Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

EUB Tywysog Cymru yn dod yn Llywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Neithiwr cyhoeddwyd y bydd noddwr Coleg Brenhinol Cymru, EUB Tywysog Cymru, yn dod yn Llywydd y Coleg o fis Gorffennaf eleni, gan olygu y bydd y Coleg ymhlith grŵp bychan o sefydliadau sy’n rhannu’r fraint hon.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 05/06/2019

EUB Tywysog Cymru yn dod yn Llywydd


Gwnaed y cyhoeddiad yng Nghinio Blynyddol Llywydd y Coleg, o dan lywyddiaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe, Llywydd hiraf y Coleg, a fydd yn rhoi’r gorau i’r swydd wedi 15 mlynedd. Bydd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn parhau ei berthynas â’r Coleg mewn rôl newydd, sef Cadeirydd Llawryfog.

'Mae’n fraint fawr i ni ac rydym yn llawn cyffro bod Ei Uchelder Brenhinol yn datblygu ei gefnogaeth i’r Coleg yn y modd hwn ac mae’r newyddion yn nodi ein pen-blwydd yn 70 oed mewn ffordd arbennig iawn.

Fel ein Noddwr a drysorir yn fawr dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Ei Uchelder Brenhinol bob amser wedi dangos diddordeb brwd yn natblygiad y Coleg a’i fyfyrwyr ac rydym wrth ein bodd bod y berthynas yn cryfhau ac yn y bydd yn parhau i dyfu.'
John DerrickCadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwr CBCDC
'Pan gyrhaeddais yma gyntaf, gwnaed argraff arnaf gan yr effaith sylweddol y mae David wedi’i chael, ac y mae’n parhau i’w chael, ar y Coleg hwn.

Mae wedi bod yn gefnogwr llawn gweledigaeth datblygiad y Coleg dros nifer o flynyddoedd. Mae ei gefnogaeth i’n myfyrwyr yn rhywbeth na ellir ei fesur. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gydag ef yn ei rôl newydd fel y Cadeirydd Llawryfog cyntaf.'
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Daeth Ei Uchelder Brenhinol yn Noddwr y Coleg ym 1999, cyn y rhoddwyd iddo ei statws brenhinol yn 2002. Fel Noddwr gweithgar a brwd, mae Tywysog Cymru wedi cynnal nifer o Galâu yn enw’r Coleg ym Mhalas Buckingham. Hefyd cynhaliodd ddigwyddiad olaf ei ddathliadau pen-blwydd ei hun yn 70 oed yn y Coleg fis Rhagfyr diwethaf.

Nododd y Coleg y dathliadau pen-blwydd hyn drwy gyhoeddi adnewyddiad yr Ysgoloriaethau Tywysog Cymru blynyddol, a ddyfernir o 2019 ymlaen o waddol y Coleg sy’n datblygu, a dechrau partneriaeth yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Bydd myfyrwyr y Coleg, gan gynnwys myfyrwyr y Conservatoire Iau, yn perfformio’n rheolaidd ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol a’i westeion yn Llwynywermod, ei gartref yng Ngorllewin Cymru.

Tywysog Cymru yw Noddwr Cyngres Telynau’r Byd 2020, a gynhelir yn y Coleg. Daw aelodau’r Gyngres o dros 50 o wledydd ac fe’i cynhelir bob tair blynedd. Hwn fydd y tro cyntaf y bydd Cyngres Telynau’r Byd wedi bod i Ewrop mewn deuddeng mlynedd.

Mae’r Arglwydd Rowe-Beddoe yn ŵr busnes rhyngwladol gyda hanes nodedig o wasanaeth cyhoeddus a gwaith dros y celfyddydau perfformio. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Datblygu’r Coleg, yn ogystal â Chadeirydd y Coleg cyn dod yn Llywydd yn 2004.

Roedd yn gyfaill agos i’w gyd-Gymro a’r actor Richard Burton, ac roedd yn flaenllaw mewn creu’r cyfeillgarwch â’r bartneriaeth gyda’r teulu Burton a alluogodd y Coleg i enwi ei theatr newydd ar ôl yr actor o fri.

O ganlyniad i hyn, cafodd y Coleg hefyd ganiatâd i roi’r teitl Cwmni Richard Burton ar ei gwmni preswyl o actorion, cynllunwyr a rheolwyr llwyfan blwyddyn olaf.

Yn y flwyddyn 2000 cafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i ddiwydiant a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn 2006 fe’i gwnaed yn arglwydd.

Nodiadau i olygyddion

Yr Arglwydd Rowe-Beddoe o Gilgeti Kt DL

Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn ysgolor cerddoriaeth yn Ysgol y Gadeirlan Llandaf ac Ysgol Stowe cyn mynd i Goleg Sant Ioan Caergrawnt (ar ôl gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol) ac Ysgol Fusnes Prifysgol Harvard.

Dechreuodd ei hoffter o’r theatr pan oedd yn blentyn (roedd ei fam yn gantores opera proffesiynol ac yn Diwtor yn y Coleg) a pharhaodd y diddordeb hwn drwy ei gyfnod yn y brifysgol pan gâi ei gydnabod fel actor medrus.

Mae ei yrfa ddisglair yn cynnwys gwaith gyda Thomas De La Rue, cwmi argraffu diogel a gwneuthurwr papur masnachol mwyaf y byd, lle bu’n Brif Weithredwr o 1971 hyd 1976. Aeth ymlaen i fod yn Llywydd America Ladin, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica gyda Revlon Inc o 1976 hyd 1981, ac yna Llywydd Morgan Stanley-GFTA Ltd hyd 1991.

Mae ei nifer o rolau eraill yn cynnwys Cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru, Cadeirydd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, Cadeirydd Maes Awyr Cymru Caerdydd a Chadeirydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae rolau presennol yr Arglwydd Lord Rowe-Beddoe yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Cymru, a Llywydd Oes Canolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â Llywydd Coleg Brenhinol Cymru.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru, yn cystadlu o fewn ei grŵp cymheiriaid rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydol arbenigol am y myfyrwyr gorau ar draws y byd, ac yn galluogi myfyrwyr i ymuno a dylanwadu’r byd cerddoriaeth, theatr a phroffesiynau cysylltiedig.

Negeseuon newyddion eraill