Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Ysgoloriaeth Canmlwyddiant Syr Geraint Evans

CBCDC yn cyhoeddi Ysgoloriaeth Canmlwyddiant Syr Geraint Evans newydd i ysbrydoli cantorion y dyfodol.

Rhannu neges

Categorïau

Opera

Dyddiad cyhoeddi

Published on 30/09/2022

Am yr ysgoloriaeth


Fel rhan o ffocws parhaus Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gefnogi myfyrwyr sydd mewn angen ariannol, mae wedi cyhoeddi ysgoloriaeth lawn newydd sylweddol i nodi canmlwyddiant geni’r diweddar Syr Geraint Evans, canwr Opera Cymreig o fri rhyngwladol. 


Roedd Syr Geraint yn fawr ei barch drwy’r byd operatig ac yn Llywydd ar y Coleg pan fu farw yn 1992.

Er mwyn ysbrydoli cantorion y dyfodol drwy ei esiampl, bydd cronfa gwerth £150,000 yn darparu’r ysgoloriaeth newydd hon i un myfyriwr y flwyddyn yn Ysgol Opera David Seligman y Coleg am y deng mlynedd nesaf yn enw Syr Geraint. Mae’r Gronfa wedi cael cymorth sylweddol gan Sefydliad Mosawi ac Ymddiriedolaeth Linbury.

Cyhoeddwyd yr ysgoloriaeth, sy’n ffafrio baritonau ac ymgeiswyr o Gymru, yn y digwyddiad coffa arbennig Not A Bad Voice a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 29 Medi.

'Mae’n fraint fawr i mi fod y cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth Syr Geraint Evans. Mae’r gefnogaeth hon yn bwysig iawn gan ei bod yn rhoi’r cyfle i mi fireinio fy sgiliau a derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnaf fel canwr opera ifanc.'
Edward KimYsgolor cyntaf Canmlwyddiant Syr Geraint Evans

Gall aelodau’r cyhoedd gyfrannu at Gronfa Ysgoloriaeth Syr Geraint Evans yma.

Roedd Not A Bad Voice, dan arwieniad Nicola Heywood-Thomas, yn dathlu bywyd Syr Geraint ar ffurf ffilm, canu a hanesion gan y rheini a oedd yn ei adnabod a’r rhai hynny y mae’n parhau i’w hysbrydoli, gan gynnwys meibion Syr Geraint Huw ac Alun, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans, Pennaeth Astudiaethau Lleisiol CBCDC, Mary King. y Bariton o’r Alban Donald Maxwell a myfyrwyr y Coleg.

Nod Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, yw sicrhau bod Cymru’n parhau i gynhyrchu rhai o ddoniau artistig operatig mwyaf blaenllaw’r byd, gan alluogi artistiaid newydd i hyfforddi ochr yn ochr â rhai o ffigurau blaenllaw’r byd opera heddiw.

Mae Cylch Llywyddion yr Ysgol yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Rebecca Evans, Syr Brian McMaster, David Pountney ac Athro Cadair Rhyngwladol mewn Arwain CBCDC Carlo Rizzi.

'Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn ein helpu i ddod yn fath gwahanol o gonservatoire, un sy’n fwy croesawgar, perthnasol, amrywiol a hygyrch.

Bydd dyfarniadau fel Ysgoloriaeth Syr Geraint Evans yn ein helpu i feithrin talent artistig, annog amrywiaeth a rhoi cyfleoedd i’r rheini sy’n eithriadol ddawnus, beth bynnag fo’u hamgylchiadau ariannol.

Rydym mor ddiolchgar i deulu Syr Geraint am ganiatáu i ni barhau â’r gwaith pwysig hwn yn ei enw.'
Athro Helena GauntPrifathro CBCDC

Nodiadau i Olygyddion

Syr Geraint Evans

‘Cymru yw Gwlad y Gân ac ychydig a oedd yn ymgorffori hynny yn fwy na’r Marchog hwn, a aned gan mlynedd yn ôl,’ meddai Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth.

‘O gefndir cyffredin yn y Cymoedd, mae cyfraniad enfawr Syr Geraint Evans i fyd opera ryngwladol i’w deimlo hyd heddiw ac yn arbennig felly yn CBCDC lle bu’n gwasanaethu fel Llywydd nes ei farwolaeth. Llais gwych, dyn gwych ac etifeddiaeth wych!’

Wedi’i ystyried yn un o faritonau bas mwyaf y byd, roedd ei gelfyddyd eithriadol fel actor canu yn ei wneud yn ffefryn mawr gyda chynulleidfaoedd a thai opera ledled y byd. Canodd ac actiodd mwy na 70 o rolau gwahanol mewn gyrfa a barhaodd am fwy na 40 mlynedd, gyda llawer ohonynt yn dal i gael eu hystyried yn feincnod perfformiadau heddiw. Rhoddodd ddosbarthiadau meistr canmoladwy iawn ar y teledu, gan fynd â gweithwyr proffesiynol ifanc trwy weithiau operatig allweddol gan gyfleu arlliwiau yr oedd wedi’u perffeithio trwy gydol ei yrfa hir.
Roedd yn enwog am ei barodrwydd i helpu cantorion ifanc ac actorion a chafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd ar Goleg Cerdd a Drama, swydd a ddaliodd adeg ei farwolaeth yn 1992.
O gefndir cyffredin, mae cyfraniad enfawr Syr Geraint Evans i opera ryngwladol i’w deimlo hyd heddiw.
Perfformiwr actor gwych y dywedodd Syr Laurence Olivier amdano, ‘Manteisiodd byd Opera ar golled y theatr’.
Mae llawer o ddyfyniadau yn sôn amdano fel dyn y bobl: ‘Roedd yn seren y bobl ledled y byd, dyn oedd yn cael ei garu a’i anrhydeddu mewn neuaddau, capeli, theatrau a thai opera mawr y byd.’
‘Mae’n Gymro mawr sydd wedi cerdded gyda brenhinoedd ac yn dal i gadw’r elfen gyffredin’.
Roedd Syr Geraint yn un o’r jet-setlwyr opera rhyngwladol cyntaf, yn teithio’r byd i berfformio ac wedi’i gysylltu am byth â rhannau Falstaff a Figaro, Beckmesser a Wozzeck, i enwi dim ond rhai.

Astudio Opera 360: y Diwydiant Opera

Gan ddechrau ym mis Medi 2023, gall y rheini sy’n frwd dros opera ddatblygu gwybodaeth heb ei hail, y tu ôl i’r llenni, am y diwydiant opera. Rhaglen ar-lein yw Opera 360 sy’n cynnig cyrsiau byr neu radd Meistr mewn arferion artistig a gweinyddol y busnes opera byd-eang. Mewn cydweithrediad ag Ysgol Opera David Seligman yn CBCDC, ei nod yw darparu amgylchedd hyfforddi unigryw i’r rheini sy’n dymuno dilyn gyrfa ym myd opera neu gryfhau eu gwybodaeth am y maes. Bydd gweithwyr o fri yn y maes opera yn ymuno â staff addysgu o’r radd flaenaf i gyflwyno’r rhaglen newydd arloesol hon.

Negeseuon newyddion eraill