Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Pianos Steinway: Rolls Royce y Byd Pianos

Derbyniodd y fyfyrwraig MA Cyfansoddi Julia Plaut her frawychus ond llawn ysbrydoliaeth i ddathlu statws newydd y Coleg fel Conservatoire Steinway yn Unig cyntaf y Byd.

Ar ôl ysgrifennu darn dathliadol yn arbennig ar gyfer y diwrnod, roedd yn rhaid iddi ddwyn ynghyd 24 o bianyddion yn chwarae 24 o Steinways newydd sbon i’w berfformio – gyda dim ond awr o rihyrsal yn yr un ystafell, ac yn arwain o’r oriel.

Hwn oedd perfformiad cyntaf nifer o’r pianyddion ers y clo mawr. Gallwch weld yma sut yr aeth pethau. Nid oedd modd i ni rannu’r perfformiad gyda chynulleidfa fyw fel yr oeddem wedi bwriadu, ond mae’r ffilm hon yn cyfleu rhywfaint o’r llawenydd wrth i gymuned ein Coleg ddod ynghyd ar gyfer perfformiad cydweithredol unwaith mewn oes.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Steinways yw Rolls Royce y byd pianos Maent yn swnio mor gyfoethog ac yn ymateb mor dda i gael eu chwarae.’

Roeddwn am i’r darn 24 Pianos fod yn ddathliadol, gan fwynhau natur gydweithredol y perfformiad, a gwychder y Steinways newydd hyn yn cyrraedd y brifddinas.'
Julia Plaut

24 Pianos, y Cyfansoddiad

‘Mae’r darn yn ymgorffori darnau o’r gân werin Gymraeg lawen Clychau Aberdyfi, yn ogystal â dylanwadau cerddoriaeth Steve Rieth a Shostakovich,’ esboniodd.

‘Mae’r gerddoriaeth yn dechrau pan fo’r gong enfawr yn ‘deffro’r’ holl bianos a gwneud iddynt ddechrau ateseinio a phelydru. Yna bydd un o fyfyrwyr y Conservatoire Iau yn chwarae’r unawd cyntaf.’

‘Yn raddol mae pob un o’r pedwar piano ar hugain yn ymuno gan greu seinwedd hypnotig. Mae adran gorawl sy’n dwyn i gof Gôr Meibion o Gymru yn arwain i mewn i adran grynedig gymylog. Yna mae’r cymylau’n codi i roi diweddglo gorfoleddus ac aruthrol – yn union fel cyrraedd copa Pen y Fan.’

Sut deimlad oedd cyfansoddi ar gyfer 24 Steinway?

‘Rwy’n teimlo’n ffodus dros ben i fod yn perfformio o gwbl ar hyn o bryd, ond i gael adnoddau mor wych â 24 Steinway, 24 o bianyddion hynod abl a brwdfrydig, a gofod pensaernïol trawiadol i arwain fy ngherddoriaeth fy hun yn fendith fawr.'
Julia Plaut

‘Blodeuodd y Steinways yn y gofod a boed hynny’r motif cyntaf a chwaraeir gan un plentyn neu bob un o’r 24 offerynnwr yn rhaeadru’n llawen drwy’r amrediad llawn yr offerynnau, roedd y sain yn wefreiddiol. Dywedodd un gwrandäwr wrthyf ei fod wedi cael croen gwydd. Un diwrnod rhyfeddol a bythgofiadwy.’

Sut brofiad oedd chwarae un o’r Steinways newydd, yn arbennig wedi’r clo mawr?

Mae’r répétiteur a Chôr-feistr gyda’r WNO, David Doidge, yn hen law ar chwarae pianos Steinway newydd sbon gan ei fod yn un o’r perfformwyr pan gyrhaeddodd 62 piano Steinway newydd y Coleg yn 2009.

‘Roeddwn i mor falch i gael bod yn rhan o’r digwyddiad arbennig a hanesyddol hwn i’r Coleg. Rwy’n cofio deng mlynedd yn ôl pan gyrhaeddodd y casgliad cyntaf o bianos Steinway, ac roeddwn i’n un o’r ychydig fyfyrwyr ffodus a gafodd gyfle i’w chwarae gyntaf bryd hynny, felly mae cael gwahoddiad yn ôl i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn yn un a fydd yn aros yn y cof.

Hwn hefyd oedd fy mherfformiad cyntaf wedi’r clo mawr, ac roedd hynny’n ei wneud hyd yn oed yn fwy emosiynol a phleserus. Credaf fod CBCDC yn haeddu’r gorau gan ei fod yn buddsoddi cymaint yn ei fyfyrwyr, ac mae’r ganolfan hon o ddoniau yn un rydw i’n falch tu hwnt i fod yn rhan ohoni nawr fel aelod staff.’
David DoidgeChôr-feistr gyda’r WNO
Y pianos cyngerdd Steinway yn y cyntedd

I Amy Reynolds, myfyriwr allweddellau sydd yn ei bwlyddyn olaf, roedd yn brofiad cwbl unigryw: ‘Rydw i wedi chwarae gyda cherddorfeydd yn y gorffennol ond erioed mewn ensemble o 24 piano!’ meddai.

‘Roeddwn i’n teimlo’n weddol emosiynol pan ddechreuom rihyrsio gan mai hwn oedd fy mherfformiad cyntaf mewn chwe mis. Roedd gallu chwarae gyda cherddorion eraill unwaith eto yn wych.

‘Mae’r ffaith y bydd yr holl bianos rydym nawr yn eu chwarae yn y Coleg yn rhai Steinways yn wych. Rydw i hyd yn oed wedi gwneud nodyn o rif cyfresol y piano y gwnes berfformio arno fel y gallaf geisio dod o hyd iddo!

Bydd y Steinway Spirio yn gweddnewid ein dysgu, yn arbennig gan y byddwn yn gwneud llawer mwy o ddysgu o bell y tymor hwn. Byddant yn rhoi posibiliadau di-ri i ni.’
Amy Reynolds

Roedd chwech o’r pianyddion o Gonservatoire Iau y Coleg:

‘Roedd chwarae ochr yn ochr â 23 piano Steinway newydd sbon yn brofiad rhyfeddol,’ meddai Ieuan Davies.

‘Roedd y sain yr oedd yr offerynnau hyn yn ei wneud yn rymus tu hwnt ond eto’n glir iawn ac roedd y teimlad o chwarae’r pianos hyn a minnau ond wedi chwarae fy mhiano talsyth gartref ers misoedd yn hynod oherwydd ei fod cymaint yn well!’

‘Roedd y darn yn un hwyliog iawn i’w chwarae, gyda’i harmonïau hyfryd, ei rythmau croes diddorol ac amrywiad o ran deinameg rhwng y rhannau yn creu byd o sain sy’n dangos hyblygrwydd y Steinways hyn.

Mae’r perfformiad hwn yn sicr wedi bod yn brofiad unwaith mewn oes ac ni fyddwn wedi gallu gofyn am well cyfle cyngerdd wedi cymaint o fisoedd dan glo.’

Ychwanegodd Jada Lane, pianydd yn y Conservatoire Iau:

‘Roedd chwarae gyda’r holl bianyddion Steinway eraill yn fraint wirioneddol.

Rydw i wedi cael fy addysgu mewn gweithdy piano CBCDC ers fy mod yn saith mlwydd oed, felly roedd chwarae fel rhan o dîm yn brofiad cymharol arferol, ond roedd yn dal yn ddiwrnod cofiadwy iawn, a nawr rydw i eisiau fy Steinway fy hun!’
Jada Lane

Storïau eraill