

MMus Ymarfer Creadigol Cydweithredol
Dyfarniad:
MMus Ymarfer Creadigol Cydweithredol
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
22 Medi 2024
Hyd:
2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
829F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Lluniwch waith newydd cyffrous gyda chyd-artistiaid cydweithredol yn ein cwrs sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol mewn drama a cherddoriaeth.
Trosolwg o’r cwrs
Mae drama a cherddoriaeth yn dod at ei gilydd yn ein cwrs meistr arloesol sy’n cynnig dealltwriaeth ddofn i gerddorion a chyfansoddwyr o’r cysylltiad rhwng y ddau fath o gelfyddyd.
Dyma ein rhaglen addysgu ffurfiol gyntaf ar y cyd rhwng ein hadrannau cerddoriaeth a drama, ac mae’n canolbwyntio ar greu gwaith newydd sy’n ymateb i sefyllfaoedd a chyfleoedd wrth iddynt godi. Byddwch yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda – a thrwy – eich gwaith.
Mewn trafodaeth ag uwch aelodau o staff, byddwch yn canfod y llwybr astudio sy’n eich galluogi i gryfhau eich set sgiliau unigryw. Yna, drwy ddosbarthiadau a phrosiectau, byddwch cydweithio ar draws disgyblaethau, yn dysgu sut i weithio gyda’ch cyd-fyfyrwyr ac yn gwerthfawrogi ffurfiau celfyddydol y naill a’r llall.
Yn ogystal â chynnal lefel uwch o astudiaethau cerddorol, wrth gydweithio byddwch yn cael eich arwain gan weithwyr proffesiynol profiadol, gan ddysgu’n uniongyrchol am ddeinameg timau creadigol ac arweinyddiaeth artistig.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol un i un (a elwir yn ‘brif astudiaeth’) gyda thiwtoriaid arbenigol sy’n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Byddant yn helpu i wella eich techneg a’ch celfyddyd unigol, p’un ai ydych chi’n canolbwyntio ar berfformio neu gyfansoddi.
- Cefnogir eich prif astudiaeth â dosbarthiadau trawsddisgyblaethol a gwaith prosiect, gweithdai, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau ensemble. Y nod yw cydbwyso eich datblygiad artistig a chreadigol unigol ag amrywiaeth o weithgareddau cerddorol.
- Ar wahân i'r hyfforddiant gyda thiwtor eich prif astudiaeth, byddwch yn gweithio gydag unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
- Bydd gennych chi’r rhyddid i siapio eich modiwlau craidd i gyfateb i’ch sgiliau a’ch uchelgais o ran gyrfa. Hefyd, bydd gennych rywfaint o hyblygrwydd mewn rhai modiwlau asesu, a fydd yn eich galluogi i brofi eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n addas i chi.
- Byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, a fydd yn eich galluogi i wneud gwaith ymchwil manylach i feysydd sydd o ddiddordeb i chi.
- Byddwch yn ymwneud â gwaith grŵp gyda myfyrwyr drama, gan greu prosiectau sy’n amrywio o ran maint ac arddull. Drwy ddysgu gweithio gyda’ch gilydd, byddwch yn darganfod sgiliau a safbwyntiau artistig eich gilydd, ac yn ymateb i adborth adeiladol. Efallai y byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ymuno â chynyrchiadau drama neu gerddoriaeth.
- Mae gennym gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol blaenllaw, sy’n arwain at gyfleoedd rhwydweithio a datblygu eich rhestr cysylltiadau, sy’n hanfodol er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
- Byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â gweithgareddau perfformio neu gyfansoddi, a fydd yn eich galluogi i ymarfer y grefft o berfformio, datblygu eich sgiliau arbenigol a’ch stamina, datblygu ymwybyddiaeth o brotocolau proffesiynol a gwella eich sgiliau cyfathrebu.
- Gallwch hefyd ymuno â phrosiectau cerddoriaeth siambr ac ensembles. Mae amrywiaeth eang o ensembles ar gael, gan gynnwys ensemble cerddorfaol, band, corawl ac operatig.
- Am hanner eich ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol – sy’n gysylltiedig â phrofiadau yn y byd go iawn – a all eich gwneud yn fwy cyflogadwy ar ôl i chi raddio. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Bydd gennych hefyd fentor arbenigol wrth eich ochr, a fydd yn cynnig gwybodaeth a chymorth i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
- Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gydag artistiaid adnabyddus sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen berfformio.
- Byddwch yn cael seminarau sy’n edrych ar elfennau allweddol o ddatblygu a chynnal gyrfa lwyddiannus – fel rhwydweithio, cyfryngau cymdeithasol, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid a sefydlu eich hun fel artist annibynnol.
- Gallwch gymryd rhan mewn cyfres o seminarau perfformio trawsadrannol dan arweiniad ein staff cerddoriaeth. Mae'r seminarau hyn yn ymchwilio i feysydd fel gwytnwch perfformio, cynnal trefn ymarfer effeithiol a thechnegau dysgu ar gof.
Gwybodaeth arall am y cwrs
‘Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC
Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cerddoriaeth

Cwrdd â'n staff

Ein storïau
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy