Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Arwain Band Pres

  • Dyfarniad:

    MMus Arwain Band Pres

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd amser llawn

  • Cod y cwrs:

    810F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Dewch i ennill yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â rôl arweinydd bandiau pres yn hyderus, ynghyd â chyfleoedd i arwain drwy gydol eich astudiaethau.

Trosolwg o’r cwrs

Datblygwch eich dealltwriaeth o arwain gyda’n cwrs meistr a fydd yn rhoi’r holl wybodaeth a phrofiad angenrheidiol i chi ffynnu mewn diwydiant celfyddydol sy’n newid drwy’r amser.

Yma, byddwch yn mynd â’ch galluoedd i lefel uwch lle caiff medrusrwydd technegol a chelfyddyd gerddorol eu cyfuno, gan eich galluogi i ymgymryd ag unrhyw rôl arwain bandiau pres yn hyderus.

Mewn cymysgedd o wersi un i un a dosbarthiadau grŵp, byddwch yn hyfforddi gyda rhai o arweinwyr gorau’r diwydiant mewn dinas sydd â rhwydwaith ffyniannus o fandiau pres lleol. Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn cyd-dynnu â gweithwyr proffesiynol yn eu meysydd, o’ch tiwtoriaid a’r rhestr ryngwladol o artistiaid sy’n ymweld i’r mentor arbenigol a fydd yn eich helpu i lunio eich gwaith prosiect.

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch yn cael cyfleoedd i greu a churadu eich prosiectau perfformio eich hun. Gallwch hefyd arwain perfformiadau myfyrwyr sy’n hyrwyddo eu hunain ac ensembles, ymarferion a chynyrchiadau uniongyrchol y Coleg. Byddwch yn cael cyfle i wylio a rhyngweithio ag arweinwyr mewn lleoliadau proffesiynol hefyd.

Gyda strwythur hyblyg ein cwrs, gallwch deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch uchelgais o ran gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig detholiad o gymorth datblygu proffesiynol, yn ogystal â dosbarthiadau darllen sgoriau, hyfforddiant clywedol ac astudiaethau repertoire ehangach, i roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus a pharhaol fel arweinydd.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr offerynnol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Nid yw ein rhaglen astudio yr un fath i bawb, sy’n golygu y gallwch lunio eich modiwlau craidd i gyfateb i’ch sgiliau a’ch uchelgeisiau. Gyda rhai modiwlau, byddwch yn cael rhywfaint o hyblygrwydd o ran fformat yr asesu, er mwyn i chi allu profi eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Byddwch yn cael sesiynau dosbarthiadau meistr ychwanegol gyda’r arweinwyr gwadd, lle gallwch gymryd rhan neu arsylwi, yn dibynnu ar ffocws y sesiwn.
  • Rydym wedi ffurfio partneriaeth â sefydliadau celfyddydol enwog yma a thramor, sy’n golygu y byddwch yn gallu datblygu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant ac arsylwi ar arweinwyr mewn lleoliadau proffesiynol – fel ymarfer gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Gallwch hefyd arsylwi ar gerddorfeydd a chorau sy'n ymweld fel rhan o Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant.
  • Yn ystod eich cwrs, byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil manylach i feysydd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau, eich sgiliau a’ch nodau gyrfa.
  • Byddwch yn cael llawer o hyfforddiant un i un, ond byddwch hefyd yn cael digon o gyfle i gydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr arwain a’r rheini sy’n astudio ar ein cyrsiau drama hefyd. Nid yn unig mae’n rhoi cyfle i chi greu gwaith newydd cyffrous, ond mae hefyd yn eich galluogi i ffurfio partneriaethau creadigol a fydd yn para ymhell ar ôl i chi raddio.
  • Pryd bynnag y bydd yr amserlen yn caniatáu, byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ymarferion ein band pres i baratoi ar gyfer cyngherddau – gan arwain perfformiadau o waith ar y rhaglen yn aml.
  • Mae Caerdydd yn gartref i gymuned weithredol o fandiau pres lleol, a Band Cory yw’r band pres preswyl. Felly gallwch fanteisio ar gyfleoedd i arsylwi ar amrywiaeth o ensembles a hyd yn oed eu harwain.
  • Er mwyn eich helpu i ddod yn gerddor arloesol a chyflogadwy, mae hanner eich ail flwyddyn yn ymwneud â chreu prosiectau proffesiynol. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol.
  • Fel rhan o hyn, byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â mentoriaid arbenigol, gan eich galluogi i greu rhwydwaith cadarn o gysylltiadau.
  • Ar wahân i’ch hyfforddiant ymarferol, gallwch gymryd rhan mewn seminarau sy’n edrych ar elfennau allweddol o ddatblygu a chynnal gyrfa lwyddiannus – fel rhwydweithio, presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid a sefydlu eich hun fel artist annibynnol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Geirdaon

'Rhoddodd astudio ar y cwrs Arwain Bandiau Pres MMus y sgiliau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i mi weithio gyda bandiau pres a chwyth ar y lefel uchaf, yn ogystal â chyfleoedd i arwain yn rhai o leoliadau mwyaf mawreddog y DU. Roedd yr arweiniad a gefais gan Dr Robert Childs, un o ffigurau enwocaf y mudiad bandiau pres, yn amhrisiadwy. Rhoddodd astudio yn CBCDC sylfaen gref i mi adeiladu gyrfa fel arweinydd ym myd y bandiau pres.'
Andy WarehamGraddedig
‘Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf