Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Penwythnos Superbrass: Pres CBCDC yn meddiannu CBCDC

Trosglwyddodd y Coleg yr awenau i’w adran pres am benwythnos llawn o berfformiadau, gweithdai a bratwurst!

O dan arweiniad Pennaeth Perfformio Pres CBCDC, cynhaliodd ‘supergroup’ Roger Argente Superbrass nifer o berfformiadau rhyfeddol dros y penwythnos.

Roedd y gwesteion yn cynnwys rhai o’r goreuon o fyd yr offerynnau pres. Cymerodd y trombonydd Gordon Campbell gyfrifoldeb am AmserJazzTime wythnosol nos Wener ar gyfer sesiwn pres arbennig gyda cherddorion pres dawnus y Coleg.

Roedd perfformiad Walking with Heroes dydd Gwener yn cynnwys yr unawdydd Mike Lovatt a’r arweinyddion Bob Childs a Paul Fisher yn perfformio cerddoriaeth ragorol yn amrywio o Karl Jenkins i Louis Armstrong.

Yn y gyfres gweithdai dydd Sadwrn daeth doniau pres iau a hŷn i’r Coleg ar gyfer diwrnod llawn ysbrydoliaeth gan y chwaraewyr pres gorau oll.

Cododd brif berfformiad Superbrass y to yn Neuadd Dora Stoutzker mewn cyfle prin i weld y ‘supergroup’ yn perfformio gyda phob tocyn wedi’i werthu.

Yn y sioe cafwyd rhai o ffefrynnau’r byd pres a pherfformiad unigryw lle aeth dau drombonydd o’r llwyfan i ganol y gynulleidfa, gan ychwanegu gwefr i brynhawn a oedd eisoes yn rhyfeddol!

Daeth Ensemble Tiwba CBCDC â phenwythnos bythgofiadwy i ben gydag ôl-barti ar thema Almaenaidd yn Beer, Brass and Bratwurst.

Storïau eraill