Neidio i’r prif gynnwys

Cefnogwch ni

Rydym yn gymuned hynod amrywiol a rhyngwladol o gerddorion, perfformwyr a chrewyr. Wedi’n hysgogi gan angerdd a rennir am ein disgyblaethau a’r celfyddydau, rydym yn croesawu cyfranogiad rhoddwyr, rhoddwyr grantiau a noddwyr i’r gymuned honno. Gyda’n gilydd gallwn gefnogi ein myfyrwyr, eu helpu i gyflawni eu nodau a datblygu’r Coleg.

Sut allwch chi wneud gwahaniaeth


Mae sawl ffordd o gyfranogi a gwneud gwahaniaeth. Efallai y byddwch yn dewis cyfrannu drwy rodd misol, cymryd rhan mewn ysgoloriaethau a enwir ac a noddir, gwneud rhoddion mawr, gadael cymynrodd parhaol, neu ddarparu grantiau.

Drwy gefnogi CBCDC, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig mewn meithrin doniau cenedlaethau o artistiaid y dyfodol. Bydd eich cyfraniad yn eu galluogi i ddod yn rymoedd cadarnhaol ar gyfer creadigrwydd a llesiant, gan gael effaith bwerus ar gymunedau yn lleol ac yn fyd-eang.

'I mi roedd hyfforddi yn y Coleg yn brofiad gwych. Roedd pawb yn rhan o bopeth ac mor gefnogol, o’r athrawon i’r staff gweinyddol i’r rheolwyr llwyfan.

Fy mherfformiad cyntaf oedd gala opera y Coleg gyda WNO, a oedd yn bopeth i mi. Beth bynnag rwy’n ei wneud nawr, dysgais 95% ohono yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae gwersi canu yn un peth, ond fe wnaeth y cwrs hwn fy mharatoi ar gyfer gyrfa.'
Blaise MalabaDerbynnydd ysgoloriaethau gan Alan Rogers, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Sefydliad Waterloo, Sefydliad y Fonesig Kiri Te Kanawa a’r Athro Indira Carr

Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf