Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Bad Wolf yn ymrwymo i dalentau’r dyfodol drwy gefnogaeth ar ffurf ysgoloriaeth gyda Choleg Brenhinol Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddodd Bad Wolf, un o gwmnïau ffilm a theledu mwyaf y DU, gefnogaeth ar ffurf ysgoloriaeth i dri myfyriwr sy’n hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Rhannu neges

Categorïau

Cynllunio

Dyddiad cyhoeddi

Published on 26/10/2021

Mae Blaidd Drwg yn ymrwymo i dalent y dyfodol


Mae’r myfyrwyr ôl-radd Sanjana Nagesh Doddamani, sy’n astudio Cynllunio ar gyfer Perfformio, a Hollie Morrison a Luis Yatco, sydd ar y cwrs Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau, i gyd wedi elwa gan gymorth tuag at gostau eu hastudiaethau diolch i gyllid ysgoloriaeth gan Bad Wolf, gyda chyllid cyfatebol yn cael ei ddarparu gan Celf a Busnes Cymru.

Mae’r cyllido hwn yn dangos ymrwymiad parhaus Bad Wolf, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, i feithrin doniau ifanc ac amrywiol ac agor cyfleoedd i gyrchu’r hyfforddiant o’r radd flaenaf a ddarperir gan Goleg Brenhinol Cymru.

Mae’r diwydiant ffilm a theledu yn ffynnu yng Nghymru ac mae galw mwy nag erioed am ymarferwyr creadigol medrus, ac mae’r Coleg yn chwarae rhan fawr mewn bwydo’r diwydiant hwn.

Mae gan Bad Wolf, y cwmni cynhyrchu sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac sy’n gyfrifol am y cyfresi teledu poblogaidd His Dark Materials, A Discovery of Witches, Industry ac I Hate Suzie, a CBCDC hanes hir o bartneriaeth, gyda myfyrwyr yn mynd ar leoliadau rheolaidd sy’n aml wedi arwain at waith llawn amser pan fyddant yn graddio.

Gweithiodd 30 o raddedigion CBCDC ar gyfres wobrwyedig Bad Wolf His Dark Materials, a oedd yn cynnwys Lin-Manuel Miranda, a fu ar ymweliad â’r Coleg yn ystod y gwaith ffilmio.

Mae Bad Wolf hefyd yn cefnogi rhaglen Celfyddydau Cynhyrchu Pobl Ifanc (YPPA) CBCDC sy’n cyflwyno pobl ifanc 11-18 oed i feysydd arbenigol ‘cefn llwyfan’ hollbwysig megis rheoli llwyfan a chynllunio theatr, drwy ddosbarthiadau meistr ac ysgolion haf.

Mae hefyd yn cefnogi hyrwyddiad ei Radd Sylfaen newydd mewn Adeiladu Golygfeydd, a ddatblygwyd mewn ymateb i’r prinder dybryd o Dechnegwyr Adeiladu Golygfeydd lefel mynediad sydd â chymwysterau addas i weithio yn y diwydiannau llwyfan a sgrin sy’n tyfu’n gyflym.

'Rydym wrth ein bodd bod Bad Wolf, ynghyd â Celf a Busnes Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda ni i agor llwybrau newydd i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae cwmnïau cynhyrchu yn chwilio ym mhobman am raddedigion medrus sy’n barod ar gyfer y diwydiant.

Mae ysgoloriaethau fel y rhain yn ein helpu i sicrhau y gall unigolion dawnus o bob cefndir gyrchu ein hyfforddiant, a’n helpu i hyrwyddo gweithlu amrywiol ar gyfer y diwydiant.'
Sean CrowleyCyfarwyddwr Drama CBCDC
'Mae’r diwydiant yn llawn o gynfyfyrwyr llwyddiannus CBCDC ac mae’r Coleg yn amgylchedd meithringar ar gyfer ei fyfyrwyr sy’n fuddiol i’w paratoadau ar gyfer gyrfa broffesiynol.
Gyda’i fentoriaid uchel eu parch, y cyfarpar mwyaf diweddar, yn y cyfleusterau gorau, rwy’n sicr y bydd y rhaglen MA yn caniatáu i mi gyrraedd y safon na fyddwn wedi gallu ei chyrraedd cyn hyn.

Rydw i mor ddiolchgar i Bad Wolf a Celf a Busnes Caerdydd am y gefnogaeth sydd wedi fy helpu i gyrraedd Caerdydd o Ynysoedd y Philipinau, a nawr ni allaf aros i fod yn rhan o’r diwydiant ffyniannus sy’n bodoli yma.'
Luis YatcoMyfyriwr CBCDC

Yr wythnos hon croesawyd y tri myfyriwr i gael cipolwg prin tu ôl i’r llenni yn y stiwdios a chawsant hefyd gyfle i gwrdd â rhai o raddedigion CBCDC sydd erbyn hyn yn gweithio dan hyfforddiant gyda Screen Alliance Wales, cynllun addysg a hyfforddiant Bad Wolf. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i gyfarfod â Prhif Swyddog gweithredu Bad Wolf ac Aelod Bwrdd CBCDC Natasha Hale a hefyd Rachel Jones o Celf a Busnes Cymru.

Nodiadau i olygyddion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru, yn gweithredu o fewn ei grŵp cymheiriaid rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol. Mae’n hyfforddi artistiaid ifanc a ddaw o tua 30 o wledydd i ddarparu llif cyson o dalent newydd i’r diwydiannau cerddoriaeth a theatr a phroffesiynau cysylltiedig.I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â press@rwcmd.ac.uk neu ewch i 

Bad Wolf Ltd

Lansiwyd Bad Wolf yn 2015 gan y cynhyrchwyr gwobrwyedig Jane Tranter a Julie Gardner. Sefydlwyd Bad Wolf America, sydd wedi’i leoli yn Los Angeles ac a gaiff ei redeg gan Gardner, yn ffurfiol fel chwaer gwmni yn 2019. Mae cynyrchiadau Bad Wolf yn cynnwys THE NIGHT OF (HBO), HIS DARK MATERIALS (HBO/BBC) ac INDUSTRY (HBO), A DISCOVERY OF WITCHES (Sky/AMC), ac I HATE SUZIE (Sky Atlantic/HBO Max).

Celf a Busnes Cymru

Rôl Celf a Busnes Cymru yw hyrwyddo, galluogi a datblygu partneriaethau rhwng busnes a’r celfyddydau sydd o les i’r ddau faes.Mae’r tîm yn gweithio ar draws Cymru gydag ystod o weithwyr celfyddydau proffesiynol, o ymarferwyr unigol i sefydliadau blaengar, a’r sector preifat o fusnesau meicro i gorfforaethau rhyngwladol.Mae gwaith Celf a Busnes Cymru wedi bod yn werthfawr yn yr hinsawdd economaidd presennol yng Nghymru. Gellir teimlo’r effaith y mae’n ei gael ar blant, pobl yn y gweithle, cymunedau mawr a bach.

Negeseuon newyddion eraill