Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Bwrsariaeth Tony Warren ITV yn cael ei dyfarnu i’r myfyriwr actio newydd Johnathan Georgiou

Myfyriwr actio newydd CBCDC, Johnathan Georgiou, yw enillydd Bwrsariaeth Tony Warren fawreddog ITV.

Crëwyd y fwrsariaeth gan ITV Studios i anrhydeddu’r diweddar Tony Warren MBE a chydnabod ei gyfraniad eithriadol i fyd teledu ac ysgrifennu creadigol ym Mhrydain. Mae’n rhoi cymorth ariannol sylweddol i gefnogi myfyriwr actio newydd o Ogledd Orllewin Lloegr drwy ei hyfforddiant ac sy’n mynychu un o sefydliadau partner ITV, sy’n cynnwys CBCDC.

Dewiswyd Johnathan drwy glyweliad gyda phanel o arbenigwyr y diwydiant, gan gynnwys cyfarwyddwr castio Coronation Street, Gennie Radcliffe.

Enillydd gwobr Bwrsariaeth ITV, Johnathan Georgiou, ar lwyfan Theatr Richard Burton

Bydd Johnathan, actor ifanc sydd wedi creu llawer o gyffro yn ei ddinas enedigol Lerpwl, yn ymuno â’r Coleg y mis Medi hwn. Er gwaetha’r pandemig, sefydlodd ef a thri o’i gyfoedion Theatr Tip Tray ac maent wedi creu a pherfformio tair sioe wreiddiol ers ei sefydlu flwyddyn yn ôl.

‘Rydw i wrth fy modd,’ meddai Johnathan. ‘Alla’i ddim esbonio, roedd gweld yr e-bost yn fuan ar ôl dod oddi ar y llwyfan yn ôl adref yn Lerpwl yn foment mor swreal. Mae’n anrhydedd llwyr bod cymaint o gymorth ariannol wedi’i ymddiried ynof i a’m crefft. Mae wedi codi cymaint o bwysau oddi ar fy ysgwyddau.'

Ni fydd yr hyn y mae bwrsariaeth Tony Warren yn ogystal â CBCDC wedi’i wneud i mi yn mynd yn angof, a bob dydd rwy’n mynd i ymdrechu i fanteisio i’r eithaf ar fy hyfforddiant, gan wthio fy hun i fod y gweithiwr proffesiynol rwy’n dyheu i fod. Mae pryderon ariannol wedi diflannu ac ni allaf ddiolch digon i bawb am hynny.
Jonathan Georgiou

'Mae’n gyflawniad rhyfeddol ac yn ffordd wych i Johnathan ddechrau ei hyfforddiant gyda ni yn CBCDC.’ ychwanegodd Cyfarwyddwr Perfformio Drama CBCDC, Jonathan Munby. ‘Mae ei lwyddiant yn tanlinellu safon anhygoel y myfyrwyr sydd gennym yn y Coleg. 

Allwn ni ddim aros i gael Johnathan gyda ni ac rydym yn llawn cyffro i weld i ble y bydd ei daith yn mynd ag ef.'

'Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb yn ITV am eu cefnogaeth. Mae’n hynod bwysig bod unigolion a mentrau fel hyn yn parhau i gefnogi myfyrwyr sydd mewn angen ariannol.

Mae’n hanfodol i’r proffesiwn ein bod yn parhau i hyfforddi artistiaid o bob cefndir ac agor y posibilrwydd o fywyd yn y celfyddydau mewn ffordd mor gynhwysol â phosibl.’
Jonathan Munby

Llongyfarchiadau, Johnathan, a chroeso i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru!

Storïau eraill