Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Perfformio Cerddoriaeth Siambr

  • Dyfarniad:

    MMus Perfformio Cerddoriaeth Siambr

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    828F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Gyda’n cwrs cydweithredol sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, byddwch yn datblygu’r holl sgiliau ymarferol, creadigol ac artistig sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa fel cerddor siambr.

Trosolwg o’r cwrs

Ymgollwch yn ein hamgylchedd creadigol ac ysbrydoledig, lle byddwch yn dysgu sut i berfformio cerddoriaeth siambr yn hyderus, gyda steil ac awdurdod.

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch yn ffurfio ensembles sy’n eich galluogi i astudio’r repertoire sy’n cefnogi eich datblygiad cerddorol a thechnegol orau. Nid yw’n ddull sydd yr un fath i bawb – byddwch yn archwilio amrywiaeth o arddulliau, genres a chyfuniadau i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa.

Mae hyfforddiant un i un (sef ‘prif astudiaeth’) yn rhan ganolog o’ch datblygiad fel perfformiwr. Byddwch yn hyfforddi gydag arbenigwyr enwog ym maes cerddoriaeth siambr, sy’n dal i fod yn weithgar yn y diwydiant, a byddant yn eich arwain at fod y cerddor gorau y gallwch fod.

Ar wahân i’ch hyfforddiant ymarferol, byddwch hefyd yn canolbwyntio ar eich cyflogadwyedd tra byddwch chi yma. Byddwch yn datblygu eich prosiectau proffesiynol eich hun, gyda chefnogaeth mentor arbenigol, a bydd y rhain yn defnyddio eich doniau a’ch sgiliau mewn cyd-destun go iawn.

Mae ein partneriaethau agos â sefydliadau celfyddydol enwog yn golygu y byddwch yn dechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant – sy’n hanfodol i osod y sylfeini ar gyfer gyrfa gerddorol lwyddiannus.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich hyfforddiant arbenigol yn amrywiol ac yn gynhwysfawr – bydd dosbarthiadau eich prif astudiaeth a’ch hyfforddiant cerddoriaeth siambr yn cael eu hategu gan ddosbarthiadau ymarferol a gweithgareddau perfformio, lle byddwch yn cael adborth adeiladol yn rheolaidd gan eich staff addysgu a’ch cyfoedion.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Bydd eich tiwtoriaid hefyd yn eich arwain i wneud dewisiadau repertoire a fydd yn datblygu eich sgiliau artistig, technegol ac ensemble, gan ymdrin ag amrywiaeth mor eang â phosibl o repertoire.
  • Bydd gennych gyfres benodol o ddosbarthiadau perfformio cerddoriaeth siambr, a fydd yn rhoi cyfle i chi weithio’n fanwl ar elfennau gorau dawn gerddorol gydweithredol. Byddant yn ymdrin â meysydd fel technegau ymarfer, sain ensemble, sgiliau gwrando a chyfathrebu ar lafar a dieiriau mewn grŵp. 
  • Byddwch hefyd yn o gyfleoedd i gydweithio â myfyrwyr ar eich cwrs a’r rheini o’n hadrannau drama. Mae’r dull gweithredu traws-ddisgyblaethol hwn yn helpu i ehangu eich gorwelion artistig a datblygu partneriaethau sy’n para ymhell ar ôl i chi raddio.
  • Bydd gennych ddosbarthiadau meistr gydag artistiaid proffesiynol sy’n ymweld, a fydd yn cynnig arweiniad hollbwysig i fynd â’ch sgiliau creadigol a pherfformio i’r lefel uchaf. 
  • Mae ein partneriaethau agos â sefydliadau celfyddydol blaenllaw yn golygu y bydd gennych gyfleoedd i rwydweithio tra byddwch chi yma.
  • Byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, gan eich helpu i sbarduno eich ysbryd entrepreneuraidd – sy’n sgil hanfodol i gerddorion sy’n gweithio heddiw.
  • Mae ein cyrsiau’n cynnig modiwlau craidd sy’n cynnwys rhywfaint o hyblygrwydd yn yr asesiadau lle bynnag y bo modd. Gall y rhain ganolbwyntio ar y profiad dysgu rydych chi’n ei ddymuno.
  • Bydd hanner eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol, sydd â chysylltiadau â phrofiadau yn y byd go iawn, i’ch gwneud yn fwy cyflogadwy ar ôl i chi raddio. Gallwch ganolbwyntio ar feysydd fel ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol.
  • Hefyd, bydd gennych fentor arbenigol, a fydd yn helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Gallwch ymuno â’n cwrs fel aelod o grŵp siambr sefydledig, neu gallwch ddewis ffurfio ensembles gwahanol yn ôl y repertoire yr hoffech ei drafod.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf