Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Diwrnodau agored

Ymunwch â ni am ddiwrnod agored yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cewch ddysgu am y Coleg, archwilio ein campws, cyfarfod â'n staff a’n myfyrwyr, a gweld sut brofiad yw astudio a byw yn ninas fywiog Caerdydd.

Archwilio cymuned o gerddoriaeth a drama


Mae ein diwrnodau agored wedi’u cynllunio i roi cyfle perffaith i chi brofi ein Coleg a mwynhau awyrgylch ein hadeilad, sy’n conservatoire blaenllaw ar gyfer cerddoriaeth a drama a hefyd yn ganolfan gelfyddydau fywiog sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau'r flwyddyn i’r cyhoedd.

Dewch i archwilio ein campws, cwrdd â’n staff a’n myfyrwyr cyfeillgar, a gweld sut brofiad yw astudio a byw yn ninas fywiog Caerdydd.

Darganfod y cyfleoedd sy’n aros amdanoch

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n diwrnod agored a rhoi syniad i chi sut brofiad yw bod yn rhan o gymuned Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae’r rhan fwyaf o’n diwrnodau agored yn ddiwrnodau a gynhelir wyneb yn wyneb, ond rydym yn cynnig digwyddiadau rhithwir ar gyfer rhai cyrsiau o bryd i’w gilydd.

Dyddiau agored yn y dyfodol

Pam dod i ddiwrnod agored?

Hoffem eich helpu i wneud penderfyniad deallus ynglŷn â ble i astudio. Yn ein diwrnodau agored, byddwch yn gallu:

  • Mynd ar daith o amgylch ein campws hardd, gan gynnwys mannau perfformio o’r radd flaenaf a neuaddau preswyl modern.
  • Sgwrsio â’n penaethiaid adrannau ac arweinwyr cyrsiau, a all roi gwybodaeth werthfawr i chi am ein cyrsiau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
  • Cwrdd â’r myfyrwyr presennol sy’n astudio’r un cwrs â chi, a dysgu mwy am eu hamser yn y Coleg.
  • Darganfod mwy am ein ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol sydd ar gael tuag at eich astudiaethau.
  • Dysgu mwy ynglŷn â sut y gall ein gwasanaethau cefnogi lles mewnol eich cefnogi tra byddwch yn astudio gyda ni.
  • Cael gwell dealltwriaeth o’n proses glyweliadau a gwneud cais, er mwyn i chi allu paratoi’n iawn a bod yn hyderus wrth wneud cais.
  • Cymryd ychydig o amser i archwilio dinas fywiog Caerdydd, sy’n cynnig cyfuniad unigryw o hanes, diwylliant, ac adloniant, ac mae wedi cael ei henwi fel un o ddinasoedd mwyaf cost-effeithiol y DU i fyfyrwyr.

Ein campws

Darganfod mwy am y Coleg

Rhesymau i astudio gyda ni

  • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
  • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
  • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd.
  • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
  • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
  • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
  • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
  • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
  • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Yr hyn rwy'n ei garu am Gaerdydd a'r Coleg yw ei fod yn lle cynhwysol iawn i astudio, ac mae hynny wedi fy helpu i deimlo'n gyfforddus i fod yn agored am fy hunaniaeth. Rydw i mor falch o fod yn rhan o goleg a dinas lle rwy’n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei chofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn fi fy hun go iawn, a lle mae fy noniau a fy nhalentau yn cael eu cydnabod a’u dathlu.'
Mica SmithMA Opera
'Yr hyn a ddylanwadodd ar fy mhenderfyniad i ddod i’r Coleg oedd diwrnod fy nghlyweliad! Rwy’n cofio gadael yr adeilad a theimlo mor hapus a llawn cyffro wrth feddwl y gallwn gael y cyfle i fynd yno. Does unman yn debyg iddo.'
Chloe DickensBMus

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf