Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn croesawu’r Maestro Xu Zhong fel ei Athro Cadair Rhyngwladol Opera cyntaf

Mae’n anrhydedd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru groesawu’r Maestro Xu Zhong, Arweinydd, Cerddor, Cynhyrchydd Opera ac Addysgwr fel ei Athro Cadair Rhyngwladol Opera cyntaf yn cynrychioli Asia.

Rhannu neges

Categorïau

Opera

Dyddiad cyhoeddi

Published on 10/06/2021

Mae CBCDC yn croesawu Maestro Xu Zhong


Ar hyn o bryd mae Xu Zhong, un o bianyddion ac arweinwyr mwyaf rhyngwladol adnabyddus Tsieina, yn Llywydd Tŷ Opera Shanghai, Prif Gyfarwyddwr Fondazione Arena di Verona, Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Suzhou a Deon Ysgol Gerdd Prifysgol Soochow.

Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Teatro Massimo Bellini, ac fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Haifa Israel. Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai ef fyddai arsyllwr allanol arbenigol cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2021.

Mae penodiad y Maestro XU yn caniatáu i’r Coleg elwa gan ei wybodaeth, ei fewnwelediad a’i ddawn artistig, a bydd yn gwella’r cydweithredu rhwng cerddoriaeth a drama ar draws nifer o feysydd perfformio a chynhyrchu, a chefnogi datblygiad opera fel ffurf celfyddyd cynyddol fyd-eang. Ochr yn ochr â hyn bydd yn cefnogi taith CBCDC tuag at amrywiaeth ac yn datblygu ymhellach y berthynas rhwng Cymru a Tsieina, Ewrop a gweddill y byd.

Bydd yn ymuno â grŵp o Athrawon Cadair Rhyngwladol CBCDC sy’n cynnwys y Maestro Carlo Rizzi, Matthew Rhys, Pamela Howard a Michael Sheen a bydd yn datblygu ymhellach yr effaith a gaiff yr Athrawon Cadair Rhyngwladol ar brofiad y myfyrwyr a phroffil cenedlaethol a rhyngwladol y Coleg.

'Mae’n fraint enfawr i barhau ein perthynas gynnes a chynhyrchiol gyda’r Maestro Xu ac rydym yn ei groesawu nawr fel ein Hathro Cadair Rhyngwladol Opera cyntaf, yn cynrychioli ei wreiddiau yn Asia a’r byd ehangach gyda’i waith rhyngwladol.

Fel cerddor ac impresario penigamp mae ei arbenigedd yn gweddu’n berffaith i’n hysbryd o ragoriaeth. Daw â gwybodaeth ryfeddol am y diwydiant a chreadigrwydd a bydd yn ein cynorthwyo i amrywio ymhellach faes opera. Bydd hefyd yn gweithredu fel mentor ar gyfer cenhedlaeth newydd o berfformwyr, cynllunwyr a thechnegwyr sy’n hyfforddi yma.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ar ein cydweithrediadau opera a cherddoriaeth rhyngwladol, a threulio amser yn Tsieina gyda’r Maestro fel aelod o reithgor Cystadleuaeth Piano Rhyngwladol Suzhou Llyn Jinji yn y dyfodol agos.'
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC
'Mae’n fraint a gwefr i mi gael y cyfle i weithio’n agos â CBCDC. Mae gan y Coleg weledigaeth eithriadol ar gyfer rhagoriaeth greadigol drwy gydweithrediadau rhyngwladol ac mae mewn sefyllfa unigryw i gynnig amgylchedd hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n cwmpasu sbectrwm llawn y disgyblaethau creadigol ym meysydd cerddoriaeth a drama, ac yn enwedig opera, gan gynnwys cyfarwyddo, cynllunio a chynhyrchu.

Byddaf yn helpu CBCDC i feithrin cantorion a pherfformwyr ym meysydd opera a drama ar y cyd â Chyfarwyddwr Artistig Ysgol Opera David Seligman, John Fisher, a David Jackson o gystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, yn ogystal â doniau cynhyrchu ar gyfer y dyfodol.'
Xu ZhongMaestro

Bydd cyfnod Xu Zhong fel Athro Cadair Rhyngwladol yn cefnogi’r Coleg i archwilio ac ehangu ei gydweithrediad rhyngwladol ac i recriwtio myfyrwyr, gan greu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr y Gorllewin gysylltu â Tsieina a gweddill y byd drwy ddosbarthiadau meistr, perfformiadau, cystadlaethau ac interniaethau mewn sefydliadau celfyddydau.

Er enghraifft, y mis hwn bydd myfyrwyr llais CBCDC yn cael cyfle arbennig i ymuno mewn dosbarthiadau meistr gyda Xu Zhong yn ystod cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Drwy gydweithio â’r Coleg a chystadleuaeth Canwr y Byd, bydd Xu Zhong yn cynhyrchu prosiect cyngerdd gala arbennig a fydd hefyd yn cynnwys elfen addysgol gref, er mwyn mynd ag ef i leoliadau celfyddydau blaenllaw megis Canolfan Genedlaethol Celfyddydau Perfformio Beijing, Theatr Fawr Shanghai/Neuadd Gyngerdd Shanghai, Theatr Fawr Jiangsu, Canolfan Celfyddydau a Diwylliant Suzhou yn ogystal â Theatr Cân a Dawns Fujian.

Yn 2022 bydd yn gweithio gyda Thŷ Opera Shanghai a’r Tŷ Opera Brenhinol ar gyd-gynhyrchiad o Rigoletto, gan gynnig dosbarthiadau meistr, darlithoedd a chyfleoedd cysgodi a lleoliadau yn Shanghai i ddetholiad o fyfyrwyr CBCDC.

I gael rhagor o fanylion am Ysgol Opera David Seligman.

Nodiadau i Olygyddion

Mae Xu Zhong yn gerddor neilltuol ac yn arbenigwr mewn rheolaeth yn y celfyddydau ac addysg ac mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ffyniant celfyddyd a hyrwyddo cyfnewidiadau diwylliannol rhwng China a gwledydd tramor.

Mae wedi ennill nifer o gystadlaethau rhyngwladol o fri, wedi perfformio fel unawdydd yn y gwyliau cerddoriaeth mwyaf blaenllaw a bydd yn ymddangos yn rheolaidd fel aelod rheithgor mewn cystadlaethau piano amlwg. Mae hefyd wedi gweithio gyda nifer o gerddorfeydd adnabyddus ac wedi arwain mewn tai opera blaenllaw yn Ewrop a ledled y byd.

Fel addysgwr brwd mae gwaith gweinyddol Xu Zhong yn llawn o’r un angerdd ag y bydd yn ei ddangos ar lwyfan ac yn 2010 dyfarnwyd iddo’r Chevalier de L’Ordre des Arts et des Lettres, ac yn 2018 fe’i dyrchafwyd yn Officier de L’Ordre des Arts et des Lettres gan Weinyddiaeth Diwylliant a Chyfathrebu Ffrainc am ei gyfraniadau i gerddoriaeth glasurol a chyfnewid diwylliant.

Yn 2021 bydd yn cynhyrchu ac yn arwain Cavalleria Rusticana Mascagni / Pagliacci Leoncavallo, ac yn mynd â’i gynhyrchiad Tŷ Opera Shanghai ar daith genedlaethol.

I weld bywgraffiad llawn ewch i: 

Ysgol Opera David Seligman

Mae Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a sefydlwyd yn 2017, yn cynnig profiad hyfforddiant operatig cwbl integredig.

Gan adeiladu ar hanes rhyfeddol y Coleg ym maes opera, ac mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), mae’r Ysgol Opera yn darparu cyfleoedd uwch i fyfyrwyr weithio gyda, a dysgu gan, artistiaid ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw. Yn ogystal â rhaglenni astudio arbenigol ar gyfer cantorion, cyfarwyddwyr a répétiteurs, mae’r Ysgol Opera yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer perfformwyr offerynnol, arweinwyr, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr a chyfansoddwyr i gydweithio mewn amgylchedd hyfforddiant unigryw o’r radd flaenaf.

Mae Ysgol Opera David Seligman yn darparu amgylchedd hyfforddiant unigryw lle mae’r cysyniad o ‘gwmni’ yn ganolog i’r ethos gweithio. Daw profiad operatig cyfunol, eang ein hathrawon arbenigol â phersbectif i alwadau a gofynion y diwydiant. Ategir y mentora gyda mewnbwn gan ystod eang o artistiaid, cantorion, hyfforddwyr a gweithwyr proffesiynol cwmnïau opera ar ymweliad.

CBCDC

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru, yn gweithredu o fewn ei grŵp cymheiriaid rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol. Mae’n hyfforddi artistiaid ifanc a ddaw o tua 50 o wledydd i ddarparu llif cyson o dalent newydd i’r diwydiannau cerddoriaeth a theatr a phroffesiynau cysylltiedig. Yn 2020 daeth y Coleg yn ‘Gonservatoire Steinway yn Unig’ cyntaf yn Ewrop, gan adeiladu ar ei statws Steinwey Cyfan a derbyn 24 piano Steinway arall i greu fflyd o bianos Steinway o’r radd flaenaf.

Negeseuon newyddion eraill