Neidio i’r prif gynnwys

Y Delyn

Gyda hyfforddiant o safon fyd-eang ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, byddwch yn meithrin yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel telynor proffesiynol.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio’r delyn yn CBCDC?

  • Byddwch yn ymuno ag adran fach glos, gan greu amgylchedd anogol a chefnogol.
  • Mae ein rhaglen amrywiol a heriol yn eich paratoi ar gyfer bywyd yn y byd proffesiynol cyfoes, gan ymdrin â phopeth o berfformio fel unawdydd i chwarae mewn ensemble siambr, o waith cerddorfaol i berfformio idiomau poblogaidd neu jazz.
  • Mae gwersi un-i-un a dosbarthiadau perfformio wythnosol yn canolbwyntio ar ddatblygu eich techneg, a byddwch yn dysgu repertoire eang o weithiau unawdol, gan gynnwys concerti nodedig a darnau siambr.
  • Mae cyfleoedd i berfformio yn cynnwys datganiadau cyhoeddus, a allai fod gyda cherddorfa symffoni, cerddorfa siambr, band chwyth neu gerddorfa opera y Coleg.
  • Mae ein hathrawon rheolaidd yn cynnwys Meinir Heulyn a Valerie Aldrich-Smith sy’n rhoi sylw i repertoire operatig a cherddorfaol ac Amanda Whiting sy’n cynnal dosbarthiadau jazz a threfnu cyson.
  • Ymhlith yr artistiaid gwadd mae’r telynor arbrofol Rhodri Davies sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes.
  • Gallwch hefyd gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gwylio datganiadau a roddir gan unawdwyr o fri rhyngwladol sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn, megis Isabelle Perrin, Alexander Boldachev, Sylvain Blassel, Anneleen Lenaerts, Florence Sitruk, Chantal Mathieu a Maria Luisa Rayan.
  • Rhoddir cyfle i fyfyrwyr sy’n cymhwyso gael clyweliad ar gyfer cynlluniau lleoliad proffesiynol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gan weithio ochr yn ochr â cherddorion cerddorfaol o’r radd flaenaf.
  • Mae gennym ystod eang o delynau y gallwch eu defnyddio ar gyfer ymarfer, perfformio ac asesiadau, gan gynnwys telynau cyngerdd, telyn lled-fawr, un delyn Erard Grecian, dwy delyn deires Gymreig a sawl Clarsach.

Oriel


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf