Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Ymarfer Creadigol Cydweithredol

  • Dyfarniad:

    MMus Ymarfer Creadigol Cydweithredol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    829F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Lluniwch waith newydd cyffrous gyda chyd-artistiaid cydweithredol yn ein cwrs sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol mewn drama a cherddoriaeth.

Trosolwg o’r cwrs

Mae drama a cherddoriaeth yn dod at ei gilydd yn ein cwrs meistr arloesol sy’n cynnig dealltwriaeth ddofn i gerddorion a chyfansoddwyr o’r cysylltiad rhwng y ddau fath o gelfyddyd.

Dyma ein rhaglen addysgu ffurfiol gyntaf ar y cyd rhwng ein hadrannau cerddoriaeth a drama, ac mae’n canolbwyntio ar greu gwaith newydd sy’n ymateb i sefyllfaoedd a chyfleoedd wrth iddynt godi. Byddwch yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda – a thrwy – eich gwaith.

Mewn trafodaeth ag uwch aelodau o staff, byddwch yn canfod y llwybr astudio sy’n eich galluogi i gryfhau eich set sgiliau unigryw. Yna, drwy ddosbarthiadau a phrosiectau, byddwch cydweithio ar draws disgyblaethau, yn dysgu sut i weithio gyda’ch cyd-fyfyrwyr ac yn gwerthfawrogi ffurfiau celfyddydol y naill a’r llall.

Yn ogystal â chynnal lefel uwch o astudiaethau cerddorol, wrth gydweithio byddwch yn cael eich arwain gan weithwyr proffesiynol profiadol, gan ddysgu’n uniongyrchol am ddeinameg timau creadigol ac arweinyddiaeth artistig.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol un i un (a elwir yn ‘brif astudiaeth’) gyda thiwtoriaid arbenigol sy’n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Byddant yn helpu i wella eich techneg a’ch celfyddyd unigol, p’un ai ydych chi’n canolbwyntio ar berfformio neu gyfansoddi.
  • Cefnogir eich prif astudiaeth â dosbarthiadau trawsddisgyblaethol a gwaith prosiect, gweithdai, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau ensemble. Y nod yw cydbwyso eich datblygiad artistig a chreadigol unigol ag amrywiaeth o weithgareddau cerddorol.
  • Ar wahân i'r hyfforddiant gyda thiwtor eich prif astudiaeth, byddwch yn gweithio gydag unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Bydd gennych chi’r rhyddid i siapio eich modiwlau craidd i gyfateb i’ch sgiliau a’ch uchelgais o ran gyrfa. Hefyd, bydd gennych rywfaint o hyblygrwydd mewn rhai modiwlau asesu, a fydd yn eich galluogi i brofi eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, a fydd yn eich galluogi i wneud gwaith ymchwil manylach i feysydd sydd o ddiddordeb i chi.
  • Byddwch yn ymwneud â gwaith grŵp gyda myfyrwyr drama, gan greu prosiectau sy’n amrywio o ran maint ac arddull. Drwy ddysgu gweithio gyda’ch gilydd, byddwch yn darganfod sgiliau a safbwyntiau artistig eich gilydd, ac yn ymateb i adborth adeiladol. Efallai y byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ymuno â chynyrchiadau drama neu gerddoriaeth.
  • Mae gennym gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol blaenllaw, sy’n arwain at gyfleoedd rhwydweithio a datblygu eich rhestr cysylltiadau, sy’n hanfodol er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
  • Byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â gweithgareddau perfformio neu gyfansoddi, a fydd yn eich galluogi i ymarfer y grefft o berfformio, datblygu eich sgiliau arbenigol a’ch stamina, datblygu ymwybyddiaeth o brotocolau proffesiynol a gwella eich sgiliau cyfathrebu.
  • Gallwch hefyd ymuno â phrosiectau cerddoriaeth siambr ac ensembles. Mae amrywiaeth eang o ensembles ar gael, gan gynnwys ensemble cerddorfaol, band, corawl ac operatig.
  • Am hanner eich ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol – sy’n gysylltiedig â phrofiadau yn y byd go iawn – a all eich gwneud yn fwy cyflogadwy ar ôl i chi raddio. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Bydd gennych hefyd fentor arbenigol wrth eich ochr, a fydd yn cynnig gwybodaeth a chymorth i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gydag artistiaid adnabyddus sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen berfformio.
  • Byddwch yn cael seminarau sy’n edrych ar elfennau allweddol o ddatblygu a chynnal gyrfa lwyddiannus – fel rhwydweithio, cyfryngau cymdeithasol, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid a sefydlu eich hun fel artist annibynnol.
  • Gallwch gymryd rhan mewn cyfres o seminarau perfformio trawsadrannol dan arweiniad ein staff cerddoriaeth. Mae'r seminarau hyn yn ymchwilio i feysydd fel gwytnwch perfformio, cynnal trefn ymarfer effeithiol a thechnegau dysgu ar gof.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf