Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

CBCDC yn penodi ymddiriedolwyr newydd ‘eithriadol’

Mae’r arweinydd benywaidd ac enillydd Gwobr Solti, a raddiodd yn ddiweddar o’r Coleg, Tianyi Lu, yn un o pump aelod newydd o’r bwrdd a benodwyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC).

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 11/01/2023

On o pump aelod bwrdd newydd a benodwyd

Mae Tianyi Lu, arweinydd benywaidd, enillydd gwobr Solti, a myfyriwr graddedig diweddar, yn un o pump aelod bwrdd newydd a benodwyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC).

Gan adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Coleg i ragoriaeth a chynhwysiant, cydweithredu a gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, yr aelodau newydd sy’n ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr CBCDC yw:

April Koyejo-Audiger, canwr a gwneuthurwr opera, a chyn Artist Cwmni Jette Parker 21-22 ar gyfer y Tŷ Opera Brenhinol.
Ian Lewis, sylfaenydd y cwmni ymgynghoriaeth cyfryngau, dosbarthu a chynhyrchu ffilm a theledu Serenroc, a Dirprwy Gadeirydd ar fwrdd yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol. Arferai fod yn Gyfarwyddwr Grŵp Sinema Sky.
Tianyi Lu, Arweinydd Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni Stavanger yn Norwy, Arweinydd Preswyl Benywaidd WNO, a Llysgennad Artist dros Opera for Peace, yn ogystal â bod yn un o raddedigion CBCDC.
David Ruebain, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer diwylliant, cydraddoldeb a chynhwysiant ym Mhrifysgol Sussex a Phrif Weithredwr y Conservatoire for Dance and Drama.
Nitin Sawhney CBE, cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd a derbynnydd Gwobr Cyflawniad Oes Ivor Novello.

Wrth gyhoeddi’r penodiadau newydd dywedodd Cadeirydd y bwrdd, John Derrick, ‘Mae’r chwe ymddiriedolwr newydd yn adlewyrchu ehangder a dyfnder eithriadol y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar fwrdd conservatoire yr unfed ganrif ar hugain. Maent yn dod â gwybodaeth ac arbenigedd sylweddol o feysydd yn amrywio o gerddoriaeth i’r sgrin a recordio ffilm, cyfryngau ac opera.

Mae sicrhau bod ein graddedigion conservatoire yn barod i barhau â’u gyrfaoedd fel cymuned o artistiaid a gweithwyr proffesiynol yn gofyn am fwrdd a all gefnogi a herio ein tîm gweithredol o’r radd flaenaf. Ynghyd â’n hymddiriedolwyr presennol, bydd yr aelodau newydd hyn yn sicrhau ein bod yn ychwanegu arbenigedd pellach yn y meysydd cyfreithiol a digidol.

Edrychaf ymlaen at eu croesawu i’r bwrdd a chyfoethogi ein cyfathrebu, gan gefnogi ein nod uchelgeisiol o sicrhau bod CBCDC yn meithrin talent, yn ymgysylltu â’i gynulleidfaoedd ac yn cynrychioli Cymru fel grym creadigol nodedig yn y byd.’

'Wrth i ni barhau i ddyfnhau ac ehangu dylanwad y Coleg yng Nghymru ac yn rhyngwladol bydd y gymysgedd gyffredinol o sgiliau ac arbenigedd ar ein bwrdd yn chwarae rhan hollbwysig mewn cyflawni ein huchelgeisiau.

Mae ein ffocws ar hyfforddi a meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid, gan eu paratoi i ymuno â’r diwydiannau creadigol fel cyfranwyr artistig blaengar i gymdeithas.'
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Meddai Is-lywydd CBCDC, Rhodri Talfan Davies: ‘Mae’r penodiadau cyffrous hyn yn dweud popeth wrthych am ymrwymiad y Coleg i ddarparu profiad conservatoire o’r radd flaenaf – gan ddefnyddio doniau creadigol aelodau’r bwrdd sydd ag ystod ryfeddol o gyflawniadau artistig ac ym myd busnes. Mae’r penodiadau hyn hefyd yn tanlinellu natur benderfynol CBCDC i agor addysg cerddoriaeth a drama i bobl o bob cefndir.’

O dan arweiniad y Cadeirydd John Derrick, mae Bwrdd CBCDC hefyd yn cynnwys Manon Antoniazzi, Mario Ferelli, Natasha Hale, Aled Miles a Roger Munnings.

Bydd yr aelodau bwrdd newydd yn ymuno â’r Coleg ar gyfer eu cyfarfod bwrdd cyntaf ym mis Chwefror.

Nodiadau i olygyddion

Mae April Koyejo-Audiger, y soprano o Brydain, yn gyn Artist Cwmni Jette Parker
21-22 ar gyfer y Tŷ Opera Brenhinol. Graddiodd o Gonservatoire Brenhinol yr Alban, ac aeth ymlaen i astudio am radd meistr mewn perfformio lleisiol yn y Coleg Cerdd Brenhinol, lle’r oedd hi’n Ysgolor y Celfyddydau Leverhulme ac yn dderbynnydd Gwobr Ôl-radd Help Musicians UK. Mae’n ymuno â WNO ar gyfer perfformiadau’r Ffliwt Hud y flwyddyn nesaf. aprilkoyejo.com

Mae gan Ian Lewis dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau ffilm, teledu a hysbysebu, ac ef yw sylfaenydd yr ymgynghoriaeth cyfryngau Serenoc, cwmni dosbarthu a chynhyrchu ffilm a theledu. Treuliodd Ian 21 o flynyddoedd yn Sky, gan ddechrau fel Cyfarwyddwr Strategaeth Hyrwyddo ym 1999 cyn dod yn Gyfarwyddwr Darlledu ac yna’n Gyfarwyddwr Sky Movies, SBO a Chaffaeliadau, ac yn olaf yn Gyfarwyddwr Grŵp Sky Sinema. Mae hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd bwrdd yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol.

Mae Tianyi Lu, a anwyd yn Tsieina ac sy’n hanu o Seland Newydd ac a raddiodd mewn arwain cerddorfaol yn CBCDC, yn gweithio gyda cherddorfeydd mawr a thai opera ledled y byd. Mae ei gwaith yn cael ei ysgogi gan ethos o rymuso, creu cysylltiad ac empathi ar draws amrywiol gymunedau drwy gerddoriaeth. Mae Tianyi Lu yn Arweinydd Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni Stavanger yn Norwy ac yn Arweinydd Preswyl Benywaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru ac yn Brif Arweinydd Sinfonia St Woolos yn y DU. Yn ddiweddar, enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Arweinwyr Rhyngwladol Syr Georg Solti ac mae hefyd yn llysgennad Artist Llysgenhadol Opera for Peace. www.tianyi-lu.com

Mae David Ruebain yn Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer diwylliant, cydraddoldeb a chynhwysiant ym Mhrifysgol Sussex a Phrif Weithredwr y Conservatoire for Dance and Drama. Mae ei brofiad blaenorol yn cynnwys cynghori Uwch Gynghrair yr FA ar faterion cyfartaledd, ymgynghori yn Equality Works (EW Group). Mae’n ymgynghorydd i Black Thrive Global, sy’n ceisio mynd i’r afael ag effaith hiliaeth systemig ar gymunedau Du, ac mae’n gyn-enillydd Gwobr Pobl y Flwyddyn Radar am Gyflawniad mewn Hyrwyddo Hawliau Dynol Pobl Anabl yn y DU. Mae hefyd wedi cael ei enwi’n un o’r 25 o Bobl Anabl Mwyaf Dylanwadol yn y DU gan gylchgrawn Dissability Now.

Ar hyn o bryd mae Nitin Sawhney CBE yn gadeirydd Sefydliad PRS, prif elusen gerddoriaeth y DU, ac mae’n gyfarwyddwr nifer o fyrddau. Mae wedi sgorio dros 70 o ffilmiau a chyfresi teledu ac wedi rhyddhau dros 20 o albymau llwyddiannus a ganmolwyd gan y beirniaid, ac wedi ysgrifennu ar gyfer ac arwain Cerddorfa Symffoni Llundain droeon. Mae wedi gweithio gyda llawer o gerddorfeydd a bandiau nodedig eraill ledled y byd, wedi ysgrifennu ar gyfer, gweithio gyda, a chynhyrchu ar gyfer llawer o gerddorion gorau’r byd. Mae ganddo saith doethuriaeth anrhydeddus, dros 20 o wobrau rhyngwladol o fri, sawl cymrodoriaeth a Gwobr Cyflawniad Oes Ivor Novello. Fel cerddor, mae’n chwarae ystod o arddulliau fel gitarydd a phianydd. Mae hefyd yn ddarlithydd prifysgol ac wedi darlithio mewn nifer o brifysgolion rhyngwladol, gan gynnwys Stanford a Berklee yn Valencia. www.nitinsawhney.com

Negeseuon newyddion eraill