Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Penwythnos Mawr Llinynnau: Roberts Balanas a Llinynnau CBCDC

Tocynnau: £11 - £22

About

‘Gwychder meistrolgar gydag elfennau o wylltineb’ yw sut mae The Arts Desk yn disgrifio’r feiolinydd ifanc hwn o Latfia. Mae gan Roberts Balanas, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel unawdydd yn Neuadd Wigmore yn 16 oed, ddilyniant enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol am ei gyfuniad di-dor o gerddoriaeth glasurol a roc, gan ddenu sylw pobl megis Elton John a Pink Floyd. Ac ni fydd y rhaglen hon yn wahanol! Mae’n dod â Steve Reich ac Arvo Pärt ynghyd, gyda’i drefniannau nodweddiadol o Billie Elish a Sufjan Stevens i ategu. Mewn trefniant arbennig gydag Ensemble Llinynnol CBCDC, bydd Balanas yn nodi 50 mlynedd ers rhyddhau Bohemian Rhapsody gan Queen (a recordiwyd yn Rockfield Studios yn Nhrefynwy).

Steve Reich Violin Phase

Pēteris Vasks Sonata Estiva

Arvo Pärt Spiegel Im Spiegel trefniant ar gyfer feiolin a electroneg

Queen Bohemian Rhapsody (trefn Roberts Balanas)

Yn cynnwys trefniannau gan Roberts Balanas o gerddoriaeth gan Queen, Billie Eilish, Elton John, Sufjan Stevens a mwy

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir