Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Tri chyfansoddwr yn Cyfansoddi: Cymru 2020 BBC NOW

Bydd cerddoriaeth tri o’n myfyrwyr Cyfansoddi yn cael ei berfformio yng nghyngerdd Cyfansoddi: Cymru 2020 BBC NOW yfory. Mae’r digwyddiad blynyddol yn arddangos y goreuon o Gymru a bydd y cyfansoddwyr Tayla-Leigh Payne, Jasper Dommett a Luciano Williamson, yn dychwelyd i’r gystadleuaeth a hwythau wedi’u dewis i ymddangos mewn blynyddoedd blaenorol.

A Clockwork Portrait gan Tayla-Leigh Payne

'Mae fy narn yn ymdrin â’r syniad o’ch gwahanol brosesau meddwl drwy gydol y dydd. Mae’n cynrychioli sut y mae pethau’n ymddangos yn ddirybudd o bryd i’w gilydd ac yn tarfu ar eich trefn arferol.

Yna daw’r holl feddyliau ac ymwybyddiaeth ynghyd a chreu un gwead dwys, lle mae pob meddwl yn brwydro yn erbyn ei gilydd cyn rhaeadru.'

Sut deimlad yw cael BBC NOW yn chwarae eich cyfansoddiad?

'Mae’n golygu’r byd i gyd i mi. Fe fydd yn brofiad rhyfeddol i gael cerddorfa broffesiynol yn chwarae un o’m darnau.'
Tayla-Leigh Payne

Soniwch wrthym am eich profiad gyda Cyfansoddi: Cymru 2020 hyd yma

'Yr her fwyaf i mi fu cydbwyso’r gwaith hwn gyda fy ngwaith Coleg, er enghraifft, gorfod ail-ysgrifennu rhannau er mwyn eu gwneud yn fwy ymarferol i’w chwarae.

Mae fy nhiwtoriaid personol wedi bod yn gefnogol dros ben. Collais yr awen dros yr haf ac roedd cael cefnogaeth fy nhiwtoriaid yn hollbwysig bryd hynny.'

Beth yw’r cam nesaf i chi?

'Rydw i’n gweithio yn Theatr Hijinx Canolfan Mileniwm Cymru, cwmni theatr sy’n arbenigo mewn hyfforddi actorion sydd ag anableddau dysgu.

Rydw i hefyd yn cyflwyno gweithdai yng Nghaerfyrddin bob wythnos er mwyn helpu actorion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gyfansoddi cerddoriaeth, coreograffio ac arddangos eu gwaith.'

Gallwch glywed peth o waith Tayla ar SoundCloud:

Night Music gan Jasper Dommett

'Pan oeddwn yn ysgrifennu’n gwaith hwn ymddiddorais yn Béla Bartók, cyfansoddwr o Hwngari. Yn llawer o’i gerddoriaeth, byddai’n siarad am y term ‘cerddoriaeth y nos’, neu ‘hwyrgan’.

Dyna fy man cychwyn. Roeddwn i’n meddwl, pe bawn yn ysgrifennu darn ar gyfer y nos, sut fyddai’n swnio?

Mae’r darn cyfan wedi’i seilio ar alaw a glywir gan y côr anglais, ac yna mae’r harmoni wedi’i seilio ar yr un cord. Mae’r diwedd yn rhyw fath o wrthwyneb i’r agoriad lle dechreuir y broses o dynnu nodau allan yn araf er mwyn teneuo’r alaw.'

Beth ydych chi wedi’i ddysgu gan y gystadleuaeth y tro hwn?

'Rwy’n credu nad yw pobl yn gwerthfawrogi’n llwyr faint o waith sy’n gysylltiedig â chyfansoddi ar gyfer cerddorfa. Mae angen i chi gael gwybodaeth a dealltwriaeth am sut mae’r holl offerynnau’n gweithio a sut maent yn rhyngweithio gyda’i gilydd.

Mae’n bwysig derbyn cyngor gan chwaraewyr sy’n adnabod eu hofferynnau fel eu bod yn gyfforddus yn chwarae eich cerddoriaeth.'
Jasper Dommett

Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth gan fy nhiwtor personol, Joe Davies.

Fe wnaeth Joe helpu’n fawr drwy awgrymu beth y gallwn ei newid er mwyn gwneud fy ngwaith yn lanach a chliriach, ond dywedodd hefyd wrthyf i beidio â bod mor llawdrwm ar fy hun, a rhoddodd hyn hyder i mi.'

Beth arall sydd ar waith gennych a beth sydd ar y gorwel?

'Rydw i wedi derbyn comisiwn i ysgrifennu ffanffer ar gyfer Coleg Girton yng Nghaergrawnt, coleg menywod yn unig cyntaf yn y DU.

Rydw i hefyd wedi bod yn gweithio ar ddarn am dros flwyddyn, Rothko Project, a ysbrydolwyd gan ei ddarnau yn y Tate Modern.'

Gallwch glywed peth o waith Jasper ar SoundCloud:

Kemal at Gallipoli gan Luciano Williamson

'Cerdd symffonig saith munud a hanner o hyd yw hon sy’n sôn am ysgarmes fechan yn Gallipoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gorchmynnodd cadfridog Twrci Mustafa Kemal Atatürk ymosodiad ar y milwyr Prydeinig a’r Anzacs felly mae’r darn yn cyfleu tensiwn y frwydr honno, a dyna strwythurodd y gerddoriaeth. Aeth Kemal ymlaen i fod yn sylfaenydd Twrci fodern, felly mae’n adeg arwyddocaol mewn hanes.'

Beth mae’n ei olygu i chi gael eich cyfansoddiad wedi’i chwarae gan y BBCNOW?

'Mae cael y cyfle i weithio gyda cherddorfa fawr yn wych.

Roeddwn i’n rhan o’r cynllun ddwy flynedd yn ôl gyda darn byrrach, felly y tro hwn rydw i wedi rhoi cynnig ar syniadau na fyddwn wedi gallu eu gwneud ar raddfa lai.'
Luciano Williamson

Beth yw’r cam nesaf i chi?

'Rydw i wedi cael cynnig gwneud Diploma Ôl-radd mewn Perfformio Cerddoriaeth yn CBCDC, a byddaf yn parhau i ysgrifennu cerddoriaeth er mwyn datblygu fy arddull.'

Gallwch glywed peth o waith Luciano ar SoundCloud:

Gallwch glywed darnau ein myfyrwyr yn y cyngerdd AM DDIM yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd ar ddydd Mercher 4 Mawrth am 7pm.

Storïau eraill