Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Y ddrama yw’r peth – gwobr Shakespeare a gweithio gydag Ian McKellen

‘Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu ein cariad at ddrama gyda’r genhedlaeth nesaf o actorion proffesiynol,’ meddai Ian McKellen ar ôl treulio dau ddiwrnod yn gweithio gyda’n myfyrwyr actio ail flwyddyn.

Roedd yma i feirniadu ein gwobr Shakespeare newydd, sy’n dathlu gallu technegol yr actorion gyda barddoniaeth, a’u cysylltiad â chymeriad a sefyllfa.

Ian gydag Alice, y Pennaeth Llais, yn gweithio gyda’r myfyrwyr

Treuliodd y diwrnod cyntaf yn clyweld ac yn gweithio gyda’r myfyrwyr cyn rhoi dosbarthiadau meistr unigol y diwrnod canlynol i’r pump a gyrhaeddodd y rownd derfynol, Nathan Kirby, Alyson Handley, Mya Pennicott, Saskia West a James Mace.

Cafodd Aoise Meaney, Chris Odulele a Joshua Gordon ganmoliaeth uchel.

Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd. Bydd y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn mynd i Lundain yn gynnar y flwyddyn nesaf lle byddant yn cwrdd ag Ian eto ar gyfer y rownd derfynol.

Astudio Shakespeare gyda Ian McKellen: gwybodaeth drosglwyddadwy

Mae Ian McKellen – trysor cenedlaethol, enillydd nifer o wobrau a hyrwyddwr mudiadau cymdeithasol LGBTQ+ ledled y byd – yn ein cyfnod. Felly gallai ei groesawu i’r Coleg i weithio gyda myfyrwyr fel uchafbwynt eu hastudiaethau trochol mewn Shakespeare, fod wedi bod yn brofiad brawychus.

Fodd bynnag, tawelwyd meddyliau’r actorion cyn gynted ag y gwnaethant ei gyfarfod.

‘Roedd yn wych ei glywed yn siarad, a sut yr oedd yn dod yn fyw pan oedd yn adrodd gwahanol linellau,’ meddai Alyson. ‘Roedd yn dychwelyd at Shakespeare yn gyson, gan ddangos ei berthnasedd heddiw a’i ddynoliaeth. Roedd yn wych clywed Ian McKellen yn sôn mor angerddol am Shakespeare gyda’r gweddill ohonom.’
Alyson Handley

Gan nad yw’r myfyrwyr fel arfer yn perfformio’n gyhoeddus tan eu trydedd flwyddyn, dywedodd Ian pa mor ffodus oeddent i gael yr amser i weithio ar hanfodion perfformio Shakespeare, dod i’w adnabod o ddifrif, i chwarae â’r testun heb y pwysau o orfod cyflwyno perfformiad.

Perfformiodd pob un o’r myfyrwyr araith a soned gerbron Ian, Jonathan Munby, Cyfarwyddwr Perfformio Drama, a’r darlithydd llais, Alice White, gan berfformio gyferbyn ag actor trydedd flwyddyn er mwyn rhoi cyd-destun i’w geiriau.

Cyflwyniad i’r diwrnod, cyn i’r myfyrwyr gyfweld un ar y tro gerbron Ian McKellen

Soniodd Ian am safon uchel y perfformiadau, a chrybwyllodd ef a Jonathan eglurder iaith yr actorion, a sut y daethant â’r deunydd hanesyddol a llefaru clir a dilys ynghyd, gan gofleidio’r hyn oedd ar y dudalen a’i gyflwyno fel rhywbeth oedd wedi’i wreiddio mewn realaeth gredadwy.

‘Roedd yn drosglwyddiad gwybodaeth gwirioneddol,’

‘Bob tro y byddwch yn gweithio ar Shakespeare rydych yn datgloi rhyw adnabyddiaeth newydd ohono. Ein gwaith ni fel actorion yw darganfod beth mae Shakespeare wedi ei roi i ni. Fel y dywedodd Ian wrthym, mae popeth sydd angen i chi ei wybod ar y dudalen. A dyna lle mae’r gwaith yn dechrau.’
Nathan Kirby

Cytunodd Mya: ‘Roedd yn cŵl iawn i fod wedi gweithio ar y prosiect hwn ein hunain – rydym fel arfer yn gweithio ar bethau gyda’n tiwtoriaid – ac wedyn roedd cael ei adborth yn uniongyrchol ac yn bersonol i ni, yn anhygoel.’

Gweithio actor ag actor: mae’r cyfan wedi’i glymu i’r testun

'Rydym wedi arfer gweithio â chyfarwyddwyr, ac wrth gwrs roedd Ian yn edrych ar bethau o safbwynt actor,’ meddai Saskia. ‘Mae’n ei ddarllen, mae’n chwarae o gwmpas gydag ef, mae’n cysylltu ag ef yn greadigol – a chaiff ei ryddhau drwy’r broses. Fe wnaeth ei gariad at eiriau, gan roi gwahanol senarios i ni, agor fy meddwl a rhoi rhyddid i mi chwarae, sydd mor bwysig gyda Shakespeare.’

'Roedd yn wych gweithio actor ag actor, gan ei adeiladu fesul llinell, yn amyneddgar ac yn drefnus. Rhoddodd fewnwelediad i mi o stori fy nghymeriad, a’i archwilio gyda ni,’ meddai Nathan.

Cytunodd James: ‘Mae’n gofyn i chi seilio popeth a ddywedwch mewn realaeth ddychmygol, yn eich anadl, yn eich meddyliau ac mewn synnwyr clir o gymeriad. Mae’r cyfan wedi’i glymu i’r testun – ac yna mae’r hud yn digwydd.’

‘Rhoddodd gyngor cadarn iawn i ni,’ meddai Alyson. ‘Yr hyn a’m trawodd yn fawr oedd i fod barod am lwc. 

Peidio â cheisio rheoli gormod – bod yn ddewr a chael hwyl. Gadael fynd. Roedd yr is-destun yn bwysig iawn iddo gan fod cymaint yn digwydd yno. Mae’n cadarnhau beth yw bod yn ddynol, er ei fod yn yr iaith arall hon. Ein gwaith ni yw cyfleu hynny gydag eglurder a gwirionedd.’

Y ddrama yw’r peth…

Felly beth gafodd ein myfyrwyr drwy weithio gydag un o’r prif actorion Shakespearaidd?

Cymaint o bethau, ond dywedodd Nathan, ‘roedd yn wers wirioneddol o ran trysori eich rôl, waeth pa mor fach ydyw. Roedd yn rhaid i ni greu cymeriad o amgylch y soned a gwnaeth i ni sylweddol os mai dim ond y nifer hynny o linellau sydd gennych mewn ffilm neu ddrama, mae gennych y cymeriad cyflawn hwnnw o hyd: gwerth soned o fywyd.’

I Saskia, un o’r heriau yw defnyddio’r un lefel o ddadansoddiad ar gyfer unrhyw gymeriad arall y mae hi’n ei berfformio, gan ddefnyddio’r un mewnwelediadau i greu pobl gyflawn ar draws ei gwaith.

I Mya, y ffaith bod Ian yn dal i fwynhau’n fawr yr hyn mae’n ei wneud gwaith bob dydd:

‘Roedd ei glywed yn siarad am y diwydiant a phethau felly mor ddiddorol. Soniodd yn ddiffwdan am bopeth – rydym mor gyfarwydd clywed actorion yn siarad am gyfaredd y diwydiant a’r ffordd o fyw. Gyrfa ydyw iddo ef, ac mae’n ei wneud oherwydd ei fod wrth ei fodd yn actio.

Yn union fel rydyn ni’n ei wneud. Soniodd am sut mae’n gallu llwyddo i ddal ati i weithio mewn cynhyrchiad pan fyddwch ar y llwyfan noson ar ôl noson – bod yn y foment ac addasu bob nos i gadw’r cyfan yn ffres.’
Mya Pennicott

Cytunodd James: ‘Byddaf yn mynd â’r gwaith hwn gyda mi i weddill ein hyfforddiant. Mae wedi rhoi i ni werthfawrogiad cliriach ohonom ein hunain, a thrwy weithio gyda Syr Ian, mae yna ymwybyddiaeth wirioneddol o gymuned o actorion, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn cyfoethogi’r gymuned actio.’

Rydym yn edrych ymlaen at y rownd derfynol yn Llundain. Cewch fanylion yma!

Storïau eraill