Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Adeiladu Golygfeydd: Adeiladu Dyfodol yn y Diwydiant Celfyddydau

Crëwyd y cwrs Adeiladu Golygfeydd newydd i lenwi bwlch ar gyfer gweithwyr adeiladu cymwys a hynod fedrus ym maes y theatr a’r diwydiant ffilm a theledu sy’n ffynnu yng Nghymru, y mae’r Coleg yn chwarae rhan fawr yn ei fwydo.
‘Mae gwaith adeiladu golygfaol yn ffynnu ochr yn ochr â chynnydd mewn cynhyrchu Ffilm a Theledu yng Nghymru.

Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.’
Hannah RaybouldRheolwr Gweithrediadau Bad Wolf

Mae’r myfyrwyr cyntaf ar y cwrs newydd sbon hwn wedi bod yn brysur yn gweithio ar sioeau’r Coleg ac maent nawr ar eu ffordd i’w lleoliadau gwaith cyntaf.

Gofynnom i bump ohonynt pam eu bod wedi ymuno â’r cwrs newydd hwn, a beth oeddent yn gobeithio ei ddysgu:

Pam astudio adeiladu golygfeydd?

Daw’r myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, ond mae gan bob un ohonynt angerdd am eu gwaith ar y cwrs.

Roedd Jake Bourne wedi bod yn gweithio ym maes adeiladu, yn gwneud popeth o osod ceginau i blastro a theilsio. Nid oedd wedi meddwl y byddai’n mynd i brifysgol cyn iddo weld y cwrs hwn.

‘Mae gweithio ar setiau yn llawer mwy diddorol, gan ei fod yn ychwanegu elfen greadigol i’r gwaith,’ meddai Jake. ‘Gallwch wneud eich gwaith y rhywbeth personol.’

Gan ymuno â’r cwrs yn syth wedi ei arholiadau Safon Uwch, bu gan Will Houghton ddiddordeb erioed mewn cynllunio ac adeiladu. Roedd y ffaith bod y cwrs hwn yn un newydd sbon yn gyffrous iddo oherwydd, fel un o’i fyfyrwyr cyntaf, gallai helpu i’w siapio.

Roedd G Williams a Harry Holtam hefyd wedi bod yn astudio ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch. Dywedodd G ei fod yn gwybod ei fod eisiau gweithio yn y celfyddydau, ond nid mewn swyddfa;

‘Fe es i ar ymweliad â Choleg Brenhinol Cymru ac roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau bod yno gan fod pawb mor gyfeillgar a chroesawgar.’
G Williams

Roedd Harry yn cytuno, ‘Alla’i ddim gweld fy hun yn eistedd mewn swyddfa, neu mewn darlithoedd. Gwelais y cwrs hwn a meddwl bod hynny’n debycach i fi.’

Gweithdy Llanishen

Roedd Hannah Walters wedi astudio Gwaith Coed Safle yn flaenorol ac nid oedd yn gweld ei hun yn gweithio ar safle adeiladu. ‘Roeddwn yn chwilio am gyrsiau eraill a daliodd hwn fy sylw. Gallwch adeiladu nifer o wahanol bethau ar gyfer un set.’

Cael lle ar y cwrs

Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad er mwyn siarad am y cwrs a’u diddordebau.

I Will, roedd y cyfweliad yn debycach i sgwrs. ‘Doedd neb yn ceisio eich dal allan, roedden nhw am ddod i’ch adnabod. Roeddwn i’n fwy nerfus nag y dylwn fod wedi bod.’

Gweithdy Llanishen

Cytunodd Harry ei fod yn brofiad ‘cyfeillgar a chroesawgar iawn.’

‘Roedd siarad â’r darlithwyr wedi cadarnhau bod hwn yn gwrs oedd ar gael i rywun fel fi oedd â dim cefndir, a thawelodd hynny fy meddwl,’ meddai G wedi ei gyfweliad.

Y Cwrs Adeiladu Golygfeydd

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Mae’r myfyrwyr yn dechrau ar eu cwrs ym mis Awst, yn hytrach na mis Medi fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr. Maent yn dysgu sgiliau craidd yn Stiwdios Llanisien, lle mae’r cwrs wedi’i leoli, ac mae hyn yn eu helpu i setlo i mewn i’r gweithdy cyn ei fod yn prysuro.

‘Mae’r cwrs yn ddiddorol dros ben,’ meddai G. ‘Rydych bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i wneud pethau.’

Gweithiodd y myfyrwyr ar gynyrchiadau tymor yr hydref Cwmni Richard Burton y Coleg: Human Animals yn Stiwdio Caird, Sweat yn Theatr Richard Burton ac Appropriate yn Theatr Bute.

‘Wrth weithio ar y setiau fe fydd her newydd bob amser, rhywbeth sydd angen ei ddatrys, ond mae’r grŵp yn gweithio fel un tîm mawr, yn helpu ei gilydd i ddod o hyd i atebion,’ meddai Hannah.

Myfyrwyr yn gweithio ar ddarn ar gyfer set Human Animals

‘Roedd gweld sut mae’r sioeau’n dod ynghyd gyda’r setiau yn gwneud i mi sylweddoli beth oedd y nod terfynol a faint o waith roeddem wedi’i wneud,’ ategodd G.

Cam Nesaf: Lleoliadau

Mae Will ar ei gyntaf o bump lleoliad allanol y bydd yn eu mynychu dros ddwy flynedd y cwrs a hynny gyda Wild Creations, un o bedwar partner yn y diwydiant y cwrs.

Mae’r cwmni, a sefydlwyd gan Matt Wild a raddiodd ar gwrs Rheoli Llwyfan y Coleg, yn creu’r ‘hynod a’r rhyfeddol’, er enghraifft y Bêl yn y Wal enwog ar ochr Castell Caerdydd i ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd yn y ddinas.

‘Rydw i wedi dysgu cymaint mwy nag a feddyliwn y byddwn byth yn ei ddysgu, a hynny mewn dim ond pedwar diwrnod.

Mae yna wastad mwy i’w ddysgu ar y cwrs’.
Will Houghton

Bydd y myfyrwyr eraill yn mynd ar leoliadau yn fuan, gyda G a Harry yn ymuno â Bay Productions, sy’n gweithio gyda chwmnïau celfyddydau mawr gan gynnwys y National Theatre a Disney ac yn creu setiau ar gyfer sioeau’r West End megis Frozen.

Yn y cyfamser, bydd Hannah a Jake yn mynd i 4Wood, sy’n adeiladu setiau ar gyfer Doctor Who ymhlith cynyrchiadau eraill.

Anna Karenina
‘Hyd yma mae’r cwrs wedi bod yn union fel y byddwn i wedi’i ddychmygu. Pe byddwn yn gallu creu fy nghwrs delfrydol byddai fel yr hyn rydym yn ei wneud nawr.’
Will Houghton

Edrych i’r dyfodol

‘Mae’n debyg mai Caerdydd yw un o’r mannau gorau ar gyfer y diwydiant hwn.

Mae cymaint o wahanol gwmnïau yma, boed eich bod eisiau mynd i faes ffilm a theledu neu’r theatr. Mae Caerdydd yn lle da i fod yn fyfyriwr, mae’n ddinas brysur a llawn bywyd. Mae’r bobl yn gyfeillgar iawn hefyd.’
Jake Bourne

‘Mae’r ffaith bod pedwar o’r partneriaid yn y diwydiant o fewn radiws o filltir i’w gilydd yn wych, a’u bod i gyd yn chwilio am weithwyr,’ meddai Will. ‘Felly mae’n dda gwybod pan fyddwn yn graddio bod y gwaith mwy na thebyg yn aros amdanom.’

Storïau eraill