Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Celfyddydau Cynhyrchu Pobl Ifanc: Rhoi sylw i gefn llwyfan

Yn ddiweddar gwnaethom groesawu’r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr theatr drwy ein drysau i gymryd rhan yng ngweithdai Celfyddydau Cynhyrchu Pobl Ifanc (YPPA) y tymor, a noddir gan Bad Wolf.

Mae YPPA yn helpu pobl ifanc rhwng 11-18 oed i ddarganfod y gwir ryfeddod sy’n digwydd y tu ôl i lenni byd teledu a’r theatr, y sgiliau hollbwysig sy’n gwneud i bopeth weithio. Gallant ddysgu sgiliau sy’n cynnwys goleuo, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, cynllunio gwisgoedd a setiau.

Cynorthwywyd gweithdai’r Pasg gan Sanjana, sy’n astudio ar gyfer MA mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio yn y Coleg.

Helpodd i arwain gweithdai mewn cynllunio goleuo, gwisgoedd, a gwneud masgiau, a chaiff ei chefnogi yn ei hastudiaethau gydag ysgoloriaeth gan gwmni cynhyrchu Bad Wolf o Gaerdydd.

Gwnaethom ofyn i Sanjana beth oedd hi’n ei fwynhau fwyaf am gynorthwyo gyda’r gweithdai’r YPPA:

‘Un o’r pethau gorau a gefais o’r gweithdy hwn oedd gweld sut y gwnaeth yr holl bobl ifanc blymio i mewn i’r tasgau a roddwyd iddynt a chael llawer o hwyl yn y broses o wneud y propiau, gwisgoedd a dysgu sut i oleuo set!'
Sanjana

Roedd yn ffordd wych i atgoffa fy hun i fwynhau’r broses o wneud fy ngwaith, heb feddwl gormod am yr allbwn.’

Mae’r diwydiant theatr dechnegol yn tyfu’n gyflym, ac mae galw am ymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda.

Mae llawer o’n graddedigion bellach yn gweithio’n broffesiynol gyda Bad Wolf a chwmnïau eraill ar gynyrchiadau teledu uchel eu proffil fel His Dark Materials.

Gweithrediadau Technegol

Mae cael myfyrwyr medrus fel Sanjana sy’n gallu trosglwyddo eu gwybodaeth ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn gyfle gwych.

‘Roedd bod yn rhan o’r gweithdai hyn sy’n galluogi pobl ifanc i gael mewnwelediad i’r diwydiant a meithrin eu galluoedd cynllunio yn brofiad mor werth chweil i mi.’
Sanjana

‘Mae gallu cyfrannu a helpu i ddatblygu’r gymuned cynllunio yn rhywbeth y byddwn i wrth fy modd yn ei wneud yn y dyfodol hefyd.’

Storïau eraill