Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cryfhau Cerddoriaeth mewn Cymdeithas: Hyffordi Cerddorion y Dyfodol

Yn RWCMD rydym yn gwerthfawrogi’n fawr creu cerddoriaeth ar gyfer ein lles a’n iechyd diwylliannol.

Yr Athro Helena Gaunt yw Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’n brif siaradwr yn Strengthening Music in Society: The way forward for UK Conservatoires – cynhadledd i ddod â lleisiau a safbwyntiau allweddol ynghyd o bob rhan o’r sector cerddoriaeth glasurol i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu conservatoires y DU a’r system cerddoriaeth glasurol ar hyn o bryd.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Ysgrifennwyd yr erthygl yma ar gyfer cyhoeddiad gan Sefydliad Materion Cymreig a rhannwyd gyda’i caniatad caredig.

Artistiaid yfory – digon o gyfleoedd

Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn hynod, gyda nifer o ddigwyddiadau anrhagweladwy (rhai’n wych ac eraill yn dorcalonnus) ar adeg sydd eisoes yn gyffrous yn ein bywydau – ond mae un yn sefyll allan i mi fel digwyddiad llawn gobaith. Dros yr haf teithiodd cant o eliffantod i ganol Llundain o Fryniau Nilgiri yn Tamil Nadu.

Ffrwyth dychymyg Ruth Ganesh a Shubhra Nayar, a raddiodd o CBCDC, oedd prosiect Co-Existence a oedd yn cynnwys y creaduriaid maint llawn wedi’u cerflunio’n hyfryd, pob un wedi’i grefftio drwy arsylwi’n agos ar anifail byw ac wedi’i wneud yn ddyfeisgar o chwyn ymledol, lantana.

Mae’r eliffantod yn teithio o gwmpas y byd, yn gwahodd pobl i gwrdd â nhw, cerdded gyda nhw, teimlo’n agos atynt mewn natur a deall beth yw gwneud lle i bawb gyd-fodoli ar y blaned hon.

Yn glyfar, mae’r cerfluniau eliffantod yn talu eu ffordd, gan godi dros £3 miliwn drwy’r prosiect yn Llundain, gydag elw’n cael ei ail-fuddsoddi yng nghymunedau’r crefftwyr lleol a’u creodd ac mewn prosiectau cydfodolaeth bywyd gwyllt a bodau dynol.

Mae’n olygfa ysbrydoledig, yn goeth yn artistig, a gyda neges gymdeithasol glir. Nid oedd modd anwybyddu’r gwaith, sydd wedi’i leoli’n fawreddog y tu allan i Balas Buckingham ac yn rhai o brif barciau Llundain.

'Ar adeg pan mae celfyddydau a diwylliant ledled y byd dan bwysau aruthrol i ddiffinio ei werth, roedd hefyd yn ein hatgoffa’n wych o’r hyfrydwch llwyr y gall celf ei gynnig, a pha mor bwerus ydyw pan ei fod yn wirioneddol gysylltiedig â phobl, gwerthoedd a phwrpas..'
Helena GauntPrifathro RWCMD

Yn y flwyddyn pan fyddai wedi bod yn 100 oed, mae geiriau Raymond Williams yn parhau mor wir heddiw ag y buont erioed: Mae Diwylliant yn Gyffredin.

'Gwneir diwylliant gan bawb ac ar gyfer pawb.

Mae’r hen raniadau o ddiwylliannau uchel-ael a phoblogaidd, celf ‘uchel’ ac ‘isel’, yn hen ffasiwn iawn.'
Raymond WilliamsMae Awdur Diwylliant yn Gyffredin

Yng nghyd-destun Cymru, mae gennym gyfle ‘unwaith mewn oes’ i ail-siapio lle a diben y celfyddydau a diwylliant yn ein cymdeithasau o’u sylfaen gyda chyflwyniad cwricwlwm ysgol newydd a Chelfyddydau Mynegiannol wedi’u plethu drwyddo fel maes dysgu a phrofiad. Ynghyd â Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd yn y Rhaglen Lywodraethu sydd nawr ar waith, mae digon o gyfleoedd.

Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym wedi bod yn meddwl yn ddwys am y ffordd orau y gallwn hyfforddi ein cerddorion ar gyfer y dyfodol, gan ofyn sut y gallant siapio diwydiant y dyfodol, cyfoethogi amrywiaeth a chymhlethdod cymdeithasau cyfoes, gan weithio o graidd eu crefft a’u dawn artistig fel perfformwyr a chyfansoddwyr i wneud gwahaniaeth.

Ddatblygu cerddorion fel ‘gwneuthurwyr’ mewn cymdeithas

Mae’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans a’i dîm wedi creu ffordd arloesol ymlaen, gan chwalu unrhyw syniad o dethol aruchel a chanolbwyntio ar ddatblygu cerddorion fel ‘gwneuthurwyr’ mewn cymdeithas: bod wedi’u trochi mewn cymunedau, cydweithrediadau creadigol, entrepreneuriaeth yn rhannau annatod o’u datblygiad artistig, a gyda phwyslais ar amrywiaeth cynulleidfaoedd ymhlith pethau eraill. Mae hyn yn greiddiol i’n cynnig BMus newydd.

'Mae’r egwyddor o gofleidio byd y tu hwnt i sgil crefft ddofn unigolyn – ond ar yr un pryd ei hogi – yn berthnasol i bob math o addysgu a dysgu cerddoriaeth. Gall yr egwyddor o gerddoriaeth yn ‘gwneud’, gan ddod â dimensiynau artistig a chymdeithasol ynghyd, helpu i symud Cymru ymlaen mewn ffyrdd newydd ac arloesol.'
Helena GauntPrifathro RWCMD

Yn unol ag ysbryd y cwricwlwm cenedlaethol newydd, a gyda gwreiddiau dwfn o draddodiadau diwylliannol Cymru, gallwn ddangos yn ddiamheuaeth bod Cymru yn feiddgar a balch, yn arweinydd mewn celfyddydau a diwylliant – heb ofni bod yn wahanol.

Fel Coleg o’r radd flaenaf, rydym yn canolbwyntio ar y berthynas a dybir yn aml yn un sy’n gwrthdaro, ond sydd mewn gwirionedd yn naturiol, rhwng bod yn arbenigwr a bod yn gynhwysol. Mae’r rhain yn perthyn i’w gilydd ac mae angen iddynt weithio fwyfwy gyda’i gilydd os yw’r celfyddydau i fod yn rhywbeth i bawb ac yn rhan o bawb, nid dim ond yr ychydig ffodus.

'Mae dod â’r celfyddydau mynegiannol i’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer pob person ifanc yn dibynnu ar yr un egwyddor – arbenigedd a chynwysoldeb yn cydweithio i greu gwahaniaeth, yn greadigol ac yn gymdeithasol – ymrwymiad dwfn i’r celfyddydau ochr yn ochr â diwylliant fel rhywbeth ‘cyffredin’.

Mae’n golygu cysylltu gwerthoedd a blaenoriaethau sydd yn y gorffennol wedi cael eu hystyried yn llawr rhy aml fel nodweddion sy’n cystadlu a gwrthdaro.'
Helena GauntPrifathro RWCMD

Mae’r rhain yn flaenoriaethau megis: ymreolaeth artistig ac arbenigedd crefft ar y naill law, ac ar y llaw arall y gymdeithas ac agweddau cymdeithasol creu cerddoriaeth, p’un a yw hyn yn ymwneud â chysylltu ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd neu’n mynd ymhellach er enghraifft yn rhagweithiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, unigrwydd ac arwahanrwydd, neu i archwilio heriau cymdeithasol mawr fel ymfudo, newid yn yr hinsawdd, gwrthdaro a thrais.

Ysgrifennodd Raymond Williams Culture is Ordinary ym 1958, felly pam fod cyn lleied wedi newid mewn gwirionedd? Efallai bod hyn yn rhannol oherwydd amharodrwydd neu anallu mewn gormod o feysydd i gysylltu’r gwerthoedd a’r blaenoriaethau hyn yn llawn. Ond ar hyn o bryd, mae brys fel nas gwelwyd o’r blaen, ac mae’r amodau yng Nghymru yn addawol. Mae angen i ni fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwnnw.

O’n campws a chanolfan gelfyddydau yn CBCDC ar Heol y Gogledd, mae’n fraint cael gweithio gydag enghraifft wych o’r math hwn o newid ar waith.

Ensemble gwobrwyedig a hyblyg o gerddorion disglair sy’n dod o gefndiroedd ac â dylanwadau amrywiol yw Manchester Collective, sydd wedi ymrwymo i drochi mewn cymunedau. Yn hytrach na dilyn eu trywydd cerddorol ac yna gweithio allan pwy yw’r gynulleidfa, maent yn troi’r cysyniad ar ei ben a gofyn yn gyntaf ble allan nhw wneud gwahaniaeth ac yna dechrau gweithio mewn modd artistig o’u gwerthoedd craidd, eu repertoires a’u sgiliau.

Y chwaraewr soddgrwth Abel Selaocoe yn rihyrsio gyda myfyrwyr soddgrwth CBCDC ar lwyfan Dora Stoutzker

Gan gyfuno diben cymdeithasol ac artistig yn glyfar, maent wedi datblygu nifer o brosiectau arloesol yn ystod y cyfnod clo sydd wedi cydio mewn calonnau a meddyliau. Ac maent nawr hefyd yn cyfrannu at newid trawsnewidiol ar gyfer ein rhaglen BMus newydd.

I ddychwelyd at yr eliffantod, neges graidd yr hyn y gellir ei ystyried yn ymgyrch gelf amgylcheddol yw bod lle i ddynoliaeth a natur ar y blaned hon. Un math yn unig yw hon o broses creu artistig sydd wedi’i throchi mewn cymdeithas. Mae yna le i gymaint mwy o fathau arloesol sydd eto i’w dychmygu, ffyrdd i artistiaid ymgolli yn eu cymunedau yn lleol ac yn fyd-eang.

'Gan droi ein golygon at 2022, rydym ni yn CBCDC yn edrych ymlaen at agor pob math o bosibiliadau pan fyddwn yn ail-siapio Hen Lyfrgell Caerdydd. Bydd yn gatalydd i fynd yn llawer pellach wrth droi’r syniadaeth hon yn weithredu a dychmygu’r annirnadwy.'
Helena GauntPrifathro RWCMD

Yn yr haf, byddwn yn rhannu rhagor ar ein gweledigaeth ac yn gwahodd eraill i ymgysylltu â ni i’w datblygu a symud ymlaen i’w gwireddu.

Ysgrifennodd Raymond Williams,

‘bod yn gwbl radical yw gwneud gobaith yn bosibl yn hytrach nag anobaith yn argyhoeddedig’.
Raymond WilliamsMae Awdur Diwylliant yn Gyffredin

Dyma’r adeg i fod yn radical yn yr union ffordd honno.

Wrth i ni deithio ymlaen trwy’r pandemig byd-eang, dyna ein hymrwymiad yn CBCDC. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i chwarae ein rhan.

Yr Athro Helena Gaunt yw Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’n brif siaradwr yn Strengthening Music in Society: The way forward for UK Conservatoires – cynhadledd i ddod â lleisiau a safbwyntiau allweddol ynghyd o bob rhan o’r sector cerddoriaeth glasurol i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu conservatoires y DU a’r system cerddoriaeth glasurol ar hyn o bryd.

Mae’r papur y mae’n gyd-awdur arno Musicians as ‘Makers In Society’ yn rhoi sylw i’r prif themâu sydd wedi deillio o brosiect rhyngwladol pedair blynedd AEC.

Diolch Institute of Welsh Affairs.

Storïau eraill