Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Dathlu’r gorau o’r celfyddydau perfformio: Cymrodyr newydd 2021 CBCDC

Bob blwyddyn mae’r Coleg yn anrhydeddu artistiaid nodedig sydd wedi ennill clod yn rhyngwladol yn y celfyddydau creadigol a pherfformio yn ogystal â datblygu perthynas â’r Coleg a’i fyfyrwyr.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 21/10/2021

Ar ddiwedd y flwyddyn anodd yma i’r celfyddydau, mae cymuned CBCDC yn pwysicach nag erioed ac mae’r Coleg yn edrych ymlaen at ddyfnhau perthnasau gyda Chymrodyr y flwyddyn hon sy’n arddangos y gorau o’r celfyddydau perfformio ym meysydd cerddoriaeth a drama, yn amrywio o gyfansoddi i reoli llwyfan ac o opera i actio.

Eleni rydym yn arbennig o falch i anrhydeddu un o artistiaid rhyngwladol mwyaf ysbrydoledig ei maes, y cyfansoddwr a’r cerddor, Errollyn Wallen.

Yn ymuno â hi fel cymrodyr CBCDC, yw dau o raddedigion CBCDC: y cynhyrchydd, rheolwr cynhyrchu a Chyfarwyddwr SC Productions Sarah Hemsley-Cole, a’r actor gwobrwyedig Mark Lewis Jones. Mae’r ddau ohonynt wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd diwylliannol Cymru, tra’n codi proffil Cymru o fewn diwydiant y celfyddydau yn fyd-eang.

'Rydym wrth ein bodd i groesawu ein Cymrodyr newydd i deulu Coleg Brenhinol Cymru.

Mae’r Coleg yn rhoi pwyslais mawr ar ein teimlad o gymuned sy’n dod ynghyd o 50 o wahanol wledydd. Rydym yn dathlu ein hamrywiaeth, ac mae’n gyfle i ni ddangos y dalent o’r radd flaenaf y mae’r Coleg yn ei meithrin ac yn ei chroesawu, gan greu cysylltiadau ar draws y diwydiant.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r diwydiant celfyddydau ac rydw i mor ddiolchgar i’n myfyrwyr a’n cymuned yn y Coleg am eu gwytnwch a’u cefnogaeth dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at groesawu ein cynulleidfaoedd yn ôl i CBCDC cyn gynted ag y gallwn.’
Helena GauntPrifathro

Errollyn Wallen

Ni ellir gor-ddatgan dylanwad Errollyn Wallen ar y byd clasurol. Hi yw’r fenyw ddu gyntaf i gael cyfansoddiad wedi’i berfformio ym Mhroms y BBC a chafodd ei gwaith gydnabyddiaeth bellach yn 2020 pan gafodd ei dewis i ail-weithio Jerusalem ar gyfer Noson Olaf y Proms. Mae cyfathrebu yn ganolog i’w gwaith - ymgysylltu â’r gynulleidfa, siarad yn uniongyrchol â chalonnau a meddyliau. Mae papur newydd The Observer wedi ei galw’n 'fenyw dadeni cerddoriaeth gyfoes Prydain.'

Mae Errollyn yn dod yn gyfaill cyfarwydd i’r Coleg gan mai hi oedd un o westeion cyntaf cyfres Live Lockdown y Coleg yn 2020, gan ymgysylltu â’r myfyrwyr, ac unwaith eto roedd yn gyfrannwr sylweddol i ddiwrnod datblygiad staff y Coleg ym mis Medi llynedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y berthynas hon yn tyfu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Sarah Hemsley-Cole

Sarah Hemsley-Cole, a raddiodd mewn Rheoli Llwyfan, yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni SC Productions ac mae’n gefnogwr eithriadol frwd y Coleg a’r cwrs Rheoli Llwyfan. Mae wedi cynorthwyo i ail-strwythuro a chyflwyno modiwlau.

Rheoli Digwyddiadau yng nghyrsiau’r Coleg, wedi derbyn myfyrwyr ar leoliadau gwaith ac wedi cynnig gwaith i raddedigion y Coleg.
Trwy gydol ei gyrfa hyd yma mae wedi mae wedi creu a gweithredu datrysiadau llwyfan ar gyfer prif berfformwyr megis Stereophonics ac Ed Sheeran.

Mae Sarah wedi ymrwymo’n llwyr i sector y celfyddydau, gan hyrwyddo â balchder gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei gwaith, ac mae’n gyd-sylfaenydd NOWIE (Network Of Women in Events) ac yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn ogystal ag arwain tîm ymgyrch #WeMakeEvents Cymru a chefnogi’r ymgyrchoedd cenedlaethol.

Yn fwy diweddar mae wedi helpu i greu ysbyty dros dro Calon y Ddraig ar gyfer cleifion Covid-19 yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae’n Gynhyrchydd Arweiniol Seremoni Agoriadol Dinas Diwylliant Coventry 2021. Sarah oedd yr ail fenyw i ennill Gwobr Technegydd y Flwyddyn ABTT (Gwobr Dechnegol Cymdeithas Theatrau Prydain) yn 2020.

Mark Lewis Jones

Mae CV Mark Lewis Jones, yr actor gwobrwyedig a raddiodd ar y cwrs actio, yn cynnwys peth o’r deunydd teledu uchaf ei fri a llwyddiannus a gynhyrchwyd yn y blynyddoedd diwethaf, yn eu plith The Crown a Chernobyl. Yn ddiweddar bu’n gweithio gyda theulu CBCDC yn Keeping Faith a The Pact ar BBC.

Mae Mark yr un mor gartrefol mewn ffilmiau mawr megis Star Wars a The Good Liar ac mae i’w weld hefyd mewn cyfresi teledu Cymreig megis Hidden/Craith a Stella. Mae hefyd yn adnabyddus am ei waith theatr, gan gynnwys perfformiadau yn y National Theatre, Royal Shakespeare Company, a Donmar Warehouse, ac yn y West End. Mae Mark yn gefnogwr brwd y Coleg a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi cyflwyno gweithdai actio yn canolbwyntio ar waith sgrin.

Negeseuon newyddion eraill