Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BA (Anrh) Actio

  • Dyfarniad:

    BA (Anrh) Actio

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    3 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    200F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Yn y cwrs hyfforddiant ymarferol dwys hwn sy’n seiliedig ar berfformio, byddwch yn ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y maes theatr, sgrin a’r cyfryngau digidol.

Trosolwg o’r cwrs

Cewch ddilyn gyrfa broffesiynol mewn theatr, ffilm a theledu gyda’n rhaglen actio sy’n cyfuno hyfforddiant ymarferol yn seiliedig ar berfformio gyda hyfforddiant arbenigol a chwricwlwm cynhwysol sy’n dathlu lleisiau amrywiol, gwaith newydd a thestunau hanfodol y repertoire clasurol.

Gan weithio gydag ymarferwyr a hyfforddwyr o safon fyd-eang, byddwch yn meithrin ac yn ehangu eich cryfderau unigol, yn hytrach na mowldio eich hun i ddelfryd benodol.

Mae eich hyfforddiant yn dechrau drwy archwilio’r dulliau sylfaenol o ran actio trwy ddosbarthiadau ac ymarferion bob dydd, gan gynnwys ar gyfer gwaith ar y sgrin. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad trylwyr i waith llais a thestun, sgiliau symud a chanu.

Wrth i chi ddatblygu ymhellach yn eich hyfforddiant, byddwch yn ymestyn eich gallu lleisiol a chorfforol i weithio mewn amrywiaeth o genres ac amgylcheddau perfformio gwahanol. Mae prosiectau sy’n seiliedig ar berfformiad yn cyflwyno byd ac iaith Shakespeare, comedi, theatr gydweithredol ac wedi’i dyfeisio, trosleisio ac actio ar y radio. Mae hyfforddiant ychwanegol mewn actio ar y sgrin yn arwain at greu detholiad o ffilmiau byr.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymuno â chwmni Theatr Richard Burton – ein cwmni theatr proffesiynol – ynghyd â’n myfyrwyr rheoli llwyfan, theatr dechnegol a dylunio. Byddwch yn cael eich castio mewn pum perfformiad cyhoeddus, ac mae un ohonynt yn ein tymor blaenllaw o ysgrifennu newydd wedi’i gomisiynu’n arbennig, sy’n cael ei berfformio yng Nghaerdydd a Llundain.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn canolbwyntio ar fyd actio proffesiynol a’r strategaethau sy’n ofynnol ar gyfer dod o hyd i waith a’i reoli. Penllanw’r gwaith hwn yw arddangosfa’r actorion yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain i gynulleidfa wadd o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys asiantau a chyfarwyddwyr castio. Gall y myfyrwyr hynny sy’n gymwys i weithio yn yr Unol Daleithiau hefyd gymryd rhan mewn arddangosfa yn yr Unol Daleithiau yn Efrog Newydd.

Tysteb

Roedd CBCDC yn ysgol ddelfrydol ar gyfer yr hyfforddiant hwnnw, ond hefyd i mi fel unigolyn. Mae wedi rhoi’r grym i mi fod yn actor cyflawn. Mae’n swydd mor amlweddog a’r hyn a wna’r Coleg mor wych yw eich trochi chi’n llwyr yn y cyfan. Mae cymaint o arbenigeddau yno, sy’n amrywio o radio i’r sgrin a phopeth yn y canol.
Callum Scott HowellsActor
'Mae’r prosiectau sy’n rhedeg drwy gydol y tair blynedd o hyfforddiant wir yn rhoi'r adnoddau, yr wybodaeth a’r meddylfryd sydd eu hangen arnoch i ymuno â’r diwydiant proffesiynol fel actor hyderus a medrus. Yr hyn sy’n gwneud y cwrs yn un mor uchel ei barch yn fy marn i yw ei gysylltiadau ag ymarferwyr blaenllaw yn y diwydiant sy’n ymweld â'r coleg, a’i staff actio craidd sydd â blynyddoedd maith o brofiad yn y Coleg a thu hwnt.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw’r lle i fod os ydych chi am gael gyrfa ym maes actio.'
Aled GomerBA Actio 3edd Flwyddyn
'Yn amlwg, rydw i ychydig yn unochrog, ond rydw i wir yn credu ei bod yn un o'r ysgolion drama gorau sydd. Maen nhw’n gadael i chi fod yn chi eich hun a darganfod beth rydych chi’n rhagori ynddo.’
Sophie Melville yn The Stage

100

100% Boddhad cyffredinol y cwrs

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2023

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich hyfforddiant yn rhoi’r sgiliau ymarferol i chi weithio’n broffesiynol yn y theatr yn ogystal â theledu, ffilm a sain, lle byddwch yn astudio ystod eang o ddulliau a thechnolegau cyfredol.
  • Byddwch yn gweithio gydag ymarferwyr enwog, yn fewnol ac sy’n ymweld, gan roi mynediad i chi at yr hyfforddwyr a’r gweithwyr proffesiynol gorau, sy’n cynnig gwybodaeth eang ac uniongyrchol am actio mewn amrywiaeth o ddiwylliannau a chyd-destunau.
  • Bydd drama deledu draddodiadol a gwaith ffilm yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â sgrin werdd, cipio symudiadau, ADR (disodli deialog awtomataidd), troslais a ffurf-fer. Bydd cyfleoedd i’ch gwaith ffilm gael llwyfan cyhoeddus hefyd – naill ai’n ddigidol neu wedi’i sgrinio’n fyw.
  • Byddwch yn manteisio ar lefel uchel iawn o sylw unigol gan eich tiwtoriaid. Fel arfer, caiff dosbarthiadau Sgiliau a Phrosiectau eu haddysgu mewn grwpiau hanner blwyddyn, gyda thiwtorialau un-i-un yn aml mewn Llais a Chanu ac ymarferion grŵp bach ar gyfer astudiaethau golygfa.
  • Mae eich carfan fach yn golygu bod eich tiwtoriaid wir yn dod i’ch adnabod chi – gan fod ganddyn nhw amser i fynd o amgylch yr ystafell ac addasu’r gwaith i bob llais, corff ac arddull dysgu unigol.
  • Drwy’r sesiynau ymarfer myfyriol wythnosol sydd wedi’u hychwanegu, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ohonoch chi’ch hun mewn perthynas â’ch crefft a’r proffesiwn rydych wedi’i ddewis, gan greu pecyn cymorth ar gyfer llesiant a gwytnwch fel actor yn y diwydiant.
  • Byddwch yn gallu rheoli eich datblygiad artistig eich hun, wrth i ni eich hyfforddi i ddyfeisio a chreu eich gwaith eich hun – a berfformir yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn fel rhan o ŵyl fewnol. Yn y flwyddyn olaf, gallwch wneud cais i fod yn rhan o un o bedwar darn y byddwn yn eich helpu i’w wireddu fel cynhyrchiad llwyfan sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r tymor NEWYDD yng Nghaerdydd a Llundain.
  • Yn eich trydedd flwyddyn, fel rhan o Gwmni Richard Burton, cewch gyfle i roi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu ym mlynyddoedd un a dau ar waith er mwyn ymarfer a pherfformio pum drama lawn.
  • Bydd un o’r cynyrchiadau hyn yn rhan o’n tymor NEWYDD lle byddwch yn gweithio gydag awdur, dramodydd a chyfarwyddwr proffesiynol ar ddrama sydd newydd gael ei chomisiynu. Gyda’r tîm proffesiynol hwnnw, byddwch yn cynnal gweithdy ac yn datblygu’r ysgrifennu yn ystod y flwyddyn cyn ymarfer a pherfformio’r ddrama yn ystod tymor yr haf. Cynhelir y cynyrchiadau hyn yng Nghaerdydd cyn trosglwyddo i leoliad adnabyddus yn Llundain.
  • Yn ogystal â’r cynyrchiadau hyn, bydd eich carfan yn perfformio arddangosfa yng Nghaerdydd, y West End yn Llundain ac Efrog Newydd (ar gyfer myfyrwyr o America). Gwahoddir cyflogwyr, cyfarwyddwyr castio ac asiantau’r diwydiant i bob perfformiad ac arddangosfa.
  • Mae ein swyddog cyswllt â’r diwydiant yn gweithio gyda’n myfyrwyr i helpu i feithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, fel asiantau a chyfarwyddwyr castio. Mae ymweliadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant fel mater o drefn yn fwy na 1,000 mewn unrhyw flwyddyn benodol.
  • Mae ein cysylltiadau rhagorol â’r diwydiant yn golygu y gallwn gynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr, gweithdai a chyfleoedd am glyweliadau gyda phrif asiantau a chyfarwyddwyr castio’r wlad. Drwy gydol eich hyfforddiant, cewch gyfle i greu rhwydwaith o gysylltiadau ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
  • Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio'n helaeth mewn theatr, ffilm, teledu a radio – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gyda nifer o fyfyrwyr yn cael eu henwebu ar gyfer gwobrau diwydiant, ac yn ennill. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr nodedig mae Anjana Vasan, Anthony Boyle, Tom Rhys Harries, Eric Kofi-Abrefa, Arthur Hughes, Anthony Hopkins, Callum Scott Howells, Thalissa Teixeira, Edward Bluemel, Ruth Jones, Sophie Melville, Eve Myles, Ayomide Adegun a Isobel Thom.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Gŵyl flynyddol ysgrifennu newydd CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf