

Sinfonia Cymru and Sidiki Dembélé: Yiriba
Trosolwg
Sad 28 Tach 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£10-£20
Tocynnau: £10-£20
Gwybodaeth
Alawon newydd o Orllewin Affrica wedi eu cyfuno â cherddoriaeth glasurol o’r Gorllewin, a cherddoriaeth werin o Gymru a’r byd.
Mae cerddorion ifanc talentog Sinfonia Cymru yn ymuno â’r drymiwr a’r aml-offerynnwr dawnus Sidiki Dembélé o Arfordir Ifori, ac aelodau o’i ensemble, Percussion d’Abobo. Byddant yn cyflwyno cyngerdd llawn cyffro gyda rhythmau cyfoethog, a’r cyfan yn cael eu cyflwyno mewn ffordd annisgwyl ac unigryw i chi.
Ystyr Yiriba yw ‘coeden gref’, ac mae’n cyfeirio at y pren a ddefnyddir i greu’r offerynnau bydd Sidiki a’i ensemble yn eu chwarae. Gan adeiladu ar gydweithrediadau blaenorol rhwng Sinfonia Cymru a Sidiki, mae hwn yn gyngerdd sy’n rhoi cyfle i adlewyrchu, mwynhau a chodi ar eich traed i sain y rhythmau bywiog.
“Intense and irresistible,”Edinburgh Music Review

