Newyddion
Syr Bryn Terfel yn cydweithio â CBCDC i gefnogi artistiaid ifanc y dyfodol a chreu gwobr y gân newydd
Cronfa Syr Bryn Terfel
Ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror, ychydig cyn i Gymru a Lloegr wynebu ei gilydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, cyhoeddodd Syr Bryn Terfel CBE, un o gantorion gorau’r byd, fenter newydd gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, conservatoire cenedlaethol Cymru, y mae ei gartref ond dafliad carreg o gartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality.
Gan eu bod yn rhannu’r penderfyniad i roi mwy o sylw i bwysigrwydd y celfyddydau yn ein cymdeithas a hyrwyddo cenedlaethau o grewyr a pherfformwyr yn y dyfodol, mae CBCDC a’i Is-lywydd Syr Bryn wedi lansio Cronfa Syr Bryn Terfel i greu ffynhonnell newydd sylweddol o gymorth ar gyfer hyfforddiant artistiaid ifanc dawnus yn y Coleg.
Trawsnewidiwyd bywyd Bryn drwy ganu a’r cyfleoedd arbennig a gafodd pan oedd yn ifanc. Bydd Cronfa Syr Bryn Terfel yn waddol newydd, wedi’i ddatblygu gyda CBCDC, i ddarparu cyfleoedd tebyg gan ganolbwyntio ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr na fyddent fel arall yn gallu elwa gan yr hyfforddiant uwch a ddarperir yn y Coleg oherwydd rhwystrau ariannol.
Bydd hefyd yn ariannu prosiectau sy’n dathlu treftadaeth gerddorol Bryn ac yn adlewyrchu ei angerdd dros y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, gan ddechrau yn 2024 gyda gwobr y gân newydd ryngwladol yn cael ei chynnal bob dwy flynedd. Gan ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog mewn diwylliannau unigol a photensial mynegiant grymus drwy wahanol ieithoedd, bydd gofyn i gystadleuwyr gynnwys o leiaf un gân yn Gymraeg ac un yn eu hiaith eu hunain yn eu rhaglenni. Bydd yn agored i gantorion o’r Coleg ond hefyd o gonservatoires eraill y DU a Cholegau rhyngwladol, a bydd yr enillydd yn derbyn gwobr gwerth £5,000.
'Ar ddechrau eu gyrfaoedd mae artistiaid ifanc yn breuddwydio am gyflawni pethau mawr, yn union fel y mae ieuenctid ym myd y campau yn ei wneud.
Ond gyda chyllid ar gyfer addysg gelfyddydol, a’r celfyddydau’n gyffredinol, dan wasgfa a phwysau cyson, mae’n dod yn fwyfwy anodd i’n cenedlaethau nesaf – yn enwedig y rheini nad ydynt yn dechrau gyda mantais ariannol – i ddatblygu fel roeddwn i’n gallu ei wneud.'Sir Bryn Terfel CBE
Mae bellach yn bwysig iawn i mi gefnogi a chreu gwaddol parhaol yma yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dyma Cronfa, ac mae fy ngwraig Hannah a minnau yn gweithio’n agos gyda’r timau arweinyddiaeth a datblygu yn y Coleg i ddarganfod ac ysbrydoli’r dyngarwyr a’r rhoddwyr cyntaf a fydd yn ymuno â ni ar y daith gyffrous hon i adeiladu cronfa newydd a pharhaol ac i greu’r cyfleoedd a’r cymorth y mae dirfawr eu hangen.’
Mae hon yn rhan o stori ysgoloriaeth fwy ar gyfer CBCDC, gan roi cyfleoedd i ddyfnhau cynrychiolaeth a chynhwysiant yn y diwydiannau creadigol. Er enghraifft, yn 2021 cyhoeddodd CBCDC raglen fwrsariaeth flaenllaw yn y sector, gan ddyfarnu bwrsariaethau o hyd at £1200 i’w holl fyfyrwyr gradd newydd yn y DU sydd ag incwm aelwyd o lai na £30k y flwyddyn, gan helpu ymhellach ei fyfyrwyr sydd mewn angen ariannol.
‘Rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch bod Bryn yn cysylltu ei hun mor agos â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a phopeth yr ydym yn ceisio’i gyflawni yma. Gyda’n gilydd byddwn yn gweithio i adeiladu Cronfa Syr Bryn Terfel yn waddol newydd grymus – un a fydd yn ein helpu i ddod ag amrywiaeth ehangach o artistiaid ifanc dawnus, gan gynnwys mwy o fyfyrwyr o Gymru, i ddilyn ein hyfforddiant uwch ac yna’n cynnig cyfleoedd rhyfeddol iddynt tra eu bod yn hyfforddi gyda ni.
'Yn sgil pandemig Covid-19, ac mewn cyfnod o wasgfa ariannol enfawr, nid yw bywyd yn y celfyddydau yn ddewis hawdd i’w wneud, felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod cenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc yn teimlo y gallant ymuno â ni i dorri tir newydd, creu gwaith rhagorol a bwydo i mewn i’r diwydiant i wneud newid cadarnhaol.
Bydd ein partneriaeth gyda Bryn, Cronfa Syr Bryn Terfel a’r bobl arbennig hynny sy’n ei chefnogi, yn ein helpu i wneud hyn.'Helena Gaunt a Tim Rhys-EvansPrifathro a Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, CBCDC
Lansiwyd Cronfa Syr Bryn Terfel yn nigwyddiad codi arian Canu’r Dydd, a gynhaliwyd gan Bryn gyda gwesteion arbennig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn gêm Cymru a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd yr adloniant amser cinio yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf eu cyrsiau gradd o bob adran ym maes cerddoriaeth yn perfformio ac yn canu gyda Bryn fel rhan o fodiwl Cerddor Integredig CBCDC, sy’n dathlu’r ymgorfforiad cerddoriaeth. Roedd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth gan y cerddor, cyfansoddwr a’r trefnydd cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, Patrick Rimes, a cherdd a gomisiynwyd yn arbennig gan y prifardd Mererid Hopwood. Rhoddodd un o grwpiau jazz CBCDC swing i glasur Tom Jones a pherfformiodd pedwarawd o fyfyrwyr MA Theatr Gerddorol The Impossible Dream. Daeth y digwyddiad i ben gyda chadwyn o alawon, emynau ac ariâu Cymreig, wedi’u trefnu ar gyfer unawd bariton a chorws. Roedd taflenni caneuon ar gael fel y gallai’r gwesteion gyd-ganu, dan arweiniad Syr Bryn ei hun.
Nodiadau i Olygyddion
Modiwl Cerddoriaeth Gymreig newydd: Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, mae’r Coleg yn fwyfwy ymwybodol o’r angen iddo gysylltu ag ystod lawn o dreftadaeth gerddorol Cymru. Yn y modiwl Cerddoriaeth Gymreig newydd bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda cherddorion traddodiadol a chyfoes o Gymru mewn ffyrdd newydd a diddorol.
Syr Bryn Terfel, Cymrawd ac Is-lywydd CBCDC, ac un o Gylch Llywyddion Ysgol Opera David Seligman
Mae bas-bariton o Gymro, Syr Bryn Terfel, wedi sefydlu gyrfa ryfeddol, ac wedi perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau cyngerdd a thai opera mwyaf y byd, gan gynnwys y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden; Metropolitan Opera, Efrog Newydd; Opéra National de Paris; Teatro Alla Scala ac Opera Zürich. Ymhlith y rolau y mae’n fwyaf adnabyddus amdanynt y mae Falstaff, Dulcamara, Wotan a Holländer. Mae ychwanegiadau diweddar at ei repertoire yn cynnwys Reb Tevye, Boris Godunov, Sweeney Todd a Don Pasquale.
Mae’n enillydd gwobrau Grammy, Brit Clasurol a Gramophone, ac fe’i gwnaed yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am ei wasanaeth i fyd Opera yn 2003, dyfarnwyd Medal y Frenhines am Gerddoriaeth iddo yn 2006 a chafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i gerddoriaeth yn 2017. Ef oedd derbynnydd olaf Gwobr Shakespeare gan Sefydliad Alfred Toepfer ac yn 2015 dyfarnwyd Rhyddfraint Dinas Llundain iddo.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae’n fan i bawb ac mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych.
Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a’r rhai dan 18 oed yn yr adolygiad rhyngwladol Gwella Ansawdd Cerddoriaeth diweddar gan Musique. Roedd yr adolygwyr wedi’u plesio’n arbennig gan agwedd y Coleg at brofiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol, ac uchelgais cyffredinol, gan ddweud bod CBCDC yn enghraifft wych o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg