Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cyhoeddi Uzo Iwobi o Gyngor Hil Cymru yn Athro Cadair Rhyngwladol mewn Amrywiaeth Cyntaf CBCDC

8 Tachwedd 2018 Ddydd Sul, yn nigwyddiad mawreddog cloi Mis Hanes Pobl Dduon Cymru, cyhoeddodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mai Uzo Iwobi OBE, Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru, fydd ei Athro Cadair Rhyngwladol Hodge mewn Amrywiaeth cyntaf.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 09/11/2018

Cadair Rhyngwladol mewn Amrywiaeth Cyntaf CBCDC


Mae penodiad Uzo yn ehangu cynllun Athro Cadair Rhyngwladol Hodge y Coleg ac yn ddatganiad o fwriad ym maes amrywiaeth.

Dros y tair blynedd nesaf bydd y Coleg yn gweithio mewn partneriaeth  i ddarparu rhaglen bwrpasol o hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth amlddiwylliannol ar gyfer staff a phaneli recriwtio, datblygu ymhellach ei gynnig o ran rhaglennu creadigol, gwella ei waith allgymorth a mewngymorth, a datblygu gwaith recriwtio myfyrwyr a’u cynnydd academaidd dilynol.

Bydd penodiad Uzo yn Athro Cadair Rhyngwladol mewn Amrywiaeth yn dod â’r lefelau uchaf o arbenigedd er mwyn llywio datblygiad strategaeth amrywiaeth y Coleg dros y blynyddoedd nesaf, a sicrhau bod y Coleg yn cysylltu gyda, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer, pobl ifanc dalentog o bob rhan o’r gymuned.

'Teimlaf yn wylaidd ac mae’n anrhydedd i allu darparu arweinyddiaeth drawsnewidiol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth i Goleg Brenhinol Cymru.

Mae hwn yn Goleg o ragoriaeth, a bydd gweithio gydag uwch arweinwyr, staff llinell flaen, gwirfoddolwyr, myfyrwyr a darlithwyr ymhlith eraill, yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn arweinydd ac yn sefydliad disglair ar gyfer cydraddoldeb – gan arwain y ffordd ar gyfer conservatoires eraill – oherwydd bydd hyrwyddo cynhwysiant a dathlu amrywiaeth yn ein galluogi ni i brif-ffrydio egwyddorion cydraddoldeb ar draws y gwaith yr ydym yn ei wneud.

Mae’n debyg i’r piano, er mwyn cael yr harmoni gorau mae’n rhaid i’r nodau du a gwyn chwarae gyda’i gilydd mewn tiwn.'
Uzo Iwobi OBEPrif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru
'Uchelgais y Coleg yw bod ar flaen yr agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i gael ei weld fel sefydliad blaengar yn y maes hwn.
Rydym yn benderfynol y bydd yr adeiladu hyn yn hygyrch i bawb, ond ein bod hefyd yn mynd allan ac yn gweithio gyda’r holl gymunedau yng Nghymru.

Mae’r Coleg yn sefydliad sy’n rhoi gwerth ar ei genhadaeth ddinesig ac mae ganddo’r dyheadau uchaf ar gyfer datblygu ymhellach ei rôl fel Conservatoire Cenedlaethol i Gymru a thros Gymru. Rydym yn gwerthfawrogi’r rôl sydd gan y celfyddydau i’w chwarae mewn cymdeithas amrywiol a chynhwysol, a’r grym y gellir ei gael o fod yn gyfranogwr, aelod cynulleidfa neu’n gydweithredwr.'
Brian WeirCyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr yn CBCDC

Mae sicrhau bod artistiaid ifanc ac eithriadol yn gallu cyrchu hyfforddiant arbenigol a datblygu gyrfa, pa bynnag rwystrau y byddant yn eu hwynebu, yn egwyddor ganolog yn strategaeth y Coleg. Mae gallu cynnig y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i fyfyrwyr, ar sail rhagoriaeth ac angen ariannol, yn hollbwysig. Felly, ochr yn ochr â hyn, mae’r Coleg yn gweithio gyda’i bartneriaid, yn cynnwys Bad Wolf Productions, un o gwmnïau cynhyrchu blaenllaw’r DU, er mwyn gwella’r gefnogaeth ariannol angenrheidiol sydd ei hangen i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwireddu eu potensial.

'Mae Bad Wolf wrth ei fodd i allu cynnig ysgoloriaethau i gynorthwyo myfyrwyr sy’n hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cymru.

Mae ein hymrwymiad i waith teg, amrywiaeth, cyflogaeth foesegol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac yn arbennig o fewn ein rhaglen nawdd a bwrsariaeth. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.'
Natasha HalePrif Swyddog Gweithredu Bad Wolf Productions, ac Aelod o Fwrdd CBCDC

Mynychwyd y digwyddiad gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gwobrau Mis Hanes Pobl Dduon Cymru 2018 Cyngor Hil Cymru am gyfraniadau sylweddol i’r gymuned.

Nodiadau i olygyddion:

Ffurfiwyd rhaglen Athrawon Cadair Rhyngwladol y Coleg gyda chefnogaeth Sefydliad Jane Hodge, fel y’i gwelir ar y pryd, yn 2011 i wneud yn ffurfiol ein perthynas gyda nifer o artistiaid blaenllaw, o bob rhan o’r byd, er mwyn dod â hwy i Gaerdydd i addysgu, mentora a pherfformio gyda’n myfyrwyr.

Ers hynny, gyda chefnogaeth Sefydliad Hodge, mae’r rhaglen wedi tyfu y tu hwnt i raglen mentora proffesiynol er mwyn gwella’n strategol gwmpas ac ansawdd hyfforddiant a gyflwynir gan y Coleg. Mae’r cyfle i ddod ag arbenigwyr adnabyddus o wahanol ddisgyblaethau mewn cerddoriaeth a drama i weithio gyda chenhedlaeth newydd o dalent sy’n astudio yn y Coleg wedi galluogi myfyrwyr i sefydlu ac ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol a’r sefydliad ei hun er mwyn datblygu partneriaethau o fewn y diwydiant i gynnig llwyfannau newydd i fyfyrwyr ar gyfer lansio eu gyrfaoedd.

Mae deiliaid presennol y rôl yn cynnwys Athro Cadair mewn Arwain Maestro Carlo Rizzi, Athro Cadair mewn Opera John Fisher ac Athrawon Cadair mewn Drama Mathew Rhys a Michael Sheen.

Negeseuon newyddion eraill