu pen-blwydd EUB Tywysog Cymru yn 70 oed, a chefnogi artistiaid ifanc rhyfeddol o bob rhan o Gymru a’r DU yn ehangach.

Wrth ymweld â Theatr Richard Burton cyfarfu Duges Cernyw ag aelodau Flying Bedroom Productions, cwmni newydd o fyfyrwyr cerddoriaeth, cyfansoddi a chynllunio sydd wedi cydweithio i greu cynhyrchiad theatr plant trochol The Flying Bedroom, a fydd yn cael ei berfformio yn Theatr Clwyd ym mis Gorffennaf ac yna’n teithio ysgolion Gogledd Cymru ym mis Medi.

Daeth Tywysog Cymru, sydd â diddordeb ers tro ym myd y celfyddydau, yn Llywydd y Coleg yn 2019, wedi iddo fod yn Noddwr y sefydliad am yr 20 mlynedd flaenorol. I gael rhagor o wybodaeth am ddathliadau dengmlwyddiant y Coleg darllenwch ein datganiad i’r wasg yma:

Nodiadau i olygyddion

Ar ôl cyrraedd gwyliodd Eu Huchelderau Brenhinol berfformiadau gan rai o fyfyrwyr y Coleg yng Nghyntedd Carne, gan gynnwys un o areithiau Shakespeare gan yr actor MA Zoe Goriely, perfformiad o Something Rotten gan aelodau o garfan MA Theatr Gerddorol sy’n graddio, ac enillydd Gwobr Syr Ian Stoutzker eleni, Elena Zamudio, yn perfformio Porgi Amor o Priodas Figaro gyda David Doige, a raddiodd o’r Coleg ac sy’n gyn-ysgolor Tywysog Cymru ac erbyn hyn yn Gorfeistr gyda’r WNO, yn cyfeilio iddi.

Cawsant eu cyflwyno i aelodau pwyllgor Undeb y Myfyrwyr sy’n dod i ddiwedd eu tymor a’r aelodau newydd gan gynnwys y Llywydd presennol Nia Thomas a’i holynydd Rebecca Mercer.

Tra bod Ei Uchelder Brenhinol yn cwrdd ag aelodau uwch dîm y Coleg, fe wnaeth Eu Huchelder Brenhinol gyfarfod â myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio. Dangosodd y cynllunydd Katie Unwin ailwneuthuriad ffrog plentyn o 1600, ei chynnig ar gyfer gwobr nodedig Pattern of Fashion eleni sy’n dathlu sgiliau crefft cyfnod mewn torri patrwm a gwnïo.

Ysgoloriaethau Tywysog Cymru: Cynigir y dyfarniadau ym meysydd Drama, Opera a Cherddoriaeth ac maent yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt baratoi yn y Coleg i ddylanwadu ar, ac arwain, y diwydiannau creadigol yn y dyfodol. Mae gan Ei Uchelder Brenhinol ddiddordeb mawr yn y rheini sy’n derbyn y gefnogaeth hon. Ymhlith Ysgolorion Tywysog Cymru blaenorol mae Toks Dada, sydd erbyn hyn yn Bennaeth Cerddoriaeth Glasurol yng Nghanolfan South Bank.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru, yn cystadlu gyda grŵp cymheiriaid o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol am y myfyrwyr gorau yn fyd-eang, gan eu galluogi i fynd i mewn i fyd cerddoriaeth, theatr a phroffesiynau cysylltiedig eraill a dylanwadu arnynt. Mae myfyrwyr y Coleg wedi perfformio yn Llwynywermod, Palas Buckingham a’r Coleg i EUB ar nifer o achlysuron.

Negeseuon newyddion eraill